Myfyrwyr hyn - Oedran
Mae lluniau o fywyd prifysgol fel arfer yn dangos myfyrwyr ifanc, llon, ac o bosib â rhywun ychydig yn hyn wedi’i wasgu i’r gornel, er tegwch. Mae hi’n hawdd meddwl mai chi fydd yr hynaf ar y cwrs, neu hyd yn oed eich bod chi'n rhy hen i ddysgu. Mae nifer y myfyrwyr hyn sy'n dysgu sgiliau newydd ac yn ennill cymwysterau ledled gwledydd Prydain yn profi ganwaith drosodd nad ydy hynny’n wir.
Bydd rhwng 10% a 40% o fyfyrwyr y rhan fwyaf o golegau yn fyfyrwyr hyn – mae rhai colegau’n fwy poblogaidd nag eraill ymysg y garfan hyn. Bydd ganddyn nhw hefyd grwpiau neu gymdeithasau ar gyfer myfyrwyr hyn a gall y rhain fod yn ffordd dda o gymysgu â phobl eraill os nad ydych chi'n cwrdd â phobl ar eich cwrs neu yn y darlithoedd. Er hynny, fel arfer bydd myfyrwyr yn darganfod fod cymysgedd oedran ar gwrs yn golygu dadlau a sgwrsio bywiog – does dim gagendor amlwg rhwng myfyrwyr hyn a iau gan eu bod yn siwr o ganfod tir cyffredin. Does dim amheuaeth nad ydy o’n gam brawychus, ond bydd yno bob amser rhywun sy’n hyn na chi, a’r un fydd teimladau pob myfyriwr hyn cyn cofrestru ar gwrs. Mae addysg i bawb - dydi oedran ddim yn cyfri.
Pryderon eraill:
Gwaith | Arian | Teulu | Oedran | Diffyg Addysg Ffurfiol | Gyrfa | Lincs
Ìý
|