|
|
|
Cwis rygbi cyntaf Tîm o'r Bala fu'n fuddugol yn y Cwis Rygbi Ieuenctid cyntaf erioed i'w gynnal ar faes Eisteddfod yr Urdd. |
|
|
|
Ddydd Llun yr Eisteddfod daeth timau o glybiau Rhuthun, Nant Conwy a'r Bala ynghyd i'r babell berfformio ar y Maes i ateb cwestiynau wedi'u gosod gan Gareth William Jones, awdur cyfres o nofelau am rygbi ieuenctid - cyfres Mewnwr a Maswr.
Gofynnwyd deg ar hugain o gwestiynau mewn gornest arbennig i ddathlu cyhoeddi Tân ar Groen, y bumed gyfrol yn y gyfres.
Mewn gornest gyffrous, cipiwyd y tlws ar ddiwedd tair rownd o gwestiynau gan aelodau ieuenctid Clwb Rygbi'r Bala.
"Roeddwn i'n ofni cyn dod yma fod rhai o'r cwestiynau yn rhy galed," meddai Gareth William Jones, "ond mi wnaeth dyfnder gwybodaeth y timau am y byd rygbi fy synnu.
"Ac roeddwn i'n arbennig o falch fod y timau i gyd wedi sgorio mwy o bwyntiau yn y rownd ar gwestiynau cyfres Mewnwr a Maswr nag yn y ddwy arall!"
Mae'r nofelau yn olrhain hanes a helyntion dau efaill o ogledd Cymru, sydd â mam-gu a thad-cu o Sir Gaerfyrddin, ar faes y bêl hirgron.
"Mae'r gyfres wedi cydio yn y darllenwyr ifanc," meddai Myrddin ap Dafydd o Wasg Carreg Gwalch, y cyhoeddwyr. "Rydan ni'n cael ymateb da o bob cwr o Gymru"
Mewnwr a Maswr - 5
Tân ar Groen.
Gwasg Carreg Gwalch £4.50
|
|
|
|
|
|