大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Rebecca Jones Dihuno gyda Rebecca
Rebecca Jones o Gwmtawe yw cyflwynydd boreol newydd 大象传媒 Radio Cymru.
Sain

Pobl sy'n diddori Rebecca Jones o Gefn Bryn Brain yng Nghwmtawe - eu straeon, eu hanes, eu syniadau a'u sefyllfaoedd amrywiol. Does dim rhyfedd felly ei bod wrth ei bodd yn newyddiadura a'i bod yn edrych ymlaen yn arbennig at ei her ddiweddaraf o gyflwyno rhaglen gynta'r diwrnod ar donfeddi 大象传媒 Radio Cymru o fore Llun i fore Gwener.

"Wy ffaelu aros i gael dechrau ar y gwaith," esbonia Rebecca sy'n 33 oed. "Mae e'n gam i gyfeiriad tamed bach yn wahanol ond fi'n edrych ml芒n at y sialens."

A hithau wedi bod yn newyddiadurwraig gyda 大象传媒 Cymru ers dros wyth mlynedd bellach, bydd ei llais a'i wyneb yn gyfarwydd i lawer. Mae wedi cyflwyno straeon a thrafod pynciau'r dydd ar y Post Cyntaf, Post Prynhawn a Taro'r Post a chyn ymuno 芒 th卯m newyddion y 大象传媒 bu'n cyflwyno ar raglen Heno.

Mae Si芒n Gwynedd, Golygydd 大象传媒 Radio Cymru yn edrych ymlaen at groesawi Rebecca i'r t卯m cyflwyno boreol.

"Bydd Rebecca'n gaffaeliad i'r gwasanaeth. Mae'n ddarlledwraig brofiadol ar radio a theledu ac yn amlwg wrth ei bodd yn sgwrsio gyda phobl. Mae hi'n bersonoliaeth arbennig a dwi'n siwr y bydd hi'n gwmni difyr i'n gwrandawyr ben bore."

Cyn hir bydd Rebecca yn trafod cynnwys y papurau dyddiol gyda'r cyfranwyr cyson, yn sgwrsio gyda'i gwesteion yn y stiwdio ac yn rhoi gwrandawyr Radio Cymru ar ben ffordd ar ddechrau'r diwrnod. Bydd yr oriau gwaith newid yn golygu ffordd o fyw newydd i Rebecca.

"Dwi fel arfer yn gwneud tai-chi ar 么l codi gan fod hwnnw'n help i gadw'r corff yn iach a thawelu'r meddwl. Ond dwi'n amau a fydd amser i wneud hynna cyn cychwyn ar fy shifftiau," dywed gan chwerthin.

"Mae cloc larwm newydd 'da fi yn barod ar gyfer y boreau cynnar," ychwanega.

Gyda'i diwrnod gwaith yn dechrau am 4 y bore efallai bydd angen mwy nag un cloc larwm arni i sicrhau ei bod hi'n cyrraedd y stiwdio yng Nghaerdydd mewn da bryd!

Dydd Llun - Dydd Gwener, 大象传媒 Radio Cymru, 5am

  • Rebecca Jones a'i bro.

    Sain


  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy