大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Brwydr fawr milwyr Rhufain
Mae gladiatori Rhufeinig newydd ennill buddugoliaeth o bwys mewn brwydr yn erbyn yr awdurdodau


Lluniau a stori gan © Gari Wyn Williams 2003 ffoto@email.it
Colosseo yn Rhufain symbol o nerth yr Ymherodraeth Rufeinig, stadiwm enfawr adeiladwyd gan Vespasiano yn 72AD i ddiddanu 50,000 yn gweiddi am waed yn y 'gemau'- y brwydrau i'r diwedd rhwng caethweision, lladron, gladiatori ac anifeiliad gwyllt.

Enw iawn y Colosseo ydi, Anffitheatr Flavio ond cafodd ei enwi'n Colosseo gan y bobol cyffredin, hynny yw "anferth" - 527m o'i amgylch a 57m ei uchder.

Saliwtio'r ymerawdwr
Roedd y gladiatori yn mynd i mewn i'r frwydr eu hun olaf efallai - a chyn dechrau, yn codi eu braich dde tua'r ymerawdwr gan ddweud "Ave, Imperator, morituri te salutant" - "Mae'r rhai ohonom sydd yn mynd ei farw yn eich saliwtio chi."

Amser noswylio?I ddathlu agoriad y Colosseo yn 80AD gan Titus, mab Vespasiano, trefnwyd 100 diwrnod o frwydro rhwng dynion, gladiatori ac anifeiliad gwyllt.

Ar achlysur Mileniwm Rhufain yn 249 brwydrodd 2000 o gladiatori a lladdwyd 50 llew, 6 hipopotamws, 32 eliffant a 12 teigr. Gwaharddwyd ymladd rhwng gladiatori yn 404 gan yr Ymherodr Onorio, ac ymladd rhwng anifeiliad yn y chweched ganrif.

Dal i grwydro o gwmpas
Gyda thros dwy fil o flynyddoedd wedi mynd mae'r milwyr Rhufeinig Centurioni yn dal i grwydro o gwmpas yr amffitheatr fydenwog, yn gwneud euro neu bump a mwy, y pris i'r twristiaid gael tynnu eu llun efo nhw.

Paratoi i dynnu llunHogia lleol ydyn nhw i gyd, Rhufeiniaid go iawn, cymeriadau unigryw mewn gwisgoedd sydd fel pe bydden nhw yn syth allan o ffilmiau fel Gladiator neu Ben Hur - yr helmedau a'r arfwisg yn edrych y rhan er mai plastig neu bren yw'r cleddyfau sy'n cael eu chwifio a'u gosod ar wddf neu rannau eraill yr ymwelwyr.

Mae cario rhai metel heb drwydded arf peryglus yn erbyn y gyfraith. Felly, plastig a phren amdani!

Techneg yr hogia o ddal sylw ymwelwyr ydi sefyll ar ben carreg ger y fynedfa gan weiddi tra'n chwifio cleddyf, "Photo, want a picture? Please lady. Want a nice picture?" ac yn y blaen ac mewn pob math o ieithoedd eraill hefyd fel, Sbaeneg, Ffrangeg, Siapanaeg ac hyd yn oed iaith Thai!

Ddim yn rhad
Unwaith mae un o'r ymwelwyr yn cael tynnu ei lun, mae gweddill y grwp yn siwr o ddilyn. A dydyn nhw ddim yn lluniau rhad ychwaith pump i 10 euro tua £3.50 i £7 mewn pres go iawn.

Weithiau maen nhw'n ceisio cael mwy gan bobol swil fel y Siapaneaid.

Mi gefais i dipyn o dolc hefyd 30 Euro am cael tynnu eu lluniau wrth eu gwaith!! Gobeithio gwnaiff y stori werthu!

Cael eu gwahardd
Mae tua 30 o 'filwyr' yn patrolio'r Colosseo a phob un gyda thrwydded gan Cyngor Dinas Rhufain i weithio yno.

Rai misoedd yn ôl gwaharddodd y Cyngor yr hogia rhag gweithio o gwmpas y Colosseo oherwydd cwynion am y prisiau gwallgo gan rai a'r ffaith eu bod yn tarfu a'r ddelwedd yr adeilad trwy ei wneud yn rhyw fath o syrcas.

Yn yr wythnosau canlynol daeth yr hogia o hyd i lefydd newydd i chwifio cleddyfau fel Ffowntan Trevi, Sgwâr Venezia a'r Grisiau Sbaeneg.

Ond yn amlwg doedd y sêls ddim cystal ag ar lwyfan y Colosseo.



Crwydro ymhlith y bobolEu cam nesaf oedd penderfynu dringo i dop y Colosseo gan fygwth lluchio ei hunain i'w marwolaeth os na caniateid safle gwaith y Colosseo yn ôl iddyn nhw!

Digwyddodd hyn dair neu bedair gwaith cyn i'r Cyngor newid ei feddwl i siwtio'r hogia heb arllwys diferyn o waed!

Cwsmeriaid gemau rygbi
A phwy ydi'r ymwelwyr gorau yn ôl yr hogia? Rhai o Brydain meddan nhw - yn enwedig pan fo cefnogwyr rygbi'n dod i Rhufain ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Mae'r Cymry, Albanwyr, Gwyddelod a'r Saeson pob tro yn barod am hwyl, hyd yn oed os nad ydyn nhw'n cael tynnu llun gyda Russell Crowe a'i griw.

Yr Eidalwyr ydi'r ymwelwyr gwaetha gan eu bod yn eu trin fel pe bydde nhw'n pobol ddigartref yn begera am bres a hynny'n bychanu prifddinas a hanes Rhufain.

Mi wnes i fwynhau tynnu lluniau a sgwrsio gyda'r hogia cymeriadau a hanner yn gwneud bywoliaeth gorau allan nhw ac yn creu atgofion hwylus ac unigryw o Rhufain i'r ymwelwyr o bob rhan o'r byd.

Amser noswylio?Yn y gwres chwilboeth ar ddiwedd dydd, newid nôl i jîns a chrys T tu ôl i goeden gysgodlyd ac wedyn rannu elw'r dydd rhwng y grwp, tri neu bedwar ohonyn nhw fel rheol ac off a nhw ar eu sgwtars drwy'r traffig gwallgof am adre a phlataid o basta. Tan yfory.





ewrop

Yr Eidal
Gwyliau newid bywyd!

Dathlu gwyllt wedi i Rufain drechu'r gelyn

Brwydr fawr milwyr Rhufain

Bywyd ar Fflat Huw Puw o'r Panama

Yr Eidal drwy'r lens

Helynt Hywel efo pizza a moped!




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy