大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Gobaith i'r ieithoedd bach?
Ymgyrchwyr ieithoedd bach yn gweld golau egwan yn Ffrainc

Mehefin 2008
Yn Ffrainc mae brwydwyr o blaid ieithoedd lleiafrifol - sef ieithoedd answyddogol - yn teimlo'u bod yn dechrau gweld mymryn o olau dydd gyda'u hymgyrchoedd.
Gwyn Griffiths sy'n sôn am rai o'r pethau sydd wedi codi eu calonnau.

Yn ystod Mai 2008 bu gwleidyddion Ffrainc - yn gynrychiolwyr a seneddwyr - yn trafod yr hyn a elwir ganddynt yn ieithoedd rhanbarthol.

Er mai peth bach yw hwn, y mae'r ffaith y bu trafodaeth o gwbl yn arwydd bod llywodraeth Ffrainc o leiaf yn cydnabod bodolaeth yr ieithoedd hyn ac o gofio pa mor ddilornus fu ei hagwedd tuag at ei hieithoedd bychain, y mae'n ddigwyddiad arwyddocaol.

Bu'r drafodaeth gyntaf erioed ar bwnc ieithoedd lleiafrifol yng Nghynulliad Cenedlaethol Ffrainc ar Fai 7 ac er neilltuo amser yn hwyr y prynhawn cyn diwrnod o wyliau cenedlaethol arhosodd dau ddwsin o aelodau i fynegi eu hawydd i weld amddiffyn a hyrwyddo'r ieithoedd hyn.

Annog newid y Cyfansoddiad
Cafwyd consensws cryf yn annog Ffrainc i arwyddo'r Siarter Ewropeaidd dros Ieithoedd Taleithiol a Lleiafrifol.

Bu unfrydedd, hefyd, o blaid newid Cymal 2 o Gyfansoddiad Ffrainc lle ceir y geiriau:
"Ffrangeg yw iaith y Weriniaeth" gan annog ychwanegu geiriau i'r perwyl "gan barchu, hefyd, ieithoedd rhanbarthol sy'n rhan o'n treftadaeth".

Poster Fest Noz - Noson Lawen Nododd amryw fod Ffrainc yn tanseilio'i hygrededd rhyngwladol drwy glochdar yr angen i amddiffyn amrywiaethau diwylliannol mewn gwledydd eraill ond yn anwybyddu hynny o fewn ei ffiniau ei hun.

Yn ôl Daniel Mach o ddeheubarth Ffrainc ni olygai ymdeimlad o berthyn a balchder rhanbarthol fod rhywun yn argymell ymrannu ac ymwrthod ag undod cenedlaethol Ffrainc.

Yn hytrach, yr oedd yn arwydd, meddai, o ddymuno'r hawl i ymfalchïo mewn, ac amddiffyn, diwylliant rhanbarthol.

Ond pan geisiodd orffen ei araith mewn Catalaneg, cafodd bryd sydyn o dafod gan lywydd y Cynulliad!

Yr oedd Marylise Lebranchu o Lydaw yn un o nifer a ddadleuodd dros newid Cymal 2 o gyfansoddiad Ffrainc a chyfeiriodd at ddeddfau a gynigiwyd er mwyn caniatáu derbyn ysgolion Llydaweg Diwan i gyfundrefn addysg gyhoeddus Ffrainc ond a wrthodwyd gan y Cyngor Cyfansoddiadol ar sail Cymal 2 o'r Cyfansoddiad.

"Byddai'n llesteiriol ac yn sarhaus pe byddai pob deddf iaith ranbarthol newydd yn cael ei chondemnio o'r cychwyn [ar sail y Cyfansoddiad]," meddai. "Rhaid bod yn ofalus, oherwydd mae sarhad yn arwain at drais."

Nododd amryw fod profion yn dangos bod trochi ieithyddol a dwyieithrwydd mewn ysgolion o help i blant i feistroli Ffrangeg a deall pynciau eraill yn well.

Cyfeiriwyd hefyd at fanteision economaidd, yn arbennig yn rhanbarthau ffiniol Ffrainc, lle bu ieithoedd bach yn gyfrwng hybu cysylltiadau - Alsasieg â'r Almaen, Corsicaneg â'r Eidal, Llydaweg â Chymru, Catalaneg â Sbaen.

Dadleuodd Marc Le Fur o Lydaw dros bwysigrwydd ymwrthod â'r syniad mai rhywbeth yn perthyn i oes a fu yw ieithoedd rhanbarthol a chyfeiriodd at y fest noz Lydewig fel mynegiant o greadigrwydd diwylliannol cyfoes.

"Yn fynych," meddai, "y rhanbarthau hynny gydag ymdeimlad cadarn o hunaniaeth yw'r rheini sydd fwyaf agored i'r byd tu allan. Nid yw hybu ieithoedd rhanbarthol yn creu cymunedau cul - i'r gwrthwyneb."

Ymateb y Gweinidog
Cafwyd yr ymateb ystyfnig arferol gan Mme Christine Albanel, y Gweinidog dros Ddiwylliant a Chyfathrebu, a welai arwyddo'r Siarter Ewropeaidd ar Ieithoedd Lleiafrifol yn drafferthus a chostus.

Dadleuodd nad yw gwrthod arwyddo'r Siarter yn arwydd o fethiant Ffrainc i gydnabod pwysigrwydd yr ieithoedd hynny gan fod yna, wedi'r cwbl, meddai "ddeddfau'n bodoli i gefnogi datblygiad ieithoedd rhanbarthol".

Ond does fawr neb yn gwybod beth yn union ydyn nhw!

Byddai Ffrainc, felly, yn parhau i gefnogi ei hieithoedd lleiafrifol, "drwy eu caniatáu yn hytrach na'u gorfodi, annog a datblygu yn hytrach na'u gwthio [ar bobl]."

Yng ngeiriau un Llydawr, dyma'r polisi o "esgeulustod rhadlon" y mae Ffrainc yn ei weithredu mor ardderchog.

Trafod eto
Dychwelwyd at y pwnc ar Fai 13 mewn cyfarfod o Senedd Ffrainc pan ofynnodd Nicolas Alfonsi o Gorsica gwestiwn i Christine Albanel ynglŷn â "diogelu a pharhad ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol".

Soniodd Jean-Louis Carrère o Aquitaine am y gwaith a wneir yn ei ranbarth ef dros Occitaneg ac Euskadi (iaith y Basgiaid) ac ni allai ddeall, meddai, "yr ysbryd Jacobinaidd sy'n ein gwahardd rhag gweld yn gliriach bwysigrwydd integreiddio'r cyfoeth hwn {o ieithoedd rhanbarthol] i'n cyfundrefn Weriniaethol a lleyg."

Aeth rhagddo i sôn am yr ymdrechion aflwyddiannus i ddod ag ysgolion Llydaweg Diwan dan adain cyfundrefn addysg y wladwriaeth.

Dywedodd Gérard Le Cam, Côtes d'Armor, Llydaw, fod 92 y cant o bobl Llydaw am weld parhad y Llydaweg a bod yr ysgolion yn gyfrwng hollbwysig i wireddu hynny.

Nododd fod rhanbarth Llydaw wedi buddsoddi deuddengwaith mwy yn y Llydaweg nag a fuddsoddwyd gan Ffrainc.
(Dylid cofio mai llywodraeth ganolog Ffrainc sy'n gyfrifol am bob agwedd o addysg gyhoeddus.)

Mae'n amlwg y gallai Ffrainc roi cefnogaeth gryfach yn hytrach na chadw addysg drwy gyfrwng yr ieithoedd rhanbarthol mewn sefyllfa ymylol, meddai M. Le Cam.

Daeth y nodyn mwyaf atgas o du'r Seneddwr Jean-Luc Mélencham a ymffrostiai yn ei anallu i siarad unrhyw iaith ond Ffrangeg - a mymryn o Sbaeneg ei gyndeidiau ac aeth ymlaen i holi pa ieithoedd lleiafrifol fyddai'n gymwys ar gyfer nawdd y Siarter Ewropeaidd. Ai y Lydaweg unedig a grëwyd gan y cydweithiwr gyda'r Natsïaid (sef y llenor a'r ysgolhaig Celtaidd Roparz Hemon) neu un o'r pum tafodiaith?

Soniodd Alima Boumediene-Thiery am bolisi Ffrainc o ddileu ieithoedd brodorol yn nhrefedigaethau'r Caribî a'r Môr Tawel.

"Nid yw ieithoedd rhanbarthol yn disodli Ffrangeg nac yn fygythiad i undod Ffrainc," meddai, "ond yn hytrach maent yn rhoi gwreiddiau ac undod cymdeithasol i gymuned".

Gorffennodd gyda dihareb Lydewig: "Pobl a gollant eu hiaith a gollant eu henaid."

Dadleuodd Jean-Paul Alduy, sy'n siaradwr Catalaneg, fod "angen deddf sydd nid yn unig yn hawlio parch i'r ieithoedd hyn ond hefyd yn eu hamddiffyn. "Nid yw parch yn ddigon," meddai.

Yr un ateb a roddodd y Gweinidog Diwylliant a Chyfathrebu, Christine Albanel, ag a roddodd yng nghyfarfod y Cynulliad sef na fyddai Ffrainc yn addasu ei chyfansoddiad nac yn arwyddo'r Siarter Ewropeaidd am y byddai hynny'n groes i undod Ffrainc ac i gydraddoldeb yr unigolyn.

Honnodd y byddai disgwyl i swyddogion cyhoeddus feistroli amryw ieithoedd eraill yn afresymol a'r gost o gyfieithu dogfennau yn aruthrol.

Ychwanegodd fod Ffrainc yn gwneud gwaith gwych dros ieithoedd rhanbarthol ac y tan ddefnyddir yr hawliau sydd eisoes yn bod.

Derbyn gwelliant
Dychwelodd y ddadl i'r Cynulliad Cenedlaethol ar Fai 22 pryd y derbyniwyd yn unfrydol welliant i Gymal 1 Cyfansoddiad Ffrainc gyda'r geiriau ychwanegol fod "... yr ieithoedd rhanbarthol yn rhan o dreftadaeth Ffrainc."

Bydd yn rhaid i'r newid gael ei dderbyn gan y Senedd ac wedi hynny gan gyngres o'r Cynulliad a'r Senedd ac fel y sylwodd y Llydawiaid, ynghynt na neb, ni wnaed unrhyw newid i Gymal 2 y Cyfansoddiad, sef yr un sy'n pwysleisio mai "Ffrangeg yw iaith y Weriniaeth".

Er nad oes fawr o hyder ymysg caredigion yr ieithoedd "answyddogol" hyn - yn arbennig ymysg y Llydawiaid - y gwelir llawer o newid agwedd o du'r llywodraeth y mae'n arwyddocaol y bu cymaint â hyn o drafod a dadlau ar y pwnc yn y Cynulliad a'r Senedd.

Y mae mymryn o olau - pa mor egwan bynnag - i'w weld ym mhellafoedd y twnel.

Ymateb yr Academi
Eisoes mae'r sefydliad Ffrengig yn dechrau adweithio i benderfyniad y Cynulliad. Y cyntaf i wneud hynny yw'r Academi, sy'n honni mandad i warchod defnydd a throsglwyddiad y Ffrangeg.

Drwy ryw ryfedd ffordd maen nhw'n honni bod y geiriau ychwanegol i gymal cyntaf y Cyfansoddiad yn gosod yr ieithoedd lleiafrifol mewn safle uwchlaw y Ffrangeg ond anodd deall beth maen nhw'n i feddwl, wrth hynny oni bai bod cyfeiriad at yr ieithoedd lleiafrifol yn ymddangos o flaen y cyfeiriad at y Ffrangeg a geir yn ail gymal y Cyfansoddiad!

"Mae hyn yn drysu'n llwyr egwyddor cyfansoddiadol y genedl," meddent gan alw am ddadwneud yn ddi-oed benderfyniad nad oes iddo le yng Nghyfansoddiad Ffrainc!

Ffrainc a'r ieithoedd bach
Yn ddiamau mae Ffrainc mewn rhywfaint o dwll ynglŷn â hyn. Fe'i beirniadwyd gan Ewrop am wrthod arwyddo'r Siarter Ieithoedd Rhanbarthol a Lleiafrifol a hynny ym Mlwyddyn Ryngwladol yr Ieithoedd a Blwyddyn Ewropeaidd o Ddeialog Rhyng-ddiwylliannol.

Miloedd mewn gwyl werin enwog yn L'Orient Mae Ffrainc wedi arwyddo Cytundeb Lisbon, a phetae hwnnw wedi'i dderbyn gan holl aelodau'r Gymuned Ewropeaidd, byddai'n rhaid iddi, fel y gwledydd eraill, barchu amrywiaethau ieithyddol a diwylliannol.

Mae'r Siarter Hawliau Sylfaenol, sy'n rhan atodol o'r Cytundeb, yn gwahardd gwahaniaethu ar sail iaith, hil neu berthyn i leiafrif cenedlaethol. Efallai bod Ffrainc yn ffodus i Iwerddon wrthod y Cytundeb!

Mae Ffrainc, ar sail ei chwyno parhaus am yr angen i hyrwyddo'r Ffrangeg yn wyneb y cynnydd rhyngwladol mewn defnydd o'r Saesneg, yn colli hygrededd yn y byd oherwydd ei ffordd sarhaus o drin ieithoedd bychain o fewn ei ffiniau ei hun.

Adeg y Chwyldro, allan o boblogaeth o 20 miliwn, ni allai 10 miliwn o boblogaeth Ffrainc air o Ffrangeg a dyna pryd y cychwynnodd yr ymgyrch i orfodi'r Ffrangeg ar bawb, a hynny drwy ladd yr hen ieithoedd.

Mor ddiweddar â 1900 dywedir mai gydag anhawster y gallai dau o bob tri o boblogaeth Ffrainc sgwrsio mewn Ffrangeg.

Mae yn yr ieithoedd lleiafrifol hyn drysorau llenyddol a thraddodiadau gloyw. Eto cânt eu trin fel baw gan wladwriaeth Ffrainc.
Occitaneg oedd iaith y trwbadwriaid, y beirdd rhamantus telynegol a newidiodd holl deithi barddoniaeth Ewrop yn y canol-oesoedd.

Bu'r Llydaweg yn gyfrwng pwysig yn natblygiad a throsglwyddiad y chwedlau Arthuraidd i brif ffrwd llenyddiaeth Ewrop.

Bu cyhoeddi Barzaz Breiz, casgliad Kervarker (Villemarqué) o faledi a cherddi gwerin Llydaw yn 1839, yn ddigwyddiad o bwys Ewropeaidd ac yn symbyliad i eraill fwrw ati i gasglu llên gwerin mewn rhanbarthau eraill o Ffrainc.

Ym Mehefin 2008 ailgyhoeddodd cwmni Americanaidd gyfieithiad Saesneg Tom Taylor (1865) o'r Barzaz Breiz dan y teitl Ballads and Songs of Brittany.






cysylltiadau
  • Senedd Ffrainc yn gwrthod yr ieithoedd bach





  • ewrop

    Ffrainc
    Dod o Lydaw i weld teledu Cymraeg

    Ewrop

    Oes gafr eto?

    Adeiladau crwn Profens

    Pererinion o Lydaw yng Nghymru

    Dod i adnabod Paris

    Cymry Paris

    Agwedd undeb athrawon yn peri pryder i Lydawyr

    LLyfr Cymro am Lydaw

    Cofio arwr o Gymro yn Ffrainc

    Oes gafr eto?

    Terfysg ym Mharis - Tachwedd 2005

    Gobaith i'r ieithoedd bach?

    Ergyd i'r ieithoedd bach

    Celtiaid Ffrainc

    Nofelydd gwych y chwyldro Ffrengig

    Pobi yn Llydaw

    Tai, bwyd a gwin yn Ffrainc




    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy