Myfyrwyr hyn - Gyrfa
Mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr hyn yn dilyn cwrs naill ai i fodloni diddordeb personol neu i ddatblygu eu gyrfa. Po fwyaf o gymwysterau neu hyfforddiant sydd gennych chi, po orau ydy rhagolygon eich gyrfa. Mae sawl myfyriwr hyn yn gofidio wrth orffen cwrs, neu hyd yn oed wrth ddechrau, y byddan nhw bob tro yn colli i ymgeisydd iau wrth gystadlu am swyddi. Dydy hyn ddim yn wir. Mae patrwm pendant yn ymddangos lle mae graddedigion hyn yn cystadlu am swyddi ar lefel gyfartal, waeth beth ydy eu hoedran, ac weithiau gall oedran fod yn fantais - bydd y myfyriwr hyn bron bob tro wedi cael profiad proffesiynol ac yn gyfarwydd 芒 gweithio mewn swyddfa neu amgylchedd gwaith.
Fe all dilyn hyfforddiant neu ddysgu eich cymell i newid eich gyrfa'n llwyr. Mae llawer o bobl sy'n teimlo鈥檔 rhwystredig yn eu swydd yn darganfod bod cymhwyster newydd yn gadael iddyn nhw wireddu eu breuddwydion neu symud i faes na allen nhw fyth fod wedi mynd iddo o'r blaen.
Bydd pob coleg yn cyflogi ymgynghorydd gyrfa hyfforddedig a gall ef neu hi dawelu'ch gofidiau, cynnig cymorth a chyngor ymarferol a rhoi hyder ichi fynd amdani.
Pryderon eraill:
Gwaith | Arian | Teulu | Oedran | Diffyg Addysg Ffurfiol | Gyrfa | Lincs
听
|