Myfyrwyr hyn - Diffyg Addysg Ffurfiol
Fel arfer, mae'n rhaid wrth lefel A, lefel AS, GNVQ neu TGAU i sicrhau lle mewn prifysgol. Ond dydy myfyrwyr hyn ddim wedi eu cyfyngu gan yr un rheolau 芒 phawb arall. Gan fod sawl math o gwrs ar gael, bydd gan rai ofynion derbyn mwy llym na'i gilydd. Bydd pob darparwr cyrsiau yn gosod ei safonau ei hun ond bydd rhywbeth i weddu i bawb. Bydd llawer o fyfyrwyr hyn yn aml yn mynd ati i ddysgu o鈥檙 newydd neu ddechrau ar gwrs gradd er mwyn diwallu uchelgais bersonol - i brofi eu bod nhw鈥檔 gallu.
Gydag unrhyw gwrs sydd ar lefel is na gradd, byddai profiad proffesiynol neu gymwysterau sy'n cyfateb i lefel TGAU yn ddigon i sicrhau lle ichi. Wrth gwrs, brwdfrydedd ydy鈥檙 unig gymhwyster sydd ei angen ar gyfer cwrs dechreuwyr neu gwrs galwedigaethol! Os nad oes gennych chi lefel A neu gymhwyster cyfatebol, ac arnoch chi eisiau gwneud cwrs gradd, y brifysgol sydd i benderfynu a gewch chi eich dewis ai peidio yn dibynnu faint rydych chi鈥檔 ei wybod am y pwnc neu faint o brofiad sydd gennych chi.
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn dilyn cwrs mynediad mewn Coleg Addysg Bellach er mwyn mynd yn syth i gwrs gradd prifysgol. Fel arfer cwrs blwyddyn dwys ydy hwn i ddod 芒 myfyrwyr (hyn) at lefel lle gallan nhw fynd i brifysgol. Mae rhai prifysgolion yn cynnig HNC/HND, diploma neu gyrsiau sylfaen all eu codi i lefel astudio gradd. Bydd prifysgolion eraill yn cynnig eu 'cwrs carlam' eu hunain lle gall myfyrwyr ddechrau ar gwrs dros yr haf fel eu bod yn barod i ddechrau cwrs i israddedigion erbyn dechrau'r tymor. Mae hyd yn oed modd cofrestru yn 'fyfyriwr cysylltiol' i gael blas ar addysg bellach cyn cofrestru.
Mae sawl ffordd o gasglu cymwysterau, credydau a phrofiad sy'n rhoi allwedd i chi i gwrs eich breuddwydion. Mae help ychwanegol ar gael gan diwtoriaid y gwahanol feysydd ar gyrsiau addysg uwch, neu mae rhai cyrsiau yn darparu dosbarthiadau nos lle gallai myfyrwyr ennill y TGAU gofynnol er enghraifft.
WYDDOCH CHI?
|
Yn aml, gwybodaeth, cymhelliant a brwdfrydedd yw'r unig ofynion ar gyfer astudio ar gwrs!
|
Pryderon eraill:
Gwaith | Arian | Teulu | Oedran | Diffyg Addysg Ffurfiol | Gyrfa | Lincs
听
|