大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Hywel Gwynfryn Helynt Hywel efo pizza a moped!
Gari Williams yn sôn am ymweliad Hywel Gwynfryn â Rhufain
Mawrth 2002

Gari Wyn Williams - Rhufain - Mawrth 1, 2002

Rwy'n byw yn Rhufain ers rhyw flwyddyn a hanner, yn ffotograffydd i Agenzia Olympia ac yn tynnu lluniau pob mathau o drugareddau i gylchgronau a phapurau newydd, o brotestiadau, VIPs, gwleidyddion a gwyliau traddodiadol.

Mis Hydref y daeth Hywel a'r criw drosodd i fy ffilmio fi wrth fy ngwaith.

Chwilio am siaradwyr Cymraeg

Peth braf oedd cael siarad fy iaith. Dwi wedi bod - ac yn dal i chwilio am siaradwyr Cymraeg yma, trwy roi hysbysebion mewn papurau newydd a siopau llyfrau Saesneg.

Ond dim siw na miw yn anffodus. Gwell siawns cael wyth sgôr dro!!

A dynar peth dwi'n hiraethu amdano fwya, siarad Cymraeg - a fy nheulu wrth gwrs.

Ond mae yna fanteision byw yn Rhufain. Mae'r peth crwn, melyn, yna yn selog yn y nenfwd ac i ffotograffwr mae'n Ddolig pob dydd a hithan ddinas gyda chymaint i'm hysbrydoli.

Mi fuo nhw'n dri diwrnod prysur o ffilmio.


Helynt efo pizza a moped
Y bore cyntaf, yn Piazza del Popolo (Sgwâr y Bobol), doedd Hywel ddim ar fform, wedi bod wrthi trwy'r nos yn dweud "Helllllllooooooo" i'r ffôn mawr gwyn, ar ôl pizza ham hen!!

Ond ar ôl cwpwl o sbins ar ei feic (a chwdiad i'r ffowntan) oedd o rêl jero!!
Na, go wir ddaru fo ddim chwdu!!!

Wedyn pwt bach o ffilmio yn fy fflat a chwrdd a Giovanni y canwr opera dwin rhannu fflat efo fo!

Dangos fy ffolio a sôn am y wlad dros wydraid o win giami! Rhyfedd bod o flaen y camera yn lle tu ôl iddo fo!!

Roedd hi'n dipyn o sbort heirio moped i Hywel ond unwaith iddo fo gael cwpwl o sbins o gwmpas stryd ddistaw ger y Colosseo mi aeth o'n reit hyderus a mynd dros 20mph, wir yr!!!

Y prawf mawr!

Rownd y gornel roedd y prawf mawr - Piazza Venezia - sgwâr prysura Rhufain. Rowndabowt fel dau gae ffwtbol yn orlawn o fopeds a cheir yn sgrechian a rhegi.

Hywel ar ei foped, fi ar fy moped a'r fan a'r criw yn ein dilyn, rownd a rownd a rownd a ni!! Hywel Kenivel ta be!!

Dydd Sul aethom i fyny i'r wyl castan "Sagra delle Castagne" ger Viterbo. Pentrefwyr yn eu gwisgoedd canol oesoedd yn canu a chystadlu i ddathlur gastan ac Olympia eisiau lluniau o'r wyl a hynny yn gyfle ir Bîb fy ffilmio yn rhedag fel mwnci o gwmpas y lle.

Oedd hi yn wyl arbennig o dda - mae cryn dipyn ohonyn nhw yn yr haf. Gwyliau i win, castan, madarch, pysgod ayb. Yn union yr un fath ar wyl "Sgods a Sglods" yn Eryri!!

Diwrnod ola o ffilmio yn Viterbo - fi yn siarad "spaghetti" mewn caff.

Tipyn o hiraeth

Amser dweud "Arrivederci" wrth y criw ac off a nhw i ffilmio Menna yn Ravenna.

A daeth teimlad od iawn drosof a minnau wedi bod yn rhan o rhyw gymdeithas fach Gymraeg am dri diwrnod difyr dros ben ac yna, mewn chwinciad, yn ôl yn rhan o'r gymdeithas Eidaleg.

Rhyw hiraeth unig. Edrychais i fyny a dyna ller oedd y peth crwn, melyn, yna uwch fy mhen.
O wel, mewn bywyd fedra ni ddim cael pob dim!!

Rwy'n bwriadu symud i Milan rhywdro flwyddyn yma, achos yno mae diwydiant ffotograffiaeth yr Eidal.

Yn y dyfodol rwyf am ganolbwyntio ar dynnu lluniau "Stoc" i fy asiant rhyngwladol yn Llundain, sef Photonica, sydd yn gwerthu lluniau i'r byd hysbysebu byd eang.

Yn y cyfamser, diolch i'r criw eto, Hywel, Gwennan, Mair, Steve a Dafydd am dri diwrnod difyr ac unigryw.
Ciao, Gari!
y cwmni y mae Gari yn gweithio iddo








ewrop

Yr Eidal
Gwyliau newid bywyd!

Dathlu gwyllt wedi i Rufain drechu'r gelyn

Brwydr fawr milwyr Rhufain

Bywyd ar Fflat Huw Puw o'r Panama

Yr Eidal drwy'r lens

Helynt Hywel efo pizza a moped!




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy