大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Rali ceir Smart Yr Eidal drwy'r lens

Profiadau Gari Wyn Williams, Cymro sy'n gweithio fel ffotograffydd yn yr Eidal.

Mehefin 3ydd, 2002

Erthygl gan Gari Wyn Williams

Y lluniau i gyd gan Gari Wyn Williams/Olympia

Dechreuais dynnu lluniau fel hobi oes pys yn ôl, ar ôl cael gafael ar SLR ail law. Wrth ddysgu a gwella yn ara deg, dechreuais weithio i'r papur lleol, y Caernarfon & Denbigh Herald, yn tynnu lluniau pêl-droed, a digwyddiadau yn y gymdeithas.

Ar ôl cyfnod hir yn Llundain penderfynais ddychwelyd i'r Eidal ym Mehefin 2000. Am ryw reswm, roeddgen i ffansi byw yn Rhufain. Pam? Does gen i ddim syniad on roedd o'n apelio.

Y ffolio yn fy llaw, a rownd a rownd yr asiantaethau ffotograffiaeth a fi. Ar ôl lot o waith chwilio a chnocio drysau, cynigiodd Olympia swydd i mi.

Olympia Publifoto, un o'r asiantaethau mwya' yn yr Eidal sydd yn delio gyda phob rhan o'r farchnad gan gynnwys lluniau enwogion, pêl-droed Serie A, sgandals, chwaraeon, byd adloniant a gwleidyddol ayb.

Pawb â'i faes arbennig
Yn yr asiantaeth mae yna tua deg ffotograffydd, a phob un yn arbenigo mewn rhan arbennig o'r farchnad. Mae rhai yn tynnu lluniau gwleidyddion, eraill yn tynnu enwogion, cyngherddau a phêl-droed.

Mae rhai wedyn yn gwneud y stwff paparazzi - cuddio tu ôl i goeden, neu yn yr haf treulio diwrnod ar gwch bach gyda'r lens hir wedi eu hanelu at yr yacht crand yn disgwyl i ryw signora enwog dynnu ei thop bicini.

Mae un o'r hogia yn ffotograffydd swyddogol i'r dyn ei hun - Llywydd yr Eidal, Silvio Berlusconi ac yn dilyn holl gamau'r hen Silvio...

Mae yna rhai eraill sy'n tynnu lluniau'r sêr ar set deledu'r RAI, cyngherddau cerddorol neu'r arddangosfeydd diweddara'.

Fy mhrif waith i ydi tynnu lluniau o straeon meddal anarferol.

Chwilio am straeon
Bob bore rydw i'n mynd i'r swyddfa ac yn edrych ar y papurau newydd, chwilio am straeon gyda photensial a hefyd deunydd a fuasai'n addas i'r llyfrgell.

Bydd fy mos, Damiana, yn fy ngyrru i leoedd fel cynadleddau i'r wasg a chyfarfodydd gyda phobol bwysig a gwleidyddion.

Wedi cael syniadau o'r papurau newydd mae yna lawer o waith ffonio o gwmpas i drefnu'r shoot. Weithiau mae'n digwydd yn syth ond ar adegau eraill mae'n cymryd oes pys.

Rhan fwya o'r amser mae pobol yn fwy na pharod i gael tynnu eu lluniau gan ei fod yn golygu tipyn o gyhoeddusrwydd.

Mewn cyfnodau distaw fe rydw i'n tynnu lluniau stoc i'r llyfrgell sef lluniau o lefydd, pobol yn ymarfer corff, ayb, hynny yw lluniau y bydd cylchgronau yn gofyn amdanyn nhw'n rheolaidd.

Cyfle i fod yn greadigol
Mae'r swydd hon yn rhoi cyfle i mi wneud tipyn o luniau personol a mwy creadigol na'r hyn dwi'n ei roi i Olympia sydd yn cael eu gyrru i fy asiant rhyngwladol yn Llundain sef Photonica, cwmni sydd yn dosbarthu a gwerthu delweddau i'r byd hysbysebu.

Dinas anhygoel go wir! Ysbrydoliaeth ymhob cornel. Weithiau fe fyddwn yn mynd yn ôl i'r un lle a gweld pethau yn hollol wahanol gyda llygaid newydd!

Golau'r Mediterraneo, mae yna rywbeth arbennig amdano. Yn ystod y gaeaf y llynedd cefais fy synnu pa mor las oedd yr awyr - doeddwn i erioed wedi gweld lliw o'r fath o'r blaen. Gyda'r golau mor glir mae'r lliwiau fel petaen nhw'n neidio allan!!

Mae'n swnio fel joban foethus dros ben - ond yn ariannol dydi o ddim yn fêl i gyd. Rwy'n cael fy nhalu yn ôl y lluniau sydd yn gwerthu. Weithiau mae hynny yn gallu golygu dwr a bara yn lle gwin a bara.

Dim diwylliant ffotograffig
Yn yr Eidal yn anffodus does yna ddim diwylliant ffotograffig. Lluniau o enwogion a sgandals sydd yn gwerthu fwya'. A lluniau sâl ar y naw ydi'r rhan fwyaf ohonyn nhw. Dydi llun da o sylwedd sydd â neges ddim yn cael ei werthfawrogi o gwbwl. Dyna natur y busnes yma.

Fel dinas mae Rhufain yn cynnig tipyn o gyfleon i symud ymlaen fel ffotograffydd. Er ei bod yn ddinas anhygoel o hardd gyda'r haul yn tywynnu drwy'r amser, mae yna ryw agwedd ddi-hid ac amhroffesiynol yma.

Yn yr Eidal, Milan ydi'r lle, ac mae'n siwr rhywbryd mai dyna fydd y stop nesa i mi.

Yn y dyfodol dwi'n gobeithio gallu canolbwyntio ar dynnu lluniau i Photonica yn llawn amser a chael y rhyddid i ddilyn fy syniadau creadigol.

Dyna'r freuddwyd! Ond fel pob dim sydd yn werth ei gael mae'n cymryd lot o amser, lot o waith a 'chydig bach o lwc!

Y gwaith

Jiwdo i wardeiniaid traffig
Stori arall ddifyr oedd grwp o wardeiniaid traffig yn ardal Fiumicino yn dilyn cwrs Jiwdo i amddiffyn eu hunain rhag gyrwyr gwyllt! Ac mae yna dipyn o'r rheiny o gwmpas!

Bocsio merched
Newidiwyd y ddeddf i alluogi merched i focsio a chynhaliwyd yr ornest gyntaf rhwng dwy ferch yn yr Eidal - un yn ei hugeiniau cynnar ar llall tua 12 oed. Fe ddylai hon fod yn ei gwely achos roedd y "cwffio" yn dechrau am 10 y nos. Sôn am ffars...fel y buasai fy nhad yn dweud
" Mi faswn i'n gallu gwneud yn well efo Leggo!!!"

Diwrnod Clacson
Diwrnod Clacson, pawb yn Rhufain yn stopio eu ceir ac yn canu eu cyrn yn hir a swnllyd i brotestio yn erbyn y crocbris y mae'r Eidalwyr yn ei dalu am yswirio eu ceir. Mae o'n warthus o beth!

Tramp - maer Rhufain
Stori Evio Botta, cardotyn oedd yn bwriadu sefyll fel ymgeisydd i fod yn faer Rhufain. Tynnais luniau ohono yn ei far lleol. Cynigais goffi bach iddo: "na neith brandy grande" oedd ei ateb! Tipyn o gymeriad, a slogan ei faniffesto oedd "Dare voce ai senza voci", hynny yw rhoi llais i'r rhai sydd heb lais.

Gyda chymaint o bobol yn cysgu allan ar y strydoedd efallai fod fy lluniau wedi rhoi rhywfaint o lais i'w problemau. Yn anffodus wnaeth Evio ddim pasio'r cam cyntaf i fod yn faer Rhufain.

Cathod

Stori arall yw'r un am gartref cathod yng nghanol Rhufain. Roedd dros 300 ohonyn nhw wedi eu taflu allan o'u cartrefi - rhai mewn cyflwr difrifol o wael! Mae tîm bychan o wirfoddolwyr yn gweithio am oriau maith i edrych ar eu hôl.

Mae'r cartref yn dipyn o atyniad i ymwelwyr, achos mae wedi ei leoli ar safle mewn hen adfeilion Rhufeinig o'r enw Largo del Torre Argentina. Wedi i wefan y cartref gael ei sefydlu mae rhai cathod lwcus wedi ffeindio cartrefi newydd.

Etholiad Cyffredinol
Diwrnod gwallgo a phrysur oedd Mai 13fed, diwrnod Etholiad Cyffredinol yr Eidal. Cefais i'r gwaith o ddilyn tri gwleidydd mawr i'r blwch pleidleisio.

Guilio AndreottiBen bore am wyth roedd Giulio Andreotti, hen brif weinidog yr Eidal, yn pleidleisio. Hen ddyn pwyllog ei gam ai ben yn gwyro i'r llawr. Hyd heddiw mae tipyn o Eidalwyr yn credu fod gan Andreotti gysylltiadau cryf â Maffia Sisili. Ond er yr holl dystiolaeth yn ei erbyn mae o dal yn ddyn rhydd.

Yr ail beth oedd pleidlais Rocco Buttiglione, rheolwr parti XX. Ond roedd problem fach, doedd gen i ddim syniad sut oedd yr hen hogyn yn edrych! Esboniais fy anhawster i blismon a dangosodd ef wyneb Rocco i fi. Tipyn o jôc i bawb yn y swyddfa wedyn!!

Y diwetha ar fy rhestr oedd Pierferdinando Casini, sidekick Berlusconi. Tua 6 yr hwyr roedd y ciwiau i bleidleisio yn ymestyn y tu allan i'r adeilad. Tynnais lun da o Casini yn ciwio yn darllen papur newydd a'r cyhoedd y tu ôl iddo fo yn edrych yn flin!

Roedd y blychau pleidleisio i fod i gau am 10yh, ond oherwydd diffyg blychau a maint y ciw bu'n rhaid i'r safleoedd aros yn agored. Pleidleisiodd un dyn o Calabria am 5 y bore - mae o wedi torri rhyw fath o record yn ôl pob sôn.

Yn wir does gen yr Eidalwyr ddim clem sut i drefnu pethau! Weithiau mae mynd allan am pizza yn troi yn ddrama!!

Baubeach
Joban ddifyr oedd tynnu lluniau Baubeach, sef traeth egsgliwsif i gwn a'u perchnogion. Llecyn bach ger môr Tirreno a phob math o gwn, mawr a bach yn bowndian yn boncyrs o gwmpas y lle. Rhai wrth eu boddau yng nghanol y tonnau, eraill yn eistedd o dan eu hambarels bach yn edrych ar y talent!!

Francesco Totti
Cynhadledd i'r wasg - Totti chwaraewr Roma a'r Eidal yn cyflwyno esgid Nike mewn siop chwaraeon ar via del Corso.



Totti , chwaraewr Roma a'r EidalDoedd gen i ddim diddordeb gwneud y joban yma achos does gen i ddim diddordeb mewn enwogion ac mae Totti yn dwpach na thwp!! Mae o'n cael trafferth siarad, heb sôn am siarad Eidaleg!!

Beth bynnag, roeddwn i'n gorfod gwneud y job, a sôn am sgrym, cael fy ngwasgu fel sardîn gan rhyw ferched bach del yn sgrechian enw Mr.Twp. Wedyn toman o gamerâu a dictaphones yn ei amgylchu - estyn fy nghamera dros y top gyda fy mraich hir - clicio fel diawl gan obeithio. Dim math o drefn - fel sydd yn digwydd ran amla yn yr Eidal!! Beth bynnag mi ges i'r shot!

Myfyrwyr yn streicio
Mae'r Eidal yn wlad o streicwyr - mae yn eu DNA mae'n siwr, achos mae hyd yn oed plant ysgol wrthi! Er mwyn protestio yn erbyn polisïau'r llywodraeth, maen nhw'n meddiannu'r ysgol a hel yr athrawon i gyd adra!

Maen nhw'n aros yn yr ysgol ddydd a nos am wythnosau ac yn gorffen y streicio ychydig o ddiwrnodau cyn gwyliau'r 'Dolig. Cyfleus iawn! Ac mae hyn yn digwydd bob blwyddyn. Mi fuasem ni wedi trio hyn yn Ysgol Brynrefail, Llanrug, ond mae'n siwr mai cefn llaw gan ein rhieni fuasai'r ymateb!!

Forza Nuova

Doedd neb yn y swyddfa isho tynnu lluniau Forza Nuova (Nerth Newydd) sef y blaid o ffasgwyr, felly dyma fi yn cynnig gwneud y gwaith!!

Llwyth o bennau moel yn sgrechian nerth eu pennau yn erbyn America. Aeth pethau yn flêr erbyn y diwedd, yr heddlu yn gwrthod rhoi caniatâd iddyn nhw orymdeithio ac felly dyma'r poteli yn dechrau hedfan i'n cyfeiriad.


Cwrs barman Acrobatig
Yn Rhufain mae yna ysgol sy'n addysgu pobol i fod yn farman acrobatig - cwrs ar sut i daflu poteli a gwydrau i fyny i'r awyr a'u dal ar y ffordd i lawr heb golli dropyn o'r amber nectar ynde!!

Lwcus mai poteli plastig oedden nhw'n ei ddefnyddio neu mi fuasai yna hen lanast.

Protestio yn erbyn Fendi
Sôn am brotest a hanner, grwp hawliau anifeiliaid yn ymosod ar siop ffasiwn Fendi gan daflu paent coch ffug dros ffenast y siop, rhuthro i mewn i'r siop a sgwennu FUR IS DEAD ar eu cyrff.

Protest effeithiol dros ben yn erbyn cam drin anifeiliaid i wneud cotiau ffwr. Wedyn ddaeth y glas yna a'u harestio nhw i gyd! Fe gawson nhw gryn dipyn o sylw yn y wasg ac ar y teledu.

Rali Smart
Rali ceir Smart, yr hen geir bychan yna sydd yn handi dros ben yn Rhufain achos rydach chi'n gallu ei barcio bron iawn yn rhywle!! Mae yna gystadlu ar lefel genedlaethol ac mae'r ceir bach yma'n mynd yn gyflym!

Protest y sach gysgu
Pobol gyffredin yn cysgu allan ar y strydoedd i ddangos y problemau a'r anawsterau sydd yn effeithio ar y digartref yn Rhufain. Yn Rhufain mae yna gannoedd o bobol yn cysgu allan ar y strydoedd ymhob tywydd. Mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw yn fewnfudwyr anghyfreithlon o Dde Ewrop neu Affrica, yn cysgu o dan bontydd ac yn y caeau. Wedi dod i'r Eidal i chwilio am fywyd gwell, ond

Bendithio anifeiliaid
Diwrnod arbennig sydd yn digwydd bob blwyddyn lle mae anifeiliaid yn cael mynd i mewn i'r eglwysi a'r capeli. Ar ddiwedd y gwasanaeth mae'r pregethwr yn bendithio'r anifeiliaid. Mae pob math o greaduriaid yma - parrots, nadroedd, pysgod aur, a thomen o gwn a chathod. Anhygoel!!




ewrop

Yr Eidal
Gwyliau newid bywyd!

Dathlu gwyllt wedi i Rufain drechu'r gelyn

Brwydr fawr milwyr Rhufain

Bywyd ar Fflat Huw Puw o'r Panama

Yr Eidal drwy'r lens

Helynt Hywel efo pizza a moped!




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy