´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2006

´óÏó´«Ã½ Homepage
Cymru'r Byd

»

Urdd 2006

O'r Maes
Lluniau

Cefndir

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
O'r Maes
Maes Steddfod O gelf a chrefft i glytiau
. . . o bwll nofio i gaffi
Pob math o bethau ar Faes y Brifwyl

  • ARDDANGOSFA CELF A DYLUNIO TECHNOLEG
    Bydd arddangosfa o waith buddugol yr Adran Gelf, Dylunio a Thechnoleg yn cael ei llwyfannu yn flynyddol yn Eisteddfod yr Urdd. Thema Celf, Dylunio a Thechnoleg eleni yw SYMUD ac mae'n bosib i'r cystadleuwyr ddehongli'r thema mewn sawl ffordd wahanol, boed yn llythrennol neu haniaethol. Yn y Pafiliwn Celf, Dylunio a Thechnoleg mae gweithdai dyddiol i blant yn ogystal â champau gwyddonol sy'n cael eu darparu gan Techniquest@NEWI a MathCymru.

  • °­Ã…°Õ´¡
    Eleni fel y llynedd, Kata, pabell draddodiadol yr helwyr Ceirw Sami o Lapland fydd i'w gweld ar faes yr Eisteddfod. Yn y Kǻta bydd brecwast masnach deg bob bore, ynghyd â gemau a gweithdai amrywiol.

  • Y MAES CHWARAEON
    Yn y Maes Chwaraeon mae pêl-droed, rygbi, golff, pêl-rwyd a llawer mwy o dan ofal staff yr Urdd, Scarlets Llanelli ac Adran Hamdden Sir Ddinbych. Dringwch wal ddringo Glan-llyn i gael gwell golygfa o Faes yr Eisteddfod!

  • Y GANOLFAN GROESO
    Yn y Ganolfan Groeso mae bar coctel yr Urdd, Seibr Gaffi Prifysgol Cymru Aberystwyth, Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyngor Sir Ddinbych, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Eisteddfod Genedlaethol Cymru ac Eisteddfod yr Urdd 2006 a 2007. Ar gael yno hefyd mae offer cyfieithu i'w defnyddio yn y Pafiliwn.

  • MAP YR EISTEDDFOD
    Caiff map ei gyhoeddi o faes yr Eisteddfod sydd nid yn unig yn dangos ble mae popeth ar y maes ond mae'n rhoi gwybodaeth am brif ddigwyddiadau'r wythnos hefyd. Bydd 50,000 copi yn cael eu hargraffu a'u dosbarthu yn rhad ac am ddim ar hyd y maes.

  • AWDURDODAU LLEOL
    Cefnogir yr Eisteddfod yn hael yn ariannol gan Gyngor Sir Ddinbych, ac mae'r Eisteddfod wedi derbyn eu cydweithrediad parod wrth baratoi ar gyfer y brifwyl. Rhaid cydnabod hefyd gyfraniadau gwerthfawr a dderbyniwyd gan lu o gynghorau eraill ledled Cymru.

  • PWLL NOFIO
    Bydd pwll nofio Ysgol Brynhyfryd ar agor bob dydd rhwng 5 a 7 yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

  • NEUADD GORAWL LLYWODRAETH CYNULLIAD CYMRU
    Bydd rhaglen lawn o berfformiadau a chystadlaethau, yn cynnwys y rhagbrofion corawl, i'w gweld yn y Neuadd Gorawl yn agos i brif fynedfa'r maes. Noddir y Neuadd Gorawl gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

  • LLWYFAN PERFFORMIO
    Bydd y Llwyfan Perfformio yn cynnig gwledd o berfformiadau byw gan artistiaid amrywiol a gweithgareddau eraill trwy gydol yr wythnos.

  • DOSBARTHIADAU MEISTRI
    Yn y 'Dosbarth Meistr' gyferbyn â Stiwdio 1, bydd cyfle i gystadleuwyr gymryd rhan mewn Dosbarthiadau Meistr gyda pherfformwyr amlycaf Cymru.

  • CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU
    Yn stondin Cyngor Celfyddydau Cymru bydd gweithdai celfyddydau gweledol dyddiol a gweithdai perfformio amrywiol eraill, ynghyd â sesiynau hyfforddiant gyrfaol yn ymwneud â'r celfyddydau.

  • CAFFI MISTAR URDD
    Lluniaeth o bob math am brisiau rhesymol. 8.30 yb - 6.30 yh.

  • LLUNIAU LLWYFAN
    Cyfle i archebu llun o bawb sy'n cystadlu gan Lluniau Llwyfan.

  • CYFLEUSTERAU BWYDO A NEWID CLYTIAU
    Ym mhabell TWF mae cyfleusterau bwydo a newid clytiau.




  • About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý