大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y ffotograffydd Aled Rhys Hughes M么r Goleuni/ Tir Tywyll
Delweddau o waith Waldo Williams a oedd i'w gweld mewn arddangosfa arbennig yn Llyfrgell Genedlaethol Aberystwyth, o 16 Hydref hyd at 31 Rhagfyr 2004.
  • Cliciwch yma i weld detholiad o'r delweddau oedd yn yr arddangosfa yn y Llyfrgell Genedlaethol

    Ar achlysur dathlu canmlwyddiant geni Waldo Williams (1904-71), cynhaliwyd arddangosfa ffotograffau arbennig yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth yn talu teyrnged i un o'n llenorion mwyaf.

    Deillia'r arddangosfa o'r gyfrol Waldo Williams: M么r Goleuni / Tir Tywyll gan Wasg Gomer, ac roedd yn cyfosod dyfyniadau o waith Waldo Williams gyda ffotograffau soffistigedig Aled Rhys Hughes, gan herio confensiynau cyfforddus ein perthynas 芒 gwaith Waldo.

    Roedd yr arddangosfa yn ffrwyth cydweithio rhwng arbenigwr ar waith Waldo Williams, Damian Walford-Davies, a ddewisodd y dyfyniadau o waith y bardd, a'r ffotograffydd Aled Rhys Hughes o Rydaman.

    "Dyma arddangosfa sy'n herio'r 'llygad diog' y mae Waldo yn ei feirniadu yn y gerdd 'Bardd'. Trwy ddramateiddio cysyniadau creiddiol Waldo - t欧, goleuni, tywyllwch, ffenestr, cwmwl, bwlch, gwreiddyn, pren - mynega'r delweddau a'r dyfyniadau weledigaeth sy'n llwyr ymwybodol o draha ein hymwneud 芒'r ddaear, ac o ffyrnigrwydd ein hymwneud 芒'n gilydd," dywedodd Damian Walford-Davies ar y pryd, darlithydd yn Adran y Saesneg yn Aberystwyth.

    Roedd yr arddangosfa yn bwysig iawn i'r ffotograffydd Aled Rhys Hughes. "Fydda' i ddim fel rheol yn gweithio i gomisiwn, ond rwy'n adnabod ac yn hoff iawn o waith Waldo ac roedd hwn yn gynnig na allwn ei wrthod. Rwy'n teimlo fod Waldo'n siarad 'da fi ac yn deall sut rwy'n trin y tirwedd. Mae'n dipyn o arwr i mi a dweud y gwir - yn Gristion, Crynwr, Cymro a heddychwr," dywedodd y g诺r a fagwyd yn y Rhondda Fach, Cwm Llynfell a Rhydaman ac sydd nawr yn darlithio mewn ffotograffiaeth yng Ngholeg Penybont-ar-Ogwr.

    Siwrnai o fath a gynigwyd gan yr arddangosfa, trwy gyfrwng delweddau sengl, diptychau a thriptychau. Ond nid siwrnai saff o gyfyngdra 'ogof芒u'r nos' - rhaid i'r gwyliwr droedio ei lwybr personol ei hun.

    Roedd Michael Francis, Pennaeth Uned Arddangosfeydd y Llyfrgell Genedlaethol, ac un sy'n wreiddiol o Faenclochog ym mro Waldo Williams, yn hynod o falch i gynnal arddangosfa M么r Goleuni / Tir Tywyll.

    "Gyda geiriau y cysylltir enw Waldo Williams fel rheol, ond mae'r arddangosfa brydferth a theimladwy hwn yn rhoi lluniau a delweddau i ni roi wrth ei enw hefyd," meddai yn 2004.


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

    Sylw:




    Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy