|
Bore Llun, Rhagfyr 14
'Countdown to Co2penhagen - Cyfrif yn ol i Cop2penhagen'
Dyna slogan a delwedd a grëwyd gan griw o staff Cymorth Cristnogol yn seler ein swyddfa yn Llundain ac erbyn yr Uwchgynhadledd mae'r delweddau a'r sloganau ar faneri, crysau T a bathodynnau yng Nghanolfan Bella ac yn ddelweddau sy'n cael eu taflunio dros eglwysi ac adeiladau'r ddinas.
Ddoe, dydd Sul, roedd llwyfan mawr ar sgwâr y ddinas â baneri anferth Countdown to Copenhagen yn llenwi'r lle.
"Anhygoel yw gweld hyn i gyd," meddai un o'n swyddogion ymgyrchu heddiw. "Mae'n benllanw ymgyrch fawr ac i feddwl bod y cwbwl wedi deillio o un o'n 'stormydd syniadau' mewn seler yn Waterloo!"
Deiseb Desmond Tutu
A heddiw roedd yr Archesgob Desmond Tutu yn cyflwyno deiseb Cyfrif yn ôl i Co2penhagen, ac arni 512,894 o enwau, i Yuvi de Boer o'r Cenhedloedd Unedig.
A thestun balchder personol i mi yw bod miloedd o'r llofnodion hyn o Gymru - drwy'n capeli, ein cymunedau, sioeau haf a'r Eisteddfodau Cenedlaethol.
Cariodd John Shrouder, un o'r beiciwyr o Gymru, ddeiseb 500 io enwau o ysgol Crughywel yr holl ffordd ar ei sach gefn ar ei feic i'w cyflwyno yma heddiw.
Arestio cannoedd
Roedd nifer fawr o heddlu arfog yn bresennol o gwmpas y sgwâr. Nos Sadwrn ar y teledu gwelais bod cannoedd wedi eu harestio yma y diwrnod hwnnw. Pasiwyd deddf yn senedd Denmarc rai wythnosau 'nôl i ymestyn pwerau'r heddlu er mwyn caniatáu iddynt arestio pobl "ar amheuaeth" o greu trafferth.
Mae'n debyg i nifer gael eu harestio cyn yr orymdaith fawr ac mae'n resyn bod lleiafrif o bobl eithafol yn cipio penawdau'r newyddion, ar draul degau o filoedd o ymgyrchwyr sydd wedi gwneud yr ymdrech i deithio o bedwar ban byd i Copenhagen er mwyn lleisio eu barn yn heddychlon ar y strydoedd.
Araith Tutu
Mae Tutu yn un o fy arwyr i ac mewn araith rymus ac ysbrydoledig anogodd arweinwyr y byd i wrando, ac i bobl y byd barhau i ymgyrchu.
Atgoffodd ni bod anghyfiawnderau mawr wedi eu concro pan fo pobl o ffydd wedi ymgyrchu a sefyll yn gadarn.
Dywedodd bobl "Na" ac fe syrthiodd mur Berlin; dywedodd bobl "Na" ac fe chwalodd apartheid meddai gan ei hannog i fod yr un mor gadarn i wrthwynebu'r anghyfiawnderau sydd wrth wraidd dioddefaint yn sgil newid hinsawdd.
"Rydym yn perthyn i un teulu," meddai wrth annerch llond sgwâr o ymgyrchwyr.
"Rydym yn chwiorydd a brodyr i'n gilydd, aelodau un teulu, teulu dyn, teulu Duw. Rydyn ni'n perthyn i'n gilydd ... gadewch inni rodio gyda'n gilydd a gweithio gyda'n gilydd i greu byd gwell i bawb.
Mae'r byd yn ddigon mawr i bob un ohonom; dy' ni ddim angen rhagor o newyn, dim rhagor o dlodi, dim rhagor o ryfela.
"Rydym ni angen byd o heddwch, byd o chwerthin, byd o lawenydd, byd o ofalu am ein gilydd. Byd o . . ." - a dyma pryd y dawnsiodd Archesgob Tutu'n llawen oddi ar y llwyfan!
|
|