|
|
Dod o Lydaw i weld teledu Cymraeg
Dydd Mercher, Awst 23, 2000
|
gan Gwyn Griffiths Mewn sgwrs yn y Gyngres Geltaidd y dechreuodd y cwbl. "Mae TV Breizh yn cychwyn ymhen ychydig fisoedd," meddai Bernard Le Nail. "Yn Lorient y bydd y pencadlys a dydy'r gwleidyddion ddim yn siwr iawn beth fydd hyn yn ei olygu. Se ni'n gallu perswadio'r Maer a rhai o bobol bwysig eraill y dre i ddod Gaerdydd i weld beth fu effaith S4C ar Gaerdydd - fedret ti drefnu rhaglen iddyn nhw?" Wrth gwrs, wrth gwrs, atebais innau, yn hyderus na fyddwn yn clywed gair pellach am y peth. Ond wrth fynd drwy'r rhes negeseuon ar y peiriant ateb wedi dychwelyd i'm gwaith clywais lais Ffrengig Claudie Moyson yn fy atgoffa imi gytuno i ofalu am gynrychiolaeth o Lydaw fyddai'n dod i Gaerdydd i ddysgu popeth am deledu lleiafrifoedd. Roedd y Maer yn dod Er bod gennyf chwe wythnos i baratoi yr oedd profiad wedi dysgu na ddylwn laesu dwylo. Wedi'r cwbwl yr oedd y Maer yn dod ac mae meiri yn Ffrainc yn bobol bwysig. Pob un yn cael ei ethol yn uniongyrchol a la Ken Livingstone. Pobol sy'n gwneud penderfyniadau yn syth heb drosglwyddo popeth i is-bwyllgorau. Felly roedd gen i Faer ar fy mhlât, Norbert Metairie, cyn-athro Ffrangeg. Sosialydd, meddai Bernard wrthyf. Gallai hynny olygu Sosialydd neu fe allai olygu Comiwnydd. Fe wyddwn i ble roeddwn i'n sefyll. Hefyd ymysg yr ymwelwyr byddai arweinydd yr wrthblaid, oedd hefyd yn Llywydd Skol Uhel ar Vro (Sefydliad Diwylliannol Llydaw, rhywbeth tebyg i Gyngor Celfyddydau Cymru). Llenor a hanesydd o'r enw Yvonig Gicquel. Fy nghyfaill Bernard, sy'n Gyfarwyddwr Skol Uhel ar Vro, cyfarwyddwr diwylliannol y dref, a chyfarwyddwr Datblygiadau Economaidd. A Michel Rio, Cyfarwyddwr Asiantaeth Ddatblygu Economaidd Bro Lorient. Setlo lawr i ffonio pobol. Aled Islwyn yn S4C yn fwy na pharod i helpu. Felly hefyd Gwynn Pritchard yn 大象传媒 Cymru. Rhoi cynnig ar Adran Arglwydd Faer Dinas Caerdydd - ymateb addawol a hynaws. O dipyn i beth syrthiodd y darnau i'w lle gydag ymweliadau â 大象传媒 Cymru, S4C, Derwen, Y Cynulliad, Siriol, cyngerdd yn Neuadd Dewi Sant gyda swper yn dilyn â chyfle i gwrdd a Dirprwy Faer Caerdydd a llond lle o bobol ddylanwadol a gwybodus. A chyfarfod dros ginio gyda llenor ac awdur sy'n sgrifennwr Cymraeg llawn-amser - diolch i fodolaeth sianel deledu Gymraeg - Gareth Miles. Amser Celtaidd o'r cychwyn Cafwyd cychwyn diddorol i'r ymweliad. Rwyf wedi arfer ar hyn a elwir yn "amser Celtaidd" - h.y. popeth yn hwyr. Am hanner dydd canodd fy ffôn. "Jean-Louis Bouillere yma. Ddrwg gen i bod ni'n hwyr, yr awyren yn hwyr a nawr i ni wedi cael puncture. Wela i chi mewn hanner awr." Jean-Louis oedd Cyfarwyddwr Cyffredinol Datblygiadau Diwylliannol Lorient. Deall wedyn mai fy nghyfaill Bernard oedd yn gyrru a ddim yn arfer gyrru car gydar llyw ar yr ochr dde ac wedi mynd yn rhy agos i balmant a malu teiar. Cinio a sgwrs yng nghwmni Gwynn Pritchard, 大象传媒 Cymru oedd y digwyddiad cyntaf. Gwnaeth y ffaith fod Gwynn yn adnabod amryw o staff yr egin gwmni TV Breizh - neu Tele Breizh fel y'i gelwir - wedi gwneud tipyn o argraff ar yr ymwelwyr. Llawer o holi deallus a gwybodus. Fel y dywedais, mae meiri Ffrainc yn bobol graff. Wedyn tro o gwmpas y 大象传媒 - stiwdio newyddion, 大象传媒 Cymru'r Byd, adran is-deitlo gyda Terry Dyddgen-Jones, y cynhyrchydd ei hun yn eu harwain o gwmpas Cwm Deri. Roedd Monsieur Metaire y Maer wrth ei fodd gyda Chymru'r Byd . Pethau'n tyfu o ddarlledu Yn S4C roedd gan Euryn Ogwen gysylltiadau â darlledwyr yn Iwerddon a rhai syn gweithio yn yr Aeleg yn yr Alban. Ac eto yn adnabod rhai o bobol Tele Breizh. Llawer o siarad am ddatblygiadau i ddod, fel y Coleg Digidol. Pethau'n tyfu'n organig allan o ddarlledu yn y Gymraeg - dyna'r neges. Bu'n rhaid rhoi'r gorau i'r bwriad o alw yn y Cynulliad. Doedd dim yn digwydd yno, beth bynnag. Cyrhaeddwyd y gwesty tua chwech mewn pryd iddyn gael ychydig amser i setlo cyn wynebu awdur, llenor ac aelod blaenllaw o'r Writers Guild of Great Britain - Gareth Miles. O fesen fach Trannoeth ymwelwyd â Derwen - cwmni mawr sydd bellach wedi ehangu i Ddulyn a Llundain - oherwydd anghenion sianel Gymraeg. O fesen fach Tro o gwmpas y bae, gweld y datblygiadau ar cynlluniau arfaethedig, ac yna i Siriol at Robin Lyons lle cawson nhw eu synnu eto sut y mae rhywbeth gychwynnodd oherwydd sefydlu S4C wedi ehangu yn fyd-eang ar cynnyrch ar gael ar hyd a lled y byd. Cawsant y cyfle i weld ffilmiau cartwn wedi eu trosleisisio i amryw ieithoedd - gan gynnwys Ffrangeg. Cinio yn y bae ac wedyn ymweliad â Stadiwm y Mileniwm. Tipyn o drip - o'r stafell newid, lle bu tîm Ffrainc cyn eu gêm derfynol yng Nghwpan Rygbi'r Byd, i'r seddau Brenhinol. Bu'r Cyngerdd Prom yn Neuadd Dewi Sant yn goron ar yr ymweliad. Perfformiad o Breuddwyd Gerontius dan arweiniad Owain Arwel Hughes. Mynd adref i gefnogi Ond pwysicach fur cyfle i sgwrsio gyda phobol wedir cyngerdd. Geraint Stanley Jones, Llywydd Sgrîn, cyn bennaeth 大象传媒 Cymru ac S4C, cyn-lywydd yr Undeb Darlledu Ewropeaidd; Marion Drake, Dirprwy Arglwydd Faer Caerdydd; Ann Beynon, gynt o S4C, Corfforaeth Bae Caerdydd a nawr o BT Cymru; Rhodri Williams Bwrdd yr Iaith; Elfed Roberts yr Eisteddfod Dydd Sul, cafwyd diwrnod yn hamddena yn Sain Ffagan Fe aethon nhw adre yn sicr bod rhaid cefnogi'r sianel Lydewig a bod ynddi y gallu i wneud gwahaniaeth i sawl agwedd o fywyd Lorient a Llydaw. Nid peth hawdd oedd egluro gorff mor rhyfedd yw S4C - cyfuniad o wasanaeth cyhoeddus, gwasanaeth masnachol, yn cael arian gan y Llywodraeth a thrwy hysbysebion ac yn derbyn arian drwy nawdd. Camp i ninnau ddeall eu gwasanaeth hwythau a lwyddodd i ddenu arian o goffrau Rupert Murdoch a Berlusconi ynghyd â chwmni adeiladu mawr. Bydd y cwmni yn cychwyn ar Fedi 1, gyda dwy sianel - un Ffrangeg a'r llall yn cynnwys Ffrangeg a Llydaweg. Yr argoelion yw tua phum awr o raglenni Llydaweg y dydd. Er nad yw'n ymddangos yn llawer o gymharu ag S4C ac S4C Digidol mae'n beth cythgam mwy nag oedd gan y Llydawiaid o'r blaen. Diddorol gweld pa effaith a gaiff gwasanaeth a fydd ar y cychwyn yn cael ei ddarlledu ar loeren yn unig. Cawn weld. Bu'r ymweliad â Chaerdydd yn sicr yn ysbrydoliaeth. Yn ôl y Ouest France, beth bynnag. Y pennawd oedd La tele galloise inspire Lorient. Fedrwn i ddim disgwyl mwy. Llun: O'r chwith: Bernard Le Nail, Yvonnig Gicquel, Jean-Louis Bouillere, Norbert Metairie y Maer, Gwyn Griffiths, Aled Islwyn, Euryn Ogwen. Yr oedd Michel Rio, y pumed aelod or ddirprwyaeth tu cefn i'r camera!
|
|