Mae dyfodol capel yn Llanelli yn y fantol wrth iddo ddathlu canrif a hanner. Mae yna ofidion y bydd yn rhaid i gapel Triniti yn y dref gau oherwydd bod yr adeilad yn beryglus.
Gallai atgyweirio'r adeilad gostio 拢150,000 ac mae selogion y capel yn gofidio na fydd hi'n bosib codi'r swm.
Agorwyd Capel Triniti ym 1858, ac roedd disgwyl dathlu mawr i nodi'r penblwydd arbennig hwn. Mi fydd yna ddigwyddiad, fodd bynnag, yng nghapel Bethel gerllaw.
Mae tipyn o hanes yn perthyn i'r hen gapel, gan i Oedfa gyntaf Radio Cymru yn y gymuned gael ei recordio yno. Fe ddefnyddiwyd yr adeilad i ddarlledu rhaglenni radio yn ystod yr Ail Ryfel Byd ar ol i ymosodiadau ddifetha adeilad y 大象传媒 yn Abertawe.
|