Wedi inni wthio trwy ddrysau troi-maes awyr Stansted am dri yn y bore edrychai'r tu mewn fel lloches i ffoaduriaid gyda phobl yn gorweddian ar hyd y lloriau ac ym mhob cornel sbâr.
Gan na fyddai yna'r un awyren tan chwech yn y bore nac unrhyw drafnidiaeth gyhoeddus yno ar ôl hanner nos, cafodd pawb yr un syniad o dreulio'r rhan fwyaf o'r nos yn disgwyl yno.
Ar wahân i Sicily, Sardinia yw'r ynys fwyaf ym Môr y Canoldir. Mae'n gorffwyso'n glyd rhwng Sicily, sydd i'r de, a Chorsica, i'r gogledd.
Er mai Cagliari yw'r brifddinas i dref cymharol fechan Alghero yr oeddem ni'n mynd gan fod un o brif gwmnïau awyrennau rhad Ewrop yn hedfan yno.
O ganlyniad i'r hedfan cynnar glaniwyd yn Alghero am hanner awr wedi naw yn y bore a chyda'r daith wedi cymryd llai na hanner awr ar y bws i galon 'hen dref' Alghero, roeddem yn y gwesty erbyn amser cinio.
Hen leiandy Hotel San Francesco yw'r unig westy yng nghanol yr hen dref a chawsom bedair noson gyfforddus a heddychlon mewn adeilad arferai fod yn lleiandy a godwyd yn y bedwaredd ganrif ar ddeg yn atodiad i'r Eglwys Gatalanaidd, Gothig, sy'n sefyll gerllaw.
Ni chollwyd naws na chymeriad yr adeilad dros y blynyddoedd, ac ers iddi droi'n westy, gan fod yr addurno syml ond cyfforddus wedi cadw'n ffyddlon i hanes yr adeilad.
Mae cwrt caregog yng nghalon yr adeilad wedi ei amgylchynu â chlasau urddasol sy'n ymestyn ar hyd y coridorau.
Crwydro'r strydoedd Gyda cherrig llyfn dan draed fe fuom ni'n crwydro'r strydoedd culion sy'n plethu drwy'i gilydd gyda siopau bychain arbenigol ar y naill ochr a piazzas agored mewn mannau annisgwyl.
Mae'r hen dref wedi ei gosod ar fryn gyda morgloddiau mawr ar yr ochr orllewinol a oedd ar un adeg yn gadarnle grymus oddi wrth gelynion y dref ond sydd bellach heb elyn ddim gwaeth na thonnau pigog Môr y Canoldir.
Pan fo'r haul yn machlud yn y gorllewin y mae'r dref yn deffro ac ar ôl dod o hyd i'ch ffordd drwy'r strydoedd culion fe ddowch at y prif bromenâd braf ger y morglawdd lle mae hen ddynion yn eistedd ar feinciau yn rhoi'r byd yn ei le dan y lampau stryd Fictorianaidd ac yng nghysgod y palmwydd.
Gwelwn darfu ar eu hamdden a'r hen fois yn cyffroi o wylio gweithiwr ffordd yn ail osod rhan o'r palmant.
Pedwar neu bump o'r hynafgwyr yn sefyllian yn ffug oruchwylio a chanolbwyntio ar waith caled rhywun arall!
A'r syniad mae rhywun yn ei gael yw na fydd pethau'n mynd yn fwy cyffrous na hyn yn Alghero . . .
Gwin a bwyd Erbyn hyn daeth yn amser cyfnewid y coffis llaethog am win coch, moethus.
Dwyawr neu dair yn ddiweddarach - a dwy neu dair potel o win yn ddiweddarach - daeth yn amser bwyta unwaith yn rhagor ac mae nifer fawr o'r bariau a'r lleoedd bwyta wedi eu gosod mewn hen seleri gyda waliau cerrig trwchus a nenfwd bwaog.
Aethom ni i le o'r enw Andreini oedd fel pe byddai'n cuddio rhag pawb a phopeth islaw lefel y stryd.
Ond ar ôl cerdded i mewn gwelwn ei fod yn fwrlwm o fywyd ac yn orlawn - sydd bob amser yn argoeli'n dda am fwyd o safon.
Gyda chigoedd wedi eu halltu (proscuitto crudo) i ddechrau, potel arall o win coch o'r ardal i dorri syched, a chig oen oedd yn tynnu dŵr o'r dannedd fel y prif bryd chawsom ni mo'n siomi.
cwestiwn mawr A hwn fu'r patrwm cyffredinol am y tridiau nesaf ar wahân i un digwyddiad a newidiodd wedd y gwyliau ar y noson olaf.
Tra'n yfed siampên mewn lle bwyta hyfryd ar y noson olaf cefais yr hyder o rywle i ofyn i fy nghariad fy mhriodi!
Diolch byth, cytunodd. Diolch byth, oherwydd imi ddechrau rhoi'r cynllun ar waith rai oriau ynghynt gyda galwad i Gymru i ofyn am ganiatâd ei rhieni!
Mae'n wir dweud na allai'r gwyliau fod wedi dod i ben ar nodyn melysach.
Byddwn yn cofio Alghero nid yn unig fel tref hamddenol a diymhongar ond fel y lle mwyaf rhamantus inni erioed ymweld ag ef.
Byddwn yn sicr yn dychwelyd rhyw ddydd - i ddathlu pen-blwydd ein priodas!
|