大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Alan Stivell Ergyd i'r ieithoedd bach
Stivell yn gandryll wedi i Senedd Ffrainc wrthod cydnabod ieithoedd lleiafrifol

gan Gwyn Griffiths - Mehefin 2008
Mae'r canwr enwog o Lydaw, Alan Stivell, wedi ymateb yn ffyrnig am i Ffrainc wrthod cydnabod ieithoedd bychain yng nghyfansoddiad y wlad.

Gwrthododd Senedd Ffrainc gynnig i wneud newid digon pitw i Gymal Cyntaf Cyfansoddiad y Weriniaeth a fyddai'n mynegi cydnabyddiaeth o fodolaeth ieithoedd sy'n "rhan o dreftadaeth Ffrainc."

Ei syfrdanu
Wrth ymateb yn chwyrn i'r penderfyniad anelodd Alan Stivell ei ddicter mwyaf tuag at yr Academi Ffrengig, a gyhoeddodd ddatganiad yn annog y Senedd i wrthod y cynnig a ddaeth oddi wrth Gynulliad Ffrainc.

"Cefais fy syfrdanu'n arbennig gan y datganiad a arwyddwyd yn unfrydol gan yr ysgolheigion - gan Erik Orsenna hyd yn oed," meddai.

Yr oedd syndod arbennig ynglŷn â safbwynt y llenor Orsenna gan ei fod yn un o wrthwynebwyr adnabyddus globaleiddio.

"Dengys nad yw ein hysgolheigion - os ydynt deilwng o'r enw - yn perthyn i wareiddiad y ddynoliaeth," meddai Stivell.
"Nodwedd gyntaf honno yw iddi godi o ymateb greddfol yr anifeiliaid tuag at reswm. Gwelsom y twpdra dinistriol anifeilaidd at bopeth o'u cwmpas yn eu hofn greddfol, afresymol, hunan-ddinistriol.

"Daw gwareiddiad ar y dydd pan roddir heibio gyfrannu at ddinistr trysorau anadferadwy ac amhrisiadwy dynoliaeth - ydy'r Academi'n tybio y medrant werthuso diwylliant? Beth yw barn yr academwyr hyn am fomio delwau'r Bwda gan y Taliban - annerbyniol, ond eto sy'n is yn nhrefn pwysigrwydd?"

Trosedd driphlyg
Disgrifiodd bleidlais y Senedd fel trosedd driphlyg:
  • "Trosedd yn erbyn deddfau rhyngwladol i noddi lleiafrifoedd di-amddiffyn yn erbyn sefydliadau mawr.
  • "Trosedd yn erbyn cyfreithiau Ffrainc sy'n gwahardd pob ffurf o hiliaeth a gwahanieithu.
  • "A throsedd yn erbyn gwareiddiad - yn hyn nid ydynt wedi codi uwchlaw greddf yr anifail."

    Trist
    Ac meddai'r awdur a'r cyhoeddwr Bernard Le Nail o Roazon (Rennes):
    "Mae'n wirioneddol drist meddwl bod ein hiaith yn marw a bod y dosbarth llywodraethol yn gwbl ddall i hynny."

    Pleidleisiodd y Senedd ddydd Iau diwethaf o 216 i 103 yn gwrthod cynnig gan Gynulliad Ffrainc.

    Ymunodd pleidiau'r canol, y Comiwnyddion a rhai Sosialwr gyda'r mwyafrif UMP i drechu'r cynnig.

    "Mae'n plant yn defnyddio iaith testuno, a rhaid atgyfnerthu'r Ffrangeg. Nid trwy roi lle i ieithoedd rhanbarthol mae gwneud hynny," oedd sylw dilornus y Seneddwr UMP, Jean-Pierre Fourcade, Hauts-de-Seine, Paris - agwedd nodweddiadol o'r mwyafrif gelyniaethus i ieithoedd eraill Ffrainc gan gynnwys y Llydaweg.

    Pleidlais arlein
    A phan drefnodd y papur dyddiol Le Monde bleidlais arlein ar y pwnc ddydd Gwener, Mehefin 20, 2008, cefnogodd 55% benderfyniad y Senedd gyda 40% yn erbyn gan gefnogi cydnabod yr ieithoedd llai.

    Ni allai 5% benderfynu y naill ffordd na'r llall.

    Ond yn ôl Maryvonne Cadiou o Asiantaeth Newyddion Llydaw yr oedd geiriad holiadur Le Monde yn amwys a chredai fod amryw wedi'u drysu gan ffurf y cwestiynau.
    Gwyn Griffiths.





  • cysylltiadau
  • Llygedyn o obaith i'r ieithoedd bach



  • ewrop

    Ffrainc
    Dod o Lydaw i weld teledu Cymraeg

    Ewrop

    Oes gafr eto?

    Adeiladau crwn Profens

    Pererinion o Lydaw yng Nghymru

    Dod i adnabod Paris

    Cymry Paris

    Agwedd undeb athrawon yn peri pryder i Lydawyr

    LLyfr Cymro am Lydaw

    Cofio arwr o Gymro yn Ffrainc

    Oes gafr eto?

    Terfysg ym Mharis - Tachwedd 2005

    Gobaith i'r ieithoedd bach?

    Ergyd i'r ieithoedd bach

    Celtiaid Ffrainc

    Nofelydd gwych y chwyldro Ffrengig

    Pobi yn Llydaw

    Tai, bwyd a gwin yn Ffrainc




    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy