大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Bataillon des Marseillai Nofelydd gwych y chwyldro Ffrengig

Dylanwad Felix Gras
ar Gladstone

Dydd Gwener, Mehefin 23, 2000

Mae'r Marseillaise, anthem genedlaethol Ffrainc, yn gyfarwydd i bawb. Daeth yn boblogaidd pan gafodd ei mabwysiadu yn anthem y "Bataillon des Marseillais" a ddechreuodd orymdeithio o Marseilles ar Awst 10, 1792 i Baris yng nghanol y Chwyldro Ffrengig.

Ciwed o wehilion, esgymun, oedden nhw ym marn haneswyr am ddegawdau. Ysgarthion a ddihangodd o garchardai De Ffrainc. Pobol wrthun slymiau Marseilles.

Nofel yn newid agwedd pobol
Newidwyd agwedd pobol gan nofel yn hen iaith y rhan hon o Dde Ffrainc - iaith Provence, y Brofensaleg, iaith y trwbadwriaid a berchid yn llysoedd tywysogion Ewrop ond oedd wedi syrthio o ras.

Cyhoeddwyd nofel Felix Gras, Li Rouge dou Miejour, Chwefror 1895.

Gwnaeth cyfieithad gan Americanes, Catherine Janvier, The Reds of the Midi, a gyhoeddwyd y flwyddyn wedyn gan D. Appleton, Efrog Newydd, argraff fawr.

Bu llythyru rhwng Felix Gras a William Ewart Gladstone a oedd wedi ei synnu gan gynnwys y nofel.

Pennaf fwriad Gras oedd gwneud iawn am yr anfri a dywalltwyd ar Fataliwn Marseilles gan haneswyr am dros ganrif ers yr orymdaith.

Onibai am ymyrraeth Bataliwn Marseilles, yn ôl Gras, buasair Chwyldro Ffrengig wedi methu'n llwyr.
Buasai gwledydd eraill wedi ymosod ar Ffrainc yn 1793. Ni fuasai Napoleon Bonaparte wedi dod i rym.

Ymateb William Gladstone

Yn ei ymateb i'r nofel ysgrifennodd Gladstone o Benarlâg yn Sir Y Fflint ar Fedi 3, 1896: "Yn Lloegr. . . cawn ein dysgu yn ifanc i edrych gyda braw ar eithafion y Chwyldro Ffrengig. Bydd llyfrau fel eich un chwi yn ein dysgu fod y bai pennaf am yr eithafion hynny ar y drefn a'r bobol a fu ar waith ers cenedlaethau yn dileu oddi ar feddwl y genedl y syniad o gyfraith ac o hawliau cyhoeddus, sifil a phersonol."

Mewn llythyr arall dywedodd Gladstone: "Er yn waith creadigol y mae'n anelu at beintio nodweddion hanesyddol a gall gweithiau o'r fath, o fod wedi eu llunio yn drwyadl, daflu mwy o oleuni ar wir achosion y Chwyldro na llawer o'r gweithiau hynny a elwir yn hanes"

Aeth Gladstone cyn belled ag annog cwmni Heinemann i gyhoeddi'r cyfieithad ym Mhrydain ac, yn ôl a ddywedwyd wrthyf, y mae mewn print o hyd.

Yn un o siopau ail-law Y Gelli y deuthum o hyd i argraffiad 1920, cwmni D. Appleton. Gwnaeth gymaint o argraff arnaf nes mynd ir drafferth a thipyn o gost i ddod o hyd i gyfieithiadau Saesneg o ddwy nofel arall o waith Felix Gras.

Chwilio'r ardal amdano

Nid hynny yn unig. Bum yn chwilota mwy amdano. Gwyddwn ei fod yn hannu o bentre or enw Malemort ger Avignon a Carpentras yn Nyffryn y Rhone. Ond pan euthum i'r lle a dybiais oedd Malemort fe'm siomwyd o fethu a dod o hyd i na llechen na chof-golofn iddo.

Mewn siop lyfrau yn Apt, tref arall heb fod nepell, bu'm yn sgwrsio gyda Marc Dumas, bardd a llenor sy'n parhau i arfer ei grefft yn iaith y trwbadwriaid, a darganfod fod dau bentref or enw Malemort ac mai yn y llall y ganed Felix Gras - un o fewn 10 kilometr i Carpentras.

Yno, mae stryd wedi ei henwi ar ei ôl, un arall ar ôl Pascalet, arwr y gyfres o nofelau - gan mai cyfres ydyn nhw mewn gwirionedd. Mae llechen ar fur y ty lle ganed Gras.

Fe'm swynwyd gan ddisgrifiadau Gras o'r wlad a'r mynydd-dir yng ngwaelodion mynydd Ventoux. (Gwen do - gyda llaw - yw un eglurhad ar yr enw. Y mae ei gopa o garreg galch wen, nid eira. Yr adeg hon or flwyddyn beth bynnag.) - a'm harswydo gan ddisgrifiadau o erchyllterau na welodd y rhan fwyaf ohonom eu tebyg.

Sôn am bobol go iawn

Y mae i'r nofelau dinc trawiadol o realaeth. Mewn llythyr at Gladstone y mae Gras yn dweud iddo gael y rhan fwyaf o stori taith Bataliwn Marseilles o enau Pascalet - y bachgen or wlad ger Malemort â ymunodd â'r orymdaith a cherdded bob cam o Avignon i Baris.

Yn ôl ymchwil Athro ym Mhrifysgol Aix, Charles Rostaing, maer cymeriadau i gyd yn seiliedig ar bobol go iawn.

Braidd yn betrus yr euthum tua chateau sylweddol Unang, Chateau de la Garde yn y stori. Ymddiheuriais am dresmasu wrth ddyn ifanc cwrtais a ddaeth im cyfarfod gan egluro fy mod ar drywydd mannau a ddisgrifid yn y nofel Les Rouges du Midi (fe'i cyfieithwyd i'r Frangeg, hefyd) ar drydedd yn y gyfres - Li Terrour Blanco - na chafodd ei chyfieithu i'r Ffrangeg ond â gyfieithwyd i'r Saesneg a'i chyhoeddi yn Efrog Newydd yn 1899 fel, The White Terror.

Dangosai ddiddordeb mawr yn Les Rouges du Midi ond ni chlywsai amdani erioed. Teimlais ryddhad pan ddwedodd mai dim ond ers deng mlynedd ar hugain y bu ei deulu yn byw yno. Gwahoddodd fi i gymryd golwg iawn ar y gerddi a manteisiais ar y cyfle i fusnesu yn stafelloedd eang a chwaethus y plasdy.

Llosgi eglwys yn llawn pobol

Mae trigolion y castell a ddisgrifir gan Gras yn bobol hunanol a chreulon. Mwy fyth y gwas a'i meddiannodd wedi i Madam Guillotine wneud ei gwaith. Does dim cymeriadau canolig yn nofelau Gras - maent yn dda neu yn ddrwg.

Siom oedd canfod nad yw yr un or tair nofel mewn print mewn Ffrangeg - gydar olaf o'r tair heb ei chyfieithu i'r iaith honno erioed.

"Gan fod y nofel wedi'i lleoli'n gyfangwbl yn y De, fyddai gan y cyhoeddwyr Ffrengig ddim diddordeb ynddi," meddai Marc Dumas.

Rwy'n addunedu y byddaf yn dychwelyd y flwyddyn nesaf i ddilyn llwybrau'r stori i fyny llethrau mynydd Ventoux lle bu'r gweriniaethwyr yn ymguddio mewn ogofau wrth i'r brenhinwyr daro'n ôl - a phobol pentre cyfan yn cael eu llosgi mewn eglwys y'u corlanwyd ynddi.

Cyfnod arswydus yn wir.





ewrop

Ffrainc
Dod o Lydaw i weld teledu Cymraeg

Ewrop

Oes gafr eto?

Adeiladau crwn Profens

Pererinion o Lydaw yng Nghymru

Dod i adnabod Paris

Cymry Paris

Agwedd undeb athrawon yn peri pryder i Lydawyr

LLyfr Cymro am Lydaw

Cofio arwr o Gymro yn Ffrainc

Oes gafr eto?

Terfysg ym Mharis - Tachwedd 2005

Gobaith i'r ieithoedd bach?

Ergyd i'r ieithoedd bach

Celtiaid Ffrainc

Nofelydd gwych y chwyldro Ffrengig

Pobi yn Llydaw

Tai, bwyd a gwin yn Ffrainc




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy