大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


dathlu Dathlu gwyllt wedi i Rufain drechu'r gelyn

Dydd Mawrth Gorffennaf 31.

Yr oedd Cymro ymhlith y ffotograffwyr a fu'n tynnu lluniau yn dilyn pencampwriaeth bêl-droed yr Eidal yn ddiweddar.

Yn yr erthygl hon y mae Gari Williams yn sôn am ddiwrnod y ROMA-CAMPIONI D'ITALIA 2001

17.00 dydd Sul Mehefin 17, 2001: Ar ôl 18 mlynedd o siom, chwiban ola y dyfarnwr Braschi yn achosi ffrwydro enfawr yn Rhufain - yn enwedig yn y Stadiwm Olimpig, cartref A.S.Roma pencampwyr yr Eidal- Campioni D'Italia 2001.

Hawlfraint Gari WilliamsY canlyniad, Roma 3 Parma 1, ar ddiwrnod ola "Serie A", gyda Juventus a Lazio, tîm arall Rhufain, a'r pencampwyr y llynedd, gyda phosibilrwydd o gipio lo scudetto o afael Roma.

Ond bu goliau Batistuta "Batigol", Totti, a Montella "aeroplanino" (yr awyren bach, o achos y ffordd mae'n dathlu sgorio) yn ddigon i ennill y gêm a'r bencampwriaeth.

On i wedi cael y job o dynnu lluniau'r dathliadau... a mam bach sôn am ddathlu!!

Achlysur emosiynol
Roeddwn i yn Curva Nord y stadiwm i brofi egni ac emosiwn yr achlysur arbennig yma.

Hen ac ifanc yn crio ac yn canu gan chwifio eu sgarffiau a'u baneri Magica Roma.

Deunaw mlynedd o ddisgwyl hir yn y cysgod drosodd.

Roedd y rhan fwya o'r tifosi wedi rasio i ganol y cae i ddathlu. Mewn dim o amser roedd y pyst a rhwyd y gôl wedi diflannu, talpiau o'r cae wedi eu tyllu fel souveniers arbennig!!

Roedd pobol hyd yn oed yn cusanu'r tolpis ac yn ei lapio yn ei sgarffia fel tamaid o aur!!

Tu allan i'r stadiwm roedd pawb yn honco bost. Cyrn yn canu a baneri yn chwifio o geir a mopeds!!

Rhufain yn Uno
Rhufain yn uno - miloedd ar filoedd o bobol yn cwrdd yn y Piazza del Popolo (Sgwâr y Bobol), y Piazza di Spagna (Y Grisiau Sbaenaidd), y Colosseo, symbolau o'r Ymherodraeth Rufeinig yn troi yn fôr o ddathlu coch a melyn.

Lliwiau'r Ymerodraeth!

Yn Piazza del Popolo bu angladd tîm Lazio - y gelyn, a 'r pencampwyr llynedd. Arch las golau a gwyn, gyda manechin a dyddiad marw a geni y tîm.

Dyddiad marw? Heddiw wrth gwrs!!

Torf anferth yn dilyn gorymdaith angladdol yn bloeddio, " I CAMPIONI DELL'ITALIA SIAMO NOI."
"Ni yw pencampwyr yr Eidal".

Parti ar ôl Parti

Sôn am wythnos i ddilyn!!

Parti ar ôl parti ddydd a nos. Arch tîm Lazio yng nghefn hers wedi ei goleuo yn ddel iawn yn crwydro canol y ddinas.

Rhwbio halen i'r briw!

Ym mhob rhan o'r ddinas roedd y baneri a'r fflagiau allan, a rhubanau coch a melyn yn ymestyn o ben fflatiau dros y strydoedd.

Pobol wedi paentio'r lonydd, siopau, ysgolion, ffynhonnau dwr, ceir a mopeds yn goch a melyn. Ar adegau roedd yn rhaid cau lôn achos roedd gang wedi dechrau gweithio ar ddarlun neu symbol i ddathlu'r trydydd "scudetto" yn ei hanes!

Yn ardal Testaccio, calon cefnogwyr Roma, aeth y partïon ymlaen yn ddidrugaredd am wythnos gyfa - miloedd ar filoedd yn eu ceir yn bloeddio nerth esgyrn eu pennau a'u cyrn ac yn tagu'r ardal!!

Y trigolion druan heb cael winc o gwsg ers wythnos gyfa!

Pe buaswn i wedi cael punt am bob " I CAMPIONI DELL'ITALIA SIAMO NOI" glywais i, gallwn ymddeol!

Parti ar y stryd
Lle roeddwn yn byw roedd yn barti ar y stryd. Pawb allan i weld y gêm eto, gyda sylwebaeth a'r gohebydd yn gweiddi "GOOOOOOOOL" am tua deng eiliad!

Roedd pawb yno. Yr hen a'r ifanc - llond plât o basta a dropyn o win. Pawb yn hapus braf!

Welais i erioed ffasiwn beth o'r blaen. Pobol yn mynd yn boncyrs wallgo! Roedd cefnogwyr Deiniolen yn mynd yn dw lal ar ôl curo Harlech ar benaltis mewn semi ffeinal yn Llanrug rai blynyddoedd yn ôl! Ond ddim cymaint â ffans Roma!

Deg diwrnod ar ôl ennill ac maen nhw'n dal i ddathlu - er bod y rhan fwya wedi distewi ar ôl blino'n lân!!

Ella geith Signor Rossi napan yn Testaccio heno?

Hawlfraint - Gari Wyn Williams, Rhufain Gorffennaf 2001





ewrop

Yr Eidal
Gwyliau newid bywyd!

Dathlu gwyllt wedi i Rufain drechu'r gelyn

Brwydr fawr milwyr Rhufain

Bywyd ar Fflat Huw Puw o'r Panama

Yr Eidal drwy'r lens

Helynt Hywel efo pizza a moped!




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy