"Sefydlwyd cangen Bro Ddewi ar Fawrth 15 1983 yn Neuadd Gymuned Carnhedryn. Bu'r gangen yn cwrdd yna bob mis nes i'r neuadd gau yn 1994. Ers hynny yr ydym yn cwrdd yn Festri Seion, Capel y Bedyddwyr yn Nhyddewi. Byddwn yn cwrdd ar yr ail nos Fercher bob mis.
"Yr ydym yn 14 o aelodau yn cynnwys pedair sy'n dysgu Cymraeg. Byddwn yn canu c芒n y Mudiad ar ddechrau bob cyfarfod ac mae pob aelod yn talu t芒l aelodaeth ac yn derbyn pedwar rhifyn o'r Wawr bob blwyddyn.
"Mae rhaglen y flwyddyn yn amrywiol gan gynnwys siaradwyr, adloniant, ymweld 芒 lleoedd diddorol ac hanesyddol ynghyd 芒 dathlu Dydd G诺yl Ddewi a Nadolig gyda chinio.
"Byddwn yn gwahodd aelodau o'r canghenau eraill yn y rhanbarth atom o bryd i'w gilydd ac hefyd byddwn ni yn ymweld 芒'r canghenau hyn. Bob blwyddyn ym mis Medi bydd rhai o'r aelodau yn ymuno yn yr ysgol breswyl pan fydd Merched y wawr yn Genedlaethol yn cwrdd i fwynhau diwylliant Cymreig."
Nan George
|