![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![Gwersyll a lein ddillad](/staticarchive/8abbb6f85bbfc15d2cbbb1659fb861911703972f.jpg) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
Lein ddillad a gwae Jeff Williams yn cael golwg ar fywyd mewn gwersyll ffoaduriaid |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
Pnawn Gwener
Neithiwr mi fum i'n rhan o Flash Mob cyntaf Denmarc
Un cyfarwyddwyd oedd yna: Cyfarfod am 1650 ar sgwâr Radhus. Yna am union 1650, ymddangosodd gŵr ifanc yn cludo baner Dilynwch Fi.
Gwersyll gwneud Arweiniodd ni yn y glaw fel un neidr hir drwy brif strydoedd siopa Copenhagen er mawr ryfeddod i'r siopwyr o'n cwmpas.
Erbyn cyrraedd yr eglwys gadeiriol, clywsom chwiban, a rhewodd' pawb - gan fy atgoffa o'r hen gêm musical chairs ym mharti Nadolig yr Ysgol Sul ers talwm.
Roedd tua 250 ohonom yno, yn aros yn ein hunfan y tu allan i wersyll ffoaduriaid a grewyd yn ystod y dydd gan wirfoddolwyr ifanc a
Roedd y gwersyll yn efelychu'r hyn a welir ar y teledu adeg trychineb, pan fo'n rhaid i bobl ffoi o'u cartrefi. Gwersyll cyflawn gyda phebyll dros dro, gwelyau o wellt fel mewn stabl, lein ddillad â dillad babi arni, man coginio cymunedol a thân mewn hen gasgenni olew i gynhesu'r trigolion.
Biliwn o bobl Wrth agor y 'Gwersyll' heriodd Henrik Stubkjær, Ysgrifennydd Cyffredinol Dan Church Aid ni i ddychmygu sut y byddem yn teimlo petaem yn gorfod gadael ein cartrefi, teuluoedd, diwylliant a chyfeillion a glanio rywle tebyg.
Mae'r UNHCR a'r Groes Goch yn amcangfrif y gallai 50 miliwn - 1 biliwn o bobl - fod yn ffoaduriaid amgylcheddol dros yr hanner can mlynedd nesaf a hynny o ganlyniad uniongyrchol i newid hinsawdd.
Cerdded allan Ganol nos neithiwr, cerddodd Lumumba Stanislaus Di-Aiping, y prif negydydd ar gyfer y G77, allan o gyfarfod gyda chadeirydd y gynhadledd.
Bu dadlau am dros awr.
"Mae'n debyg y bydd y gynhadledd hon yn cael ei chwalu gyda bwriadau drwg rhai pobl," meddai wrth deledu Denmarc bore'ma.
Falle y byddai'n dda i'r bobl negyddol hynny alw heibio'r gwersyll ar eu ffordd o Ganolfan Bela er mwyn cael cipolwg tra gwahanol ar bethau. Cipolwg ar realiti newid hinsawdd i rai o bobloedd y byd.
.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
![Llusern](/staticarchive/ec747cf9fb15da0ae821563e40885468d85d2f3e.gif) |
![Hanes Crefydd yng Nghymru](/staticarchive/80fdac41115d1718411640ad35a6e595e87e9e2b.jpg) |
![Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk](/staticarchive/ea38bf6d65be9abce06e8fed3cc90259859cc505.gif) |
|