大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Adeiladau crwn Profens
Gwyn Griffiths yn gweld tebygrwydd rhwng adeiladau hynod Profens a thylcau moch Cymru!

Does unlle brafiach na Profens (Provence) yn y gwanwyn.
Yr olewydd aflêr a gwargam, arogl teim a rosmari yn y bryniau, y gwinllannau, y caeau lafant yn eu rhesi rhyfeddol, clonc y clychau am yddfau'r geifr - a'r croeso teuluaidd.

Y croeso teuluaidd ar y ffermydd yn anad dim.

Mae lletya ar fferm yn ddieithriad yn bleser ac yn brofiad cyfoethog.
Mae ffermwyr pob gwlad yn adnabod eu bro, eu pobl a'u hanes. Rhai felly yw Danielle a Marcel Pommier, hael, gwybodus a pharod i rannu eu gwybodaeth.

Saif eu fferm gyda'i gwinllan, coed ceirios a llwyni mefus rhwng Bonnieux ac Apt yng nghanol bryniau braf y Luberon.

Mae merch iddynt wedi priodi i deulu o gynhyrchwyr gwin ger pentref cyfagos Roussillon ac ymddangosai aml botelaid annisgwyl o win o'r Domaine Girod tu allan i ddrws y gîte tra yr oeddem yno.

La Borie yw'r enw ar un o winoedd gwyn y fferm.

Adeiladau cerrig
Un o nodweddion y Luberon yw'r adeiladau cerrig sychion - crwn fel arfer, ond nid o reidrwydd - sy'n britho gwastatir pennau'r bryniau.

Bories neu cabanes yw'r enw lleol arnyn nhw ac y maen nhw'n perthyn i'r tylcau moch a welir ar fuarth ambell fferm ym Mro Morgannwg a Blaenau Morgannwg.

Yr enwocaf o'r rheini yw'r un a symudwyd o Hendre Prosser, uwchben Rhydyfelin, Pontypridd, a'i ail godi yn Amgueddfa Sain Ffagan.

Y cerddwyr - Gwen ar y ddeFelly, pan alwodd Danielle ar fore Mercher cyntaf ein arhosiad a'n gwahodd i fynd ar daith gerdded o gwmpas rhan o'r claparèdes - gwastatir uchel, caregog gyda'r enw yn dod o'r gair Profensaleg am gerrig - ac o amgylch Pentre'r Galiaid (Le Village Gaulois) roeddem wrth ein boddau.

Gallasem fod ar un o deithiau Cymdeithas Edward Llwyd, dim ond bod pawb o griw Bonnieux yn bensiynwyr.

Daeth dyn o'r enw Yvon gyda chowlaid o ffyn ar gyfer y llai proffesiynol ac yr oedd yna arlunydd o Corsica a ymsefydlodd yn yr ardal.
Pobl groesawus, siaradus - a cherddwyr egnïol.

Amgueddfa
Y mae pentref tebyg i Bentre'r Galiaid ar gyrion tref fechan Gordes eto heb fod ymhell i ffwrdd, pentref a adnewyddwyd yn amgueddfa awyr agored.

Euthum yno un tro â llun o dwlc Hendre Prosser a gofyn i'r curadur a fuasai'n derbyn mai borie oedd yr hyn a ddangoswn iddo. Edrychodd arno'n ofalus cyn cyhoeddi mai borie heb lygedyn o amheuaeth yw twlc Sain Ffagan.

Ond nid yw Pentre'r Galiaid yn agored i'r cyhoedd.
Codwyd ffens uchel o'i gwmpas ond mae'n bosib gweld yr adeiladau cerrig sychion rhai yn grwn fel twlc Sain Ffagan ond yn llawer mwy o faint, eraill yn sgwâr.

Saif Pentre'r Galiaid i'r de o Bonnieux ac er ei fod ar y map nid oes unrhyw arwyddion i'ch cyfeirio ato.

Mae'r llwybr yn serth a chul ond wedi cyrraedd y gwastatir mae'n lledu i fod yn ddigon i gymryd trol ac y mae adeiladwaith y clawdd cerrig yn gain a gofalus.

"Celtiaid, wyddoch chi, neu Geltiaid-Ligwraidd, 'ta pun," meddai un o'r cerddwyr wrthym.
"Fy nghyndeidiau, siŵr o fod," atebais innau.

Canu cân
Roedd y cerddwyr yn gwybod mai Cymry oeddem, ond heb sylweddoli'n iawn mai ni yw'r arch-Geltiaid.

Tipyn o dynnu coes, wedyn. Erbyn i ni straffaglu fyny o'r gwastatir a chyrraedd gwastatir arall yr oeddem wedi ymlâdd.

Cawsom hoe dda wedyn a chais i ganu cân Gymraeg.

Cytunwyd, ar yr amod eu bod nhw'n canu cân Brofensaleg i ni.

Fe ganon ni Cyfri'r Geifr, a dybiem yn addas mewn bro gyda chynifer o eifr.

Roedd llai o lun ar eu canu nhw na'n canu ni a chawsom berfformiad o ddawns draddodiadol Profens, La Farandole, i wneud iawn am hynny.

Aethom yn ôl hyd y lonydd i Bonnieux, yn falch mai taith ar y goriwaered oedd hi nawr.

Chwilio
Ond yr wythnos wedyn yr oeddem yn barod am daith arall i chwilio mwy o'r adeiladau cerrig sychion hyn.

Aed â ni heibio i ddarn sgwâr o dir wedi ei amgylchynu gan furiau cadarn, gyda lloches fechan yn y mur wrth y fynedfa.

Ni fedrai neb egluro pwrpas y mur, na phwy a'i hadeiladodd na phryd.

Gwelsom dŷ haf wedi ei adeiladu o gerrig sychion a rhannau ohono ar ffurf borie.

Borie symlErbyn hyn yr oedd y dwymyn chwilota bories wedi cydio. Gwelodd Gwen fy ngwraig ddarlun o borie arbennig o'r enw Mourre Blancger Lacoste, yr un ag a fu'n Lacoste fu'n ddihangfa i'r Marquis de Sade a roes i ni'r geiriau sadistig, sadistiaeth ac ati.

Adeilad unigryw
Bu'r ymdrech i ddod o hyd i'r Mourre Blanc bron cyn ddifyrred â'r ymweliad â'r lle.

Yn ystod ein ymholiadau daethom i fferm gyda borie rhwng tŷ a chartws â chroes uwch ei ben.

Unigryw mae'n debyg, ac yr oedd ei berchennog yn siomedig nad oedd llun ohono yn un o'r nifer o lyfrau a gyhoeddwyd am adeiladau cerrig sychion Profens.

Yn y diwedd, trwy garedigrwydd pobl leol a aeth â ni ato, daethom o hyd i'r Mourre Blanc a oedd yn glamp o le gyda chwe ystafell, oll ar yr un llawr.
I feddwl bod hwn yn perthyn i dwlc Hendre Prosser!

Y cysylltiad
Beth felly yw hanes y bories hyn? A beth yw'r cysylltiad rhyngddynt a thylcau Cymru ac adeiladau tebyg ym Malta a Gorllewin Iwerddon?



Gyda chroes . . .Mae'n amlwg mai hen grefft wedi gor-oesi miloedd o flynyddoedd sydd yma.

"Pan ydych chi'n trin y tir fe ddaw cerrig i'r wyneb drwy'r amser," meddai gwraig y fferm gyda'r borie a'r Groes arno.

"A beth wnewch chi â'r cerrig? Codi borie wrth reswm!"

Y mae ambell gyfeiriad at bobl yn byw ynddynt gan gynnwys un mewn nofel Brofensaleg, Li Rouge dóu Miejour (Cochion y Midi), gan Félix Gras.

Darllenais mai Waldensiaid, neu'r Vaudois, sect grefyddol a gredent yn llythrennol yng ngorchymyn Iesu Grist i werthu'r hyn oll sydd gennych a'i rannu ymhlith y tlodion, fu'n byw yn y Mourre Blanc.

Sect a erlidiwyd gan y Pabyddion ond a gafodd nodded a llonydd gan drigolion eangfrydig a rhadlon Profens a gwlad yr Oc.

Ni all neb amau caredigrwydd na haelioni y bobl hyn fel y gwn yn dda.





ewrop

Ffrainc
Dod o Lydaw i weld teledu Cymraeg

Ewrop

Oes gafr eto?

Adeiladau crwn Profens

Pererinion o Lydaw yng Nghymru

Dod i adnabod Paris

Cymry Paris

Agwedd undeb athrawon yn peri pryder i Lydawyr

LLyfr Cymro am Lydaw

Cofio arwr o Gymro yn Ffrainc

Oes gafr eto?

Terfysg ym Mharis - Tachwedd 2005

Gobaith i'r ieithoedd bach?

Ergyd i'r ieithoedd bach

Celtiaid Ffrainc

Nofelydd gwych y chwyldro Ffrengig

Pobi yn Llydaw

Tai, bwyd a gwin yn Ffrainc




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy