大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Annette Davies Pencampwraig Sboncen yn herio'r pedair gwlad
Bu Annette Davies o Geredigion yn cynrychioli Cymru yn chwarae Sboncen yn 2005. Hi oedd y ddynes gyntaf o'r sir i wneud hyn, ac roedd yn ystyried y profiad yn fraint fawr.

Athrawes gyflenwi a gwraig fferm o Beulah ger Castell Newydd Emlyn yw Annette Davies wrth ei gwaith bob dydd ond mae hefyd yn aelod o d卯m Sboncen cymysg Aberteifi. Yn 2005, cafodd ei dewis i gynrychioli t卯m merched Cymru dros 45 oed, ym mhencampwriaethau y pedair gwlad ar Fai 13 a 14, yng ngwesty'r 'Vale Hotel' ym mro Morgannwg.

Annette oedd yr unig siaradwraig Gymraeg yn nh卯m Cymru y flwyddyn honno, a'r unig aelod o Geredigion. Roedd gweddill y merched yn dod o rannau eraill o dde Cymru, gan gynnwys Y Barri, Caerdydd, Castell-nedd ac Abertawe.

Er nad oedd Annette Davies wedi dangos diddordeb mewn chwarae sboncen tan ei bod yn ei hugeiniau cynnar, unwaith iddi ddechrau ymddiddori yn y g锚m, doedd dim troi yn 么l. Enillodd bencampwriaeth Dyfed yn y 1980au, cyn cael y fraint o chwarae dros Gymru yn y 1990au, wrth deithio i Gaeredin, ac yna i Felfast fel rhan o d卯m A Cymru.

Sgwod merched Cymru dros 40 oed a gynrychiolodd eu gwlad yng Nglasgow 2003.Ers hynny mae Annette Davies wedi cynrychioli Cymru ar lefel y Meistri (Masters) mewn t卯mau i ferched dros 35 oed, 40 oed a 45 oed.

Derbyniodd gyngor gwerthfawr gyda'i hyfforddwr Haydn Davies (cyn-gricedwr proffesiynol gyda Morgannwg.) Ef hefyd hyfforddodd Si芒n Johnson - sydd wedi bod ar fr卯g y g锚m yng Nghymru.

Berian, Dyfed a Nia (plant Annette Davies) mewn twrnament sboncen yn Abertawe 2004Er bod Annette yn bwriadu parhau i chwarae Sboncen mor hir 芒 phosib, mae hi hefyd yn hyfforddi eraill i chwarae'r g锚m, ac mae diddordeb y fam i'w weld yn ei phlant hefyd - mae Berian, Dyfed a Nia yn ymddiddori yn y g锚m, ac yn cystadlu mewn twrnamentau.

"Mae chware sboncen wedi bod yn gyfle ardderchog er mwyn teithio ac ymweld ag ardaloedd a dinasoedd na fyddem wedi meddwl mynd iddynt fel arfer" meddai Annette Davies, sydd wedi cwblhau gradd o Brifysgol Llambed ac yn gobeithio mynd yn 么l i ddysgu yn llawn amser.

"Mae'r profiad hefyd wedi rhoi cyfle i mi gwrdd a chymdeithasu, a gwneud ffrindiau da gyda chwareuwyr sboncen eraill.

"Mae wedi bod yn fraint ac yn gl么d i chware dros fy ngwlad, ac mae'n deimlad pleserus ar 么l yr holl waith caled o ymarfer sydd wedi ei wneud cyn cyrraedd y n么d. Rhaid cofio hefyd, heb gymorth Geraint a'r plant ni fyddem wedi gallu chware hyd at y safon yma."

Annette Davies
Mai 2005


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy