大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2006

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Urdd 2006

O'r Maes
Lluniau

Cefndir

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Wynne Melville Jones gyda Mistar Urdd Pen-blwydd Mistar Urdd
Poblogaidd - ond ei dronsiau'n achosi rhwyg
Dydi o ddim yn edrych ddiwrnod hynach nag oedd e pan ymddangosodd gyntaf erioed yn goch gwyn a gwyrdd ddeng mlynedd ar hugain yn 么l - ond y mae Mistar Urdd yn dathlu ei ben-blwydd yn 30 ar Faes yr Eisteddfod yn Rhuthun yr wythnos hon.

Yn amlwg, nid yn un a fu'n edrych ar 么l ei ffigwr yr oedd wedi twchu rhywfaint ers y dyddiau cynnar ac yr oedd clamp o gacen i wthio'r broses yn ei blaen yn rhan o'r dathliadau ar Faes yr Eisteddfod!

Hefyd, cerdyn wedi ei arwyddo gan blant o bob rhan o Gymru, a Tara Bethan yn canu pen-blwydd hapus iddo gyda chriw o blant Sir Gaerfyrddin lle bydd eisteddfod y Mudiad y flwyddyn nesaf.

Yn rhan o'r parti hefyd roedd arddangosfa o hen luniau a nwyddau o ddyddiau cynnar Mistar Urdd.

Ganwyd Mistar Urdd ym Medi 1976 yn 'fab' i Wynne Melville Jones Swyddog Cyhoeddusrwydd y mudiad yn ystod y Saithdegau.

Yr oedd hyn, meddai Mr Jones, yn ystod cyfnod pan oedd yr Urdd ar rywfaint o drai yn dilyn rhwygiadau a achoswyd yng Nghymru ac o fewn y Mudiad yn sgil arwisgo y Tywysog Charles yn Dywysog Cymru yn 1969.

Torri'r gacen pen-blwydd Tyfodd Mistar Urdd yn fuan yn gymeriad poblogaidd a unieithwyd a'r Urdd am gyfnod hir ond yr edwinodd ei boblogrwydd rhywfaint dros y blynyddoedd diwethaf.

Crysau a thronsiau
Yn rhan o ymgyrch hyrwyddo fawr Mistar Urdd argraffwyd crysau T a nwyddau yn dwyn ei lun - heb s么n am ambell i dr么ns hefyd.

Meddai Wynne Melville Jones a oedd yn y parti: "Roedd rhywbeth o gynnyrch Mistar Urdd wedi cyrraedd bron bob cartref yng Nghymru yn ystod diwedd y saithdegau a'r wythdegau.

"Un o'r cynnyrch mwyaf poblogaidd oedd gonc Mistar Urdd ac fe atgyfodwyd crysau nos traddodiadol Cymreig gyda'r cymeriad wedi ei argraffu arnynt, miloedd lawer ohonynt. Roedd hi'n gyfnod hynod gyffrous i'r Urdd."

Bu'r tronsiau fodd bynnag fymryn yn fwy dadleuol - fel y gall tronsiau fod - gyda stondin yr Urdd yn cael ei gau yn Eisteddfod Llangollen yn 1978 gan nad oedd awdurdodau'r Eisteddfod honno yn teimlo ei bod yn briodol gwerthu'r fath beth ar eu maes!

Rai blynyddoedd yn 么l recordiodd y Super Furry Animals g芒n, 'Tr么ns Mistar Urdd'.

Mistar Urdd yn dathlu gyda'r plant Sefydlwyd cwmni masnachol, 'Copa Cymru' i gynhyrchu nwyddau ac agorwyd siop Mistar Urdd yn Aberystwyth a threfnwyd gwasanaeth prynu drwy'r post.

Yn 1979 bu taith hyrwyddo trwy Gymru gyda cherbyd arbennig a Mici Plwm yn arwain yr ymgyrch.

Yn 2002 ail recordiwyd c芒n Mistar Urdd gan CIC yn rhan o ymgyrch gyhoeddusrwydd fawr yn dilyn cyfnod anodd clwy'r traed a genau.

Bu gonc Mistar Urdd hefyd yn y gofod yn gydymaith i Dafydd Rhys Williams y gofodwr o Ganada sydd o dras Cymreig gan deithio i'r Orsaf Ofod Ryngwladol yn 1998.

Fel rhan o'r dathliadau pen-blwydd eleni mae gan Mistar Urdd siwt newydd ac mae'n parhau i deithio o amgylch ysgolion y wlad.



About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy