大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2006

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Urdd 2006

O'r Maes
Lluniau

Cefndir

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Beti Watson Cofio Corwen 1929
Cystadleuydd eisteddfod gyntaf erioed yr Urdd ar y Maes
GO brin fod gan neb ar y Maes ddydd Llun atgofion yn ymestyn yn 么l ymhellach na Beti Watson.

Yn 91 oed yr oedd Beti ymhlith y cystadleuwyr yn eisteddfod gyntaf yr Urdd, yng Nghorwen 77 o flynyddoedd yn 么l.

Adeg yr eisteddfod honno yn 1929 yr oedd Beti yn blentyn ym Metws Gwerfyl Goch ac yn chwarae rhan gwraig y prif gymeriad yn y ddrama John Homer yn un o gystadlaethau'r adran ddrama.

"Tua deuddeg oed oeddwn i, a dwi'n cofio hwyl yr ymarfer, a dwi'n cofio'r orymdaith, a gwneud baner fawr ar gyfer yr orymdaith," meddai.

"Mae gen i gof gwell o ddawnsio yn Eisteddfod Caernarfon y flwyddyn wedyn a chael blows newydd sbon i fynd i'r steddfod!" ychwanegodd. Mae Beti yn byw yn Rhuthun ers deugain mlynedd erbyn hyn ac yn edrych ymlaen at weld ei gor-wyres, Erin Jones o Ysgol Twm o'r Nant, Dinbych, yn cystadlu ar lwyfan go wahanol i'r un a droediwyd ganddi hi yr holl flynyddoedd yn 么l.

"Rydw i'n rhyfeddu at y gwaith sy'n cael ei wneud," meddai. "Yr oeddwn i yn y cyngerdd neithiwr ac yn rhyfeddu at y symudiadau a dwi'n amau a oes cystal yn Llundain hyd yn oed."

Breichled o binau cau Gyda hi yn yr eisteddfod yr oedd gan Beti lun o'i chyfoedion o Fetws Gwerfyl Goch a fu'n cystadlu yng Nghorwen - gyda deuddeg ohonyn nhw yn dilyn gweithgareddau'r Eisteddfod gyda'r un diddordeb a Beti.

Ymhlith diddordebau Beti mae gwneud breichledau tlws allan o binnau cau er mwyn codi arian tuag at achosion da fel yr uned str么c mewn ysbyty lleol.

Dywedodd mai syniad a ddaeth o Dde Affrica yw ac mae'n defnyddio 80 o binnau cau ar gyfer pob breichled.




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy