´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

´óÏó´«Ã½ Homepage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
Jeff Williams Tensiwn yn Copenhagen
Datganiad annisgwyl yn bygwth troi'r drol

Nos Fawrth Rhagfyr 8

Heno cynhaliwyd cynhadledd frys i'r wasg gan y G77, sef y grŵp trafod o'r gwledydd sy'n datblygu.

A hynny'n ymateb i ddatganiad drafft o Ddenamrc a gafodd ei "ollwng" i John Vidal o'r Guardian y prynhawn yma.

a gafodd ei ddatgelu - yr hyn a fedyddiwyd yn "Danish text" ond yn ôl y sôn, yn ddatganiad cytundeb drafft a gafodd sêl bendith gwledydd Prydain, Denmarc ac UDA. ddiwedd yr wythnos diwethaf.

Dweud ei farn
Un gŵr oedd ar y llwyfan heno, sef Lumumba Stanislaus Di Aping, prif lefarydd grŵp y G77. Yn ddiflewyn ar dafod, dywedodd ei farn mewn ystafell orlawn.

"Mae hyn yn ddatblygiad difrifol ond yn ddatblygiad anffodus iawn sy'n bygwth llwyddiant trafodaethau Copnehagen," meddai, cyn esbonio sut y byddai cynnwys y datganiad yma yn dinistrio'r unig gyfreithiau presennol ar newid hinsawdd (Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd a Chytundeb Kyoto).

Aeth ati i egluro ymhellach y byddai cynnig fel yr un a ollyngwyd i'r wasg yn golygu llif arian o wledydd tlawd i'r gwledydd cyfoethog, fyddai'n amddifadu gwledydd tlawd ymhellach o'u cyfran o ofod atmosfferig.

Nid oedd dim yn y datganiad ychwaith ynglŷn â chynigion y gwledydd tlawd eu hunain o beth y dylid ei gynnwys mewn unrhyw fargeinio.
Gofynnwyd i Lumumba Stanislaus Di Aping a oedd unrhyw beth annisgwyl yn yr ebost yma;

"Chefais i mo fy synnu na fy syfrdanu gan y cynnwys," meddai, "dyw e ddim yn beth newydd gan y Gorllewin."

Heb os nac oni bai, os mai gêm neu beidio oedd gollwng yr ebost hwn i'r wasg, mae siom a thensiwn yn awyr Copenhagen heno.


Llusern
Hanes Crefydd yng Nghymru
Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý