Myfyrwyr hyn - Teulu
Mae hi’n ddigon anodd treulio digon o amser gyda’ch plant a’ch teulu pan rydych chi’n gweithio’n amser llawn heb sôn am wneud hynny a dilyn addysg bellach. Weithiau mae’n golygu gweithio tu hwnt i oriau 9-5 arferol felly mae’r syniad yn un digon brawychus – digon i beri ichi anghofio amdano’n gyfan gwbl. Ond, mae dysgu a hyfforddi yn dod â sawl mantais i'ch teulu. Fe fyddwch chi’n:
1. Creu gwell dyfodol i’r teulu
2. Magu'ch plant mewn amgylchedd lle mae dysgu yn bwysig
3. Rhoi esiampl dda
4. Creu'r ymdeimlad o falchder ynoch chi'ch hun ac yn teimlo’ch bod chi’n cyflawni rhywbeth.
Mae llawer o fyfyrwyr hyn sy'n gofalu am deulu yn cyfaddef bod yn rhaid iddyn nhw aberthu i ryw raddau - mae gradd neu gwrs yn fuddsoddiad i'r teulu cyfan. Mae colegau'n sylweddoli bod gan fyfyrwyr hyn yn aml iawn fwy o flaenoriaethau a chyfrifoldebau na phobl ifanc 18 mlwydd oed ac fe fyddan nhw'n cymryd hynny i ystyriaeth. Mynnwch air â’ch tiwtor personol neu’ch cynghorydd academaidd os ydych chi’n ei chael hi’n anodd cadw rheolaeth ar eich bywyd teuluol a'ch astudiaethau ac fe allan nhw gynnig atebion a chyngor ymarferol ichi.
Atebion posib (yn dibynnu ar drefniadau’r coleg)
- meithrinfa yn y brifysgol
- dod â'ch plant i ddarlithoedd
- trefnu modiwlau fel bod y gwaith yn cael ei wneud o fewn oriau penodol
- cynnig ystafelloedd/flatiau i deuluoedd ar y campws
· gofalu bod nodiadau’r darlithoedd ar gael ar y mewnrwyd (y rhwydwaith mewnol)
- dosbarthiadau tiwtora unigol neu diwtora ar adegau sy'n gyfleus i chi
- amser ychwanegol i gwblhau asesiadau
- grwpiau rhiant i bobl sydd mewn amgylchiadau tebyg
WYDDOCH CHI?
|
Er bod cefnogaeth y teulu yn amhrisiadwy pan fyddwch chi'n dilyn cwrs, gall hefyd fod yn amser da i gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau, a chreu rhwydwaith o bobl sydd yn yr un cwch i gefnogi ei gilydd.
|
Pryderon eraill:
Gwaith | Arian | Teulu | Oedran | Diffyg Addysg Ffurfiol | Gyrfa | Lincs
Ìý
|