大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Oes gafr eto?

Gwyn Griffiths yn canfod fod yna groeso i Gymry ym Mhrofens a chyfle i hamddena mewn bro sy'n gyfoethog ei hanes a llên


Does dim gwell na chroesi i Ffrainc dros nos, cysgu ar long a chyrraedd yn gynnar gyda diwrnod da o yrru i edrych ymlaen ato a bod yn y de erbyn tua chwech.

Ond roeddwn yn hwyr yn bwcio a gorfod derbyn cwch wyth y bore ar y Mont-St-Michel o Portsmouth i Caen. Llong fwyaf, a chrandiaf Brittany Ferries.

Er mor fywiog y tonnau, roedd y Mont-St-Michel yn torri cwys gadarn ac erbyn nos roeddem wedi gadael gwynt a glaw Cymru, Lloegr a gogledd Ffrainc ymhell ar ôl.

Erbyn y noson wedyn roeddem wedi cyrraedd y Luberon ym Mhrofens (Provence) a sicrhau llety yn Le Castelas, bugeildy yn y mynyddoedd uwchben Apt.

"Sut gwyddoch chi am y lle yma?" holodd Leonardo. "Ni wedi bod yma o'r blaen, ond 'roeddech chi'n llawn. Felly dyma ni'n dychwelyd."

Buasai wedi bod yn ddiflas cyrraedd a dim lle a gorfod mynd yn ôl i lawr y ffyrdd culion a diarffordd i chwilio am rywle arall i aros. Ond roedd yn gynnar yn y tymor gwyliau a roedd digon o le.

Corlan i'r geifr
Clamp mawr o adeilad yw Le Castelas. Mae ynddo gorlan i'r geifr, sgubor yn ogystal â'r ty a'r stafelloedd gwely moel ond bod y gwelyau'n gyffyrddus. "Be fyddech chi'n galw'r lle yma? Mas, bastide, fferm ?" holais Leonardo.

Mae'n anodd gwybod pa enw i'w defnyddio yn y rhan yma o dde Ffrainc, gan fod lle a elwir yn mas mewn un man yn troi'n bastide mewn ardal arall. Ac i'r gwrthwyneb.

Doedd e ddim yn siwr galwch e'n bergerie (bugeildy), oedd yr ateb.

Ffrangeg gydag acen Eidalaidd
Dydy Leonardo ddim o'r fro hon ddim hyd yn oed o Ffrainc. Gwr pryd tywyll o Sardinia, sy'n siarad Ffrangeg gydag acen Eidalaidd gref, ond hawdd ei deall. Siriol iawn, ac wedi darganfod ein bod o Gymru cawsom wybod i'w frawd fod yn gwersylla ar Ynys Môn. A roedd e am wybod pam nad oedd gan Gymru yr un fath o hunanlywodraeth â'r Alban.

Ingrid cyfnither i Leonardo a Gianni, sy'n berchen Le Castelas. Rwy'n siwr mai Lou Castelas ddylai'r enw fod, gan mai Profensaleg yw Castelas adeilad caerog. Ond wnaethon ni ddim i hollti blew.

Welsom ni ddim o Ingrid tan yn hwyrach yn yr wythnos. Leonardo oedd yn gwneud popeth coginio, gweini, godro'r geifr ac, am wn i, fe laddodd yr afr a gawson ni i swper y noson gyntaf.

Wnaeth e dim cyfaddef hynny. Ond yn ôl Leonardo roedd popeth ar y fwydlen un dewis oedd yna bob nos wedi ei gynhyrchu yn y lle.

Courgettes wedi ei ffrio, cig gafr a chaws gafr o flaen coelcerth o dân coed.

"Nid dyma'r afr fach welson ni chi'n ei chario yn eich côl gynnau fach," holodd gwraig ifanc o Grenoble, pan gyrhaeddodd y platiad cyntaf o gig. "Na, na, ddim o gwbl," meddai Leonardo gyda gwên fawr. Doedd y ddynes o Grenoble ddim yn siw a ddylai hi ei gredu.

Yn ôl Leonardo roedd y gwin o winllan yn is i lawr y mynydd. Roeddwn yn amau, o'r modd yr oedd yn llosgi yr holl ffordd i lawr i'r stumog, mai marchnad fini Bonnieux oedd y winllan ac mai dyma'r stwff rhataf yn y selar gyffredin honno.

Roedd arafwch y gwesteion eraill Ffrancwyr i gyd - i ymestyn am y piseri yn peri i mi amau fod fy namcaniaeth yn go agos ati.

Er y gwynt yn chwiban yn y to roedd y stafell wely'n gynnes. Roedd e'n chwythu o Fôr y Canoldir, yn ôl Leonardo, felly nid y Mistral melltigedig oedd e.

Erlid crefyddol
Trannoeth, wedi brecwast a threulio hanner awr yn gwylio Leonardo ac un o'r gweision yn godro'r geifr, aethom i ddechrau cerdded y wlad.

Mae'n wlad llawn hanes. Dyma wlad y Waldensiaid, neu'r Vaudois, sect Brotestannaidd a sefydlwyd gan wr o Lyons o'r enw Jean Valdo yn 1184. Sect oedd yn derbyn yn llythrennol orchymyn yr Iesu "Dos a gwerth yr hyn oll sydd gennyt a dyro i'r tlodion."

Nid y math o athroniaeth i blesio'r Eglwys Babyddol oludog.

Erlidiwyd y Waldensiaid a chawsant loches a llonydd i ymsefydlu yng nghilfachau ac ucheldir mynyddoedd y Luberon lleoedd fel Le Castelas. Yn Sivergues, y pentref agosaf, mae mynwent Waldensiaid. Ar ddamwain y deuthum o hyd iddi, digwydd gweld yr haul yn taro ar wal gerrig yn y coed.

Heblaw'r erlid, a roes inni'r ffermdai anghysbell, sydd, er yn fawr, yn anodd iawn i'w gweld nes eich bod yn eu cyrraedd dyma wlad y llwybrau cudd. Cludid halen o Fôr y Canoldir drwy'r mynyddoedd hyn ac y mae'r llwybrau'n hynod o anodd i'w gweld ymysg y coed. Llwybrau i osgoi'r lladron pen ffordd.

Mae'r ogan geg yn offeryn poblogaidd yn y mynydd-dir yma. Yn ôl Un des Baumugnes (Un o'r Baumugnes), stori gan Jean Giono, un o lenorion pwysicaf mynyddoedd Profens, torrwyd tafodau y Waldensiaid gan eu herlidwyr Pabyddol i'w rhwystro rhag canu eu hemynau.

Siaradent â'i gilydd drwy gyfrwng yr organau ceg ac o barch i'w hynafiaid parhawyd gyda'r arfer am genedlaethau wedyn. Roedd llun hen fugail, ei ddefaid o'i gwmpas, a'r organ geg wrth ei wefusau, yn stafell fwyta Le Castelas.

Ond ni wyddai Leonardo'r stori er i Macel Pagnol, un arall o lenorion Profens, ac arloeswr y sinema, wneud ffilm o'r stori dan y teitl Angèle.

Lloches i ddyn cyntefig
Hawdd credu y bu'r dyffrynnoedd hyn yn lloches i ddyn cyntefig. Mae creigiau fel ceulannau enfawr ym mhob man. O adeiladu un wal o flaen y ceulannau neu ogofau hyn gellir creu stafell, weithiau gorlan ar gyfer diadell dda o defaid.

Yng ngwaelod y cymoedd culion hyn ceir dolydd bychain gyda ffynhonnau'n tarddu'n eu canol. Unwaith daethom ar draws bugail ifanc gyda dau neu dri o gwn, y defaid o gwmpas. Gorweddai ar ei gefn, yn darllen llyfr.

Buaswn wedi hoffi tynnu sgwrs gydag ef ond roedd ei gwn wedi bod yn ymdrochi yn y ffynnon leidiog ac yn awyddus i chwarae. 'Sdim gwaeth na chi bawlyd sydd eisiau chwarae.

Dyma wlad y caeau lafant a'r cutiau cerrig sychion a elwir yn boris, ar yr un cynllun ond yn fwy, a'r tylcod a welir ar fuarth ambell fferm ym Morgannwg a Gwent. Mae un yn Amgueddfa Sain Ffagan, wedi ei symud o fferm Hendre Ifan Prosser uwchben Rhydfelen.

Ar un adeg fe'u defnyddiwyd yn gysgod i fugail dros nos. Gwelsom ddau oedd yn amlwg yn dai haf!

Mae yma bontydd bychain gydag un ochr ar ffurf cragen un o lwybrau'r pererinion i Sant Iago de Compostela, yn Galicia.

Dyma wlad i'w cherdded, i'w beicio gellir llogi beiciau mynydd yn Bonnieux neu ferlota. Gwlad lle mae'r haul tanbaid yn hudo holl arogleuon y banadl, bocs a'r ferywen. A'r coed yn gysgod rhagddo.

Gwinllannau a pherllannau
Gwlad y gwinwydd a'r perllannau, y creigiau a'r cymoedd. Nefoedd cerddwyr a dringwyr gerllaw pentre Buoux mae un o'r mannau dringo awyr agored gorau yn Ewrop, meddan nhw. Syrthiodd un ddringwraig enwog 80 troedfedd i ganol y prysgwydd a'r deri heb fod ddim gwaeth.

Dyma le hefyd i rai sy'n hapusach yn hamddena ymysg llenorion a haneswyr. Pobl fel y llyfrwerthwr Marc Dumas yn nhref Apt bardd mewn Profensaleg a llenor mewn Ffrangeg. Gwr cynnes ei groeso i Gymry.

Darparu ar gyfer pobl felly y mae Le Castelas. Lle i fwrw noson cyn symud ymlaen i rywle arall neu i aros i gerdded y mynyddoedd. Mae digon o lwybrau oddi yma am wythnos gyfan.

Am 58 ewro fe gewch stafell, swper, brecwast a brechdanau i fynd gyda chi ar eich taith. Y cyfeiriad yw: Le Castelas, 84400 Sivergues, Ffrainc. Cyfeiriad e-bost: le_castlelas@yahoo.fr




ewrop

Ffrainc
Dod o Lydaw i weld teledu Cymraeg

Ewrop

Oes gafr eto?

Adeiladau crwn Profens

Pererinion o Lydaw yng Nghymru

Dod i adnabod Paris

Cymry Paris

Agwedd undeb athrawon yn peri pryder i Lydawyr

LLyfr Cymro am Lydaw

Cofio arwr o Gymro yn Ffrainc

Oes gafr eto?

Terfysg ym Mharis - Tachwedd 2005

Gobaith i'r ieithoedd bach?

Ergyd i'r ieithoedd bach

Celtiaid Ffrainc

Nofelydd gwych y chwyldro Ffrengig

Pobi yn Llydaw

Tai, bwyd a gwin yn Ffrainc




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy