大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Taith Popty C2 yn codi'r to yn ysgolion Cymru
Wedi dros ugain o ysgolion, miloedd o ddisgyblion a channoedd o filltiroedd o deithio, mae Taith Popty C2 yn parhau i deithio.
Dydd Mawrth, Tachwedd 30 bydd yn dechrau ar gyfres arall o gerddoriaeth danllyd, cyflwyno hwyliog a gweithdai bywiog, yn ne a gorllewin Cymru y tro hwn. Ar y diwrnod cyntaf, Ysgol y Strade, Llanelli yw'r gyrchfan wrth i wyneb cyfarwydd ar S4C, Alex Jones, gyflwyno tair act gyfarwydd a phoblogaidd - Kentucky AFC, Maharishi a'r anhygoel Elin Fflur, sy'n addo siglo'r ysgol i'w seiliau.

Bydd cyfle hefyd i ddysgu yn ogystal 芒 mwynhau perfformiadau deinamig, wrth i'r criw cynhyrchu ddarparu gweithdai ymarferol i ddysgu sgiliau i'r disgyblion.

Ddydd Mercher (Rhagfyr 1), bydd Kentucky AFC, Maharishi ac Elin Fflur yn glanio yn Ysgol Dyffryn Teifi, Llandysul, lle bydd y perfformiadau bywiog yn cael eu cyflwyno gan Alex Jones eto.

Dydd Iau (Rhagfyr 2) bydd y daith yn symud ymlaen i Ganolfan Hamdden Llanbedr Pont Steffan, ar gyfer diwrnod arall o gyffro cerddorol.

Abertawe fydd cyrchfan y criw ar ddydd Gwener (Rhagfyr 3), ac Ysgol Bryn Tawe, Abertawe, i gloi wythnos arall o weithgareddau.

Mae Taith Popty C2 yn fenter unigryw yn yr ystyr bod 大象传媒 Radio Cymru, S4C a Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi ddod at ei gilydd am y tro cyntaf i ddarparu wythnosau o gynnwrf gyda rhai o fandiau gorau'r wlad tros gyfnod o chwech wythnos. Mae hyn wedi sicrhau bod hyd at 20,000 o ddisgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd Cymru wedi cael mwynhau'r gerddoriaeth orau, a hynny am ddim.

"Mae ymateb y disgyblion wedi bod yn wych," meddai Huw Meredydd Roberts, cynhyrchydd C2. "Mae'r gweithdai wedi dangos bod yna dalentau gwirioneddol allan yna. Yn y sesiynau hyfforddi sut i gynhyrchu rhaglen - o'r ochr dechnegol i'r ochr gyflwyno - mi fu'r disgyblion yn cynhyrchu rhaglenni go iawn sydd i'w clywed ar C2 dros yr wythnos.

Mae wedi bod yn gyfle iddyn nhw gael blas ar y diwydiant radio, a rhaid dweud bod ambell rai yn sefyll allan fel cyflwynwyr a chynhyrchwyr y dyfodol."

Bydd C2 ar Radio Cymru yn cynnwys uchafbwyntiau o'r daith a chyfraniadau gan ddisgyblion. C2: Dydd Llun-Dydd Gwener, 8pm. Dydd Sadwrn, 10.30am.

Bydd rhaglen arbennig Popty i'w gweld ar S4C ar ddydd Nadolig a bydd cyfres newydd o Planed Plant yn dechrau ar Ionawr 5, 2005. Mae tonfeddi lleol 大象传媒 Radio Cymru fel a ganlyn:

Llanelli 104.2FM
Llandysul 93.1FM
Llanbedr Pont Steffan 94.1FM
Abertawe 104.2FM

Mwy am daith Popty C2 yma.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy