´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2006

´óÏó´«Ã½ Homepage
Cymru'r Byd

»

Urdd 2006

O'r Maes
Lluniau

Cefndir

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
O'r Maes
Lauren Medal Dysgwyr i ferch Tryweryn
Ceryddwyd ysgolion Cymru am beidio ag annog plant i gystadlu am fedal dysgwyr Eisteddfod yr Urdd.

Wrth draddodi beirniadaeth cystadleuaeth y fedal a enillwyd gan Lauren Matthews o Gil-y-Coed, Sir Fynwy, dywedodd Geraint Glyn Jones, yn ei bod yn siom iddo ef a'i gyd feirniad, Non ap Emlyn, mai dim ond "chwech yn unig" a ymgeisiodd o 227 o ysgolion yng Nghymru.

"Y mae'n hynod siomedig fod 224 o ysgolion heb ddangos diddordeb," meddai, er y byddai'r gystadleuaeth wedi bod yn baratoad gwych ar gyfer arholiadau.

Galwodd ar yr Urdd i ddefnyddio dysgwyr llwyddiannus y gystadleuaeth i'w hyrwyddo gyda'r alwad, "Gymry, deffrwch bendith tad ichi."

Ymhlith yr ymgeiswyr dywedodd fod dwy ifanc iawn a oedd yn efeilliaid hefyd a'i anogaeth iddynt hwy oedd iddynt gystadlu eto y flwyddyn nesaf gymaint eu haddewid.

Canmolwyd yr ymgeiswyr i gyda gan y beirniad ond am waith Lauren sy'n astudio Cymraeg, Athroniaeth a Daearyddiaeth yn ysgol Cil-y-Coed - Caldicot - dywedodd: "Mae yma flagur o lenor ar waith . . .un sydd yn ei gwaith llafar a'i gwaith llenyddol wedi ein plesio."

Lauren Yn ystod cyfweliad "meistrolgar" ar gyfer y gystadleuaeth dywedodd i Lauren drafod gwaith yr athronydd Kant - rhywbeth y byddai rhywun a'i iaith gyntaf yn Gymraeg wedi ei gael yn anodd.

Anfonodd Lauren draethawd, stori a llythyr i'r gystadleuaeth y cyfan yn ymwneud â Thryweryn a boddi cwm Celyn.

Dywedodd Lauren mai erthygl a ddarllenodd am y pwnc yn y Western mail a'i sbardunodd.

"Darllenais yr erthygl a meddwl gfod y digwyddiad yn rhywbeth pwysig yn hanes Cymru," meddai.

Wedi cwblhau ei arholiadau lefel A eleni gobaith Lauren yw mynd i'r brifysgol yn Llanbedr-pont-Steffan i astudio Cymraeg.

Mewn ardal fwy Cymreig na'i chartref dywedodd ei bod yn gobeithio am fwy o gyfle i ymarfer ei Chymraeg hefyd. Hi yw'r unig un o'i theulu sy'n medru siarad yr iaith a bu'n ei dysgu yn yr ysgol ers yn chwech oed.

Yn gydradd drydydd yn y gystadleuaeth yr oedd dwy o ffrindiau ysgol Lauren, Aimee Jones a Kirsty Hardin a theithiodd pawb gyda'i gilydd i'r Eisteddfod gyda mam Lauren a'u hathrawes Gymraeg, Miss Davies.




About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý