´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

´óÏó´«Ã½ Homepage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
Ail fyw y Croeshoeliad yn Jerwsalem Holi Pilat a Pedr
Dyddiau olaf Iesu drwy lygaid gohebwyr heddiw

Darlledwyd oedfa arbennig ar gyfer y Groglith ar ´óÏó´«Ã½Radio Cymru ar ffurf darllediad newyddion cyfoes gyda Rhun ap iorwerth yn cyflwyno ac yn holi yn y stiwdio ddau o brif gymeriadau y ddrama fawr . Dyma ddetholiad ohoni:

Darlledwyd yr oedfa am 1230 ddydd Gwener y Groglith a gellir gwrando arni hi yn awr ar

Cyflwyniad
Wythnos ar ôl gwneud tipyn o entrance i Jerwsalem, mae Iesu Grist, sydd wedi ei ddedfrydu i farwolaeth ar ôl treulio tair blynedd yn pregethu gair Duw, erbyn hyn ar ei ffordd allan o'r ddinas.

Ar hyn o bryd, mae'n anelu am Golgotha, efo croes ar ei gefn a milwyr yn ei yrru yn ei flaen. Mae disgwyl iddo gael ei groeshoelio rhwng dau leidr tua hanner dydd heddiw.

Mae'n eitha' tawel yma ar hyn o bryd, ond does yna ddim ond ychydig funudau ers i'r dorf basio fan hyn ac roedd hi'n gweiddi am waed y dyn ifanc.

I rai, mae Iesu Grist wedi gwneud gwaith cymdeithasol pwysig efo pobol dlawd a phobol sâl ond i eraill mae'n euog o dorri rheolau crefyddol pwysig ac o gymysgu efo puteiniaid a chasglwyr trethi.

Wrth fynd heibio fan hyn, mae'n rhaid i mi ddweud fod yna olwg druenus arno fo - mae o'n amlwg wedi cael ei guro a'i chwipio'n ddidrugaredd a phrin ei fod o'n gallu cerdded dan bwysau'r groes.

Dyna pryd y cafodd dyn, y mae pobol yn fan hyn yn ei alw'n Simon o Cyrene, ei orfodi i'w helpu fo i gario ei groes.

Yn y dorf, dw i'n credu i mi gael cip ar Ioan, un o'r deuddeg disgybl sydd wedi bod yn dilyn Crist dros y tair blynedd diwetha' yma - neu'r cwlt yma, yn ôl rhai.

Roedd Ioan i'w weld yn gofalu am Mair, mam Iesu, ac roedd yna rai merched eraill efo nhw. Roeddan nhw'n edrych yn welw iawn - mewn sioc, faswn i'n dweud - ac, yn naturiol bryderus.

Dw i'n gwybod bod yna duedd i ni or-ddefnyddio'r gair 'hanesyddol' ar achlysuron fel hyn ond mi ydw i am fentro darogan bod yr hyn sy'n digwydd yn Jerwsalem heddiw yn mynd i newid cwrs y byd.

Tra bod yr awdurdodau yn gallu arddel hanner buddugoliaeth wrth iddyn nhw gael gwared â'r rebel yma, mae Iesu Grist wedi gwneud digon o waith, dw i'n meddwl, i sicrhau na fedr pethau ddim bod yr un fath byth eto.

Ac o gofio'r wawr braf fu bore heddiw, mae'r awyr wedi rhyw ddechrau cymylu erbyn hyn . . .

Rhun ap Iorwerth:
Bore da, a chroeso arbennig i wrandawyr Radio Cymru i rifyn arbennig o'r Oedfa ar y diwrnod pan ydan ni'n disgwyl datblygiadau pellach yn achos Iesu Grist.

Rhun ap Iorwerth Y Sul diwethaf, roedd y gŵr 33 oed o Nasareth yn marchogaeth ebol asyn i mewn i ddinas Jerwsalem i gymeradwyaeth torf enfawr yn chwifio dail olewydd ac yn bloeddio "Hosana".

Erbyn heddiw, mae'r un bobol yn union wedi troi arno, mae ei ddisgyblion mewn panig, rhai wedi diflannu, rhai'n cuddio, un wedi ei wadu ac un arall yn cael ei feio am ei fradychu.

Fe allai'r chwyldröwr cymdeithasol ei hun fod yn farw ar groesbren cyn diwedd y pnawn.

Drwy gydol y rhaglen hanner awr arbennig hon, heddiw, mi fyddwn ni'n clywed gan ein gohebwyr o gwmpas y ddinas sydd wedi bod yn dilyn achos Iesu Grist gydol yr wythnos hon.

  • A fydd Iesu Grist yn cael ei groeshoelio?
  • A fydd o'n ei achub ei hun trwy wyrth?
  • A fydd o'n disgyn o'r groes?
  • Be' fydd yr ymateb i'w farwolaeth?

    Ond, yn ymuno â mi yn stiwdio'r Oedfa, mae dau gymeriad allweddol yn y stori ryfeddol hon, Rydan ni'n cael cwmni Pontius Pilat, y Rhufeiniwr o lywodraethwr ar wlad Jwdea, a'r un sydd wedi ildio i floeddiadau'r dorf am ryddhau carcharor o lofrudd, a dedfrydu Iesu Grist i farwolaeth.
    Bore da i chi.

    Pontius Pilat: (yn awdurdodol) Bore da.

    Rhun ap Iorwerth: Efo mi hefyd heddiw y mae un o aelodau'r Deuddeg, y grŵp o ddwsin o ddisgyblion sydd wedi bod yn dilyn Iesu Grist ers tua tair blynedd ac sydd bellach ar chwâl ar ôl i'w harweinydd gael ei arestio yng Ngardd Gethsemane.
    Croeso i chithau, Pedr.

    Pedr: (yn aniscr) Diolch.

    Rhun: Cyn troi at ein gwestai heddiw, dowch i ni glywed ychydig o'r cefndir i'r achos hwn.
    Nia Tudur sydd â hanes yr hyn ddigwyddodd wrth i'r achos gael ei glywed yng nghyntedd y prif offeiriad yn y Deml ...

    [Nia Tudur]

    Rhun: Wel, Pontius Pilat, mi ellid dadlau mai chi ydi un o bobol mwya' poblogaidd y wlad heddiw. Chi sy'n gyfrifol am benderfyniad mwya'r wythnos hon - yn gynta', rhyddhau'r llofrudd gwleidyddol, Barabbas, a dedfrydu Iesu Grist i farwolaeth.

    Pilat:
    Rydach chi'n dweud pethau ysgubol yn y fan yna.
    Petaech chi'n oedi am funud i feddwl am y sefyllfa ger fy mron i. Roedd gen i derfysgwr yn y carchar yn barod, a therfysgwr arall yn achosi terfysg ymhlith pobol Jerwsalem a thu hwnt.

    Doedd gen i, yn bersonol, nac ar sail cyfraith Rhufain, yr un achos dros ei groeshoelio, ond dewis y bobol, a barn yr archoffeiriaid, oedd ei fod wedi troseddu trwy ei alw ei hun yn Fab Duw.

    Rhun: Ond dyna chi eto, fel petaech chi'n golchi eich dwylo o'r penderfyniad. Chi ydi cynrychiolydd Rhufain yn Jwdea a chi oedd biau'r dewis - Barabbas neu Grist.

    A'ch dewis chi oedd achub Barabbas, a tharo croes ar gefn Crist.

    Pam na wnewch chi dderbyn y cyfrifoldeb, achos mae hwnnw'n syrthio'n sgwâr ar eich ysgwyddau chi, onid ydi o?

    Pilat: Rydach chi'n paentio darlun simplistig iawn, os ga' i ddweud.

    Fy ngwaith i, fel llywodraethwr Rhufain yn Jwdea, ydi cadw'r heddwch. Roedd yr Iesu Grist yma fel petai'n benderfynol o chwalu'r heddwch hwnnw ac achosi cythrwfl.

    Mi fyddai wedi bod yn anghyfrifol ar fy rhan i i beidio ag ymateb i gais y bobol.

    Rhun: Ond, dewch i ni glywed be'n union ddigwyddodd yn eich llys chi, Pontius Pilat. Aled Huw sy'n adrodd ...

    [Aled Huw]

    Rhun: Rydach chi'n gwrando ar rifyn arbennig o'r Oedfa ar Radio Cymru, wrth i ni olrhain un wythnos ryfeddol ym mywyd Iesu Grist.

    Yr hyn sy'n rhyfeddol, efallai, ydi'r ffaith ei fod o wedi rhyw fath o ragweld yr hyn oedd ar fin digwydd iddo yn ystod yr wythnos hon. Mae'n debyg ei fod wedi dod â'i ddisgyblion ynghyd mewn stafell uwchben un o'r tai yn strydoedd cefn Jerwsalem er mwyn eu paratoi.

    Cyn i ni glywed gan Pedr, un o'r disgyblion oedd yn y cyfarfod hwnnw, Alun Thomas sydd â'r cefndir.

    [Alun Thomas]

    Rhun: Wel, Pedr, ydach chi a'ch cyd-ddisgyblion ar chwâl?

    Pedr: Dan ni mewn sioc, mae hynny'n saff.
    A fi'n fwy na neb. Doedd gen i ddim syniad y basa'r pethau yma oedd Iesu'n sôn amdanyn nhw yn digwydd yr wsos yma.

    A do'n i ddim wedi sylweddoli chwaith ei fod o'n gallu darllen ein meddyliau ni fel gwnaeth o.

    Rhun: Ond, mi oeddech chi'n mynd o gwmpas yn dweud ac yn pregethu - a chi'n fwy taer na neb, efallai - mai Mab Duw oedd hwn.
    Oeddech chi ddim yn credu hynny, felly?

    Pedr:b Wrth gwrs mod i.
    Ond roedd pethau mor glir pan oedd Iesu efo ni. Oedd o'n foi sbesial. Oedd o'n gwneud i ni deimlo'n sbesial. Oedd gynno fo rwbath na dydw i ddim wedi ei weld yn neb arall.
    Fedra i ddim ei egluro fo ... Rhun: Eglurwch be' ddigwyddodd yn y cyfarfod ola' hwnnw gawsoch chi.

    Pedr: Oedd honno'n noson sbesial hefyd.
    Wna' i byth anghofio ein Swper Olaf.
    Oedd o fel tasa yna rywun arall yno hefyd ... rhyw ysbryd ... oeddan ni gyd yn reit ansicr o be' oedd am ddigwydd nesa' ...

    Mi ddechreuodd o trwy olchi'n traed ni i gyd a dweud mai dyma sut y dylsan ni drin ein gilydd, bod yn weision yn lle disgwyl i bobol weini arnan ni.

    Wedyn, mi gawson ni fara a gwin ... ac mi ddechreuodd o ddweud pethau rhyfedd.

    Rhun: Be' ydach chi'n feddwl, "rhyfedd"?

    Pedr: Sôn ei fod o am ein gadael ni cyn bo hir.
    Oedd o'n gwneud i rywun deimlo'n reit annifyr. Oedd o'n dweud fod yr amser wedi dod i gyflawni ewyllys Duw a bod isho i ni fwyta bara ac yfed gwin er mwyn cofio amdano fo.

    Rhun: Sut oeddech chi'n teimlo pan oedd o'n dweud y pethau yma?

    Pedr: Wel, mae unrhyw un sy'n fy nabod i'n gwbod fy mod i'n siarad cyn meddwl am be' ydw i am ddweud.

    Oedd Iesu'n sôn fod yna un ohonan ni'n mynd i'w werthu fo i'r awdurdodau, oedd neb yn gwybod be' i ddweud, felly dyma fi'n trio gwneud i bawb deimlo'n well.

    Wedyn, dyma fo'n dweud fy mod innau am ei wadu fo.
    Byth, medda fi.

    Rhun: Ond chadwoch chi ddim at eich gair, naddo?
    Dyma Sian Evans gyda'r stori.

    [Sian Evans]

    Rhun: Rydach chi'n gwrando ar rifyn arbennig o'r Oedfa ar Radio Cymru ar ddydd Gwener dramatig wythnos y Pasg.

    Efo fi, Rhun ap Iorwerth, yn y stiwdio y mae llywodraethwr Rhufain, Pontius Pilat, a Pedr, un o ddeuddeg disgybl Iesu Grist.

    Rydan ni wedi clywed Pedr yn sôn am yr hyn ddigwyddodd yn y Swper Olaf.

    Be' wnewch chi o'r hanes, Pontius Pilat?
    Ydach chi'n difaru dedfrydu'r dyn ifanc yma i farwolaeth?

    Pilat: Mi wnes i be' oedd yn rhaid imi ei wneud wythnos y Pasg. Doedd gen i ddim achos yn erbyn Crist, ond roedd y bobol yn galw am ei groeshoelio.

    Rhain oedd y bobol oedd, wythnos yn ôl, yn ei alw fo'n bob math o enwau canmoliaethus ac yn addo ei fod o am eu harwain nhw i ryddid.

    Mae'n amheus a fydd o'n gallu gwneud hynny rwan. (saib myfyrgar).

    Wyddoch chi, mae gen i ryw biti drosto fo - wedi'r cwbwl, roedd ganddo fo syniadau da, ac mi allwn i fod wedi cytuno efo fo petai o wedi gallu gweithredu o fewn y sustem.

    Ond, mi fethodd â gwneud hynny, ac mae dwy drefn elyniaethus i'w gilydd o fyd yr Iddewon a'r Rhufeiniaid wedi dod ynghyd i'w ladd.

    Rhun: Diddorol iawn.
    Pedr, be' wnewch chi efo'ch amser o hyn allan, rŵan fod y gŵr alwodd arnoch chi i adael eich gwaith fel pysgotwr wedi diflannu o'r sîn wleidyddol?

    Pedr: Mae'r gwaith yn para, siŵr.
    Mae'n rhaid i'r gwaith fynd yn ei flaen.
    A beth bynnag fydd yn digwydd i Iesu Grist pnawn yma, mae o'n mynd i atgyfodi.

    Rhun: Ond dowch rŵan, dydach chi ddim yn credu hynny.
    Mi ddywedodd Iesu Grist hefyd y byddai'n dymchwel ac yn ailgodi'r deml mewn tridiau.

    Sbin oedd hynny, tric diddanu'r torfeydd, ynde?

    Pedr: Naci wir.
    Fydd marwolaeth - dim ots pa mor erchyll - ddim yn ddiwedd ar stori Iesu, nac ar ei gariad.

    Dydi drygioni byth yn llwyddo i gael y gorau ar ddaioni. Dydi'r tywyllwch byth yn rhwystro'r goleuni'n llwyr.

    Rhun: Ond mae eich grwp bach chi ar chwâl, ac mae'r dyfalu wedi dechrau ynglŷn â pha un ohonoch chi wnaeth ei fradychu o.
    Sara Esyllt sydd â'r hanes ...

    [Sara Esyllt]

    Rhun: Oeddech chi am ymateb, Pontius Pilat?

    Pilat: Dim ond trwy ddweud ei bod hi'n werth nodi fod pobol yn ymateb yn y modd y maen nhw'n credu sydd orau dan wahanol amgylchiadau.

    Mae'n ddiddorol meddwl hefyd, tybed sut y bydd hanes yn ein barnu ni - fi a Jwdas Iscariot.
    Ai fel dau fradwr di-asgwrn cefn ynteu fel dau a wnaeth yr hyn oedd yn rhaid ei wneud.
    Dim ond meddwl ...

    Rhun: A lle'r ewch chi, Pedr?
    Mae Jerwsalem yn lle peryg iawn i ddilynwyr Iesu Grist rŵan ...

    Pedr: Mae angen mynd â'r stori yma i bob cornel o'r byd. A dyna dwi am wneud.

    Dyna fasa Iesu isho imi ei wneud. Mae gynnon ni gymaint i'w ddweud wrth gymaint o bobol.

    Dyna fydd fy ngwaith i rŵan ... neu, ar ôl imi ddod ataf fy hun, beth bynnag.

    Ddeudodd Iesu na fydd hi ddim yn hawdd.

    Rhun: Ac yn y fan yna yr ydan ni'n dod â'r rhifyn arbennig hwn o'r Oedfa i ben.

    Diolch i Pontius Pilat ac i Pedr am eu cwmni yn y stiwdio.
    Mi fydd y dadlau a'r trafod yn siŵr o barhau ... am o leia' ddwy fil o flynyddoedd.
    Bore da i chi gyd.


  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý