´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

´óÏó´«Ã½ Homepage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
Carwyn Jones a Jane Davidson yn cyfarfod bugeiliaid o Gujarat Carwyn Jones a'r bugeiliaid
Jeff Williams yn sgrifennu o Copenhagen
Nos Lun Rhagfyr 14
Heddiw cyfarfu Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, a'r Gweinidog Amgylchedd, Jane Davidson, â dirprwyaeth o Gymorth Cristnogol.

Cyflwynodd dau fugail o Gujarat yn yr India, gopi o'u hadroddiad Climate Crisis i'r Prif Weinidog.

Eglurodd Lalji Bhai, sy'n gweithio i un o bartneriaid Cymorth Cristnogol, MAGAR, yn ne India sut mae newidiadau eithafol ym mhatrwm y tywydd wedi effeithio ar ei fywoliaeth.

"Roedd gan fy nheulu gant o wartheg. Erbyn hyn, does ganddom ni ddim un; maen nhw i gyd wedi marw, a gorfu inni ffoi i'r ddinas", meddai.

Ac meddai Carwyn Jones, wrth dderbyn yr adroddiad gan y bugeiliaid, "Yn amlwg, mae newid hinsawdd yn broblem amgylcheddol a dyngarol. Byddai peidio dod i gytundeb teg a chynhwysfawr yn Copenhagen yn fethiant gwleidyddol."

Roedd y ddirprwyaeth hefyd yn cynnwys Jonathan Abbatt, Iestyn Davies, y Parchedig Andrew Sully a John Shrouder oedd wedi beicio i Gopenhagen fel rhan o ymgyrch Cymorth Cristnogol dros gyfiawnder hinsawdd a Branwen Niclas a minnau sydd yma ers wythnos.

Wrth gwrs roeddem ni'n hynod o falch i'r Prif Weinidog gyfarfod â dirprwyaeth o Gymorth Cristnogol ar ei ddiwrnod cyntaf yma yn Copenhagen gan ein bod ni yma i bwyso ar arweinyddion y gwledydd i gyrraedd cytundeb teg, uchelgeisiol erbyn diwedd yr wythnos, ac un cynhwysol fydd yn torri allyriadau carbon y byd wrth 80% erbyn 2020.


Llusern
Hanes Crefydd yng Nghymru
Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý