|
|
|
Ymgyrchu yn erbyn tlodi Aelodau o'r Urdd yn ymweld â Romania |
|
|
|
Bydd aelodau o'r Urdd yn ymweld â Romania ddwywaith eleni i weithio gyda phlant mewn pentref tlawd.
Bydd aelodau eraill yn ymweld â Gwlad Pwyl hefyd, fis Awst, i weithio mewn cartref i bobl ifainc.
Cyhoeddwyd manylion am y teithiau gan Llinos Roberts, Swyddog Cyd-ddyn a Christ yr Urdd, ddydd Mercher - diwrnod tynnu sylw at
Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd yn yr Eisteddfod.
Mae'r neges eleni, a luniwyd gan Fforwm Ieuenctid Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug, yn deillio o'r ymgyrch Rhoi Terfyn ar Dlodi ac yn canmol y gwaith da sydd yn cael ei wneud mewn achosion o dlodi gan herio pobl i wneud gwahaniaeth gyda'u gilydd drwy ymgyrchu ac ymuno a'r ymgyrch newydd, Dal i Guro.
"Mae'r neges hefyd yn ein harwain o ymgyrch Rhown Derfyn ar Dlodi i ymgyrch Dal i Guro a'r her i barhau i ymgyrchu a gwneud sŵn a chamu gyda'n gilydd tuag at fyd mwy teg a chyfiawn," meddai Llinos.
"Mae Fforwm Ieuenctid Ysgol Maes Garmon wedi dangos aeddfedrwydd a chyfrifoldeb wrth lunio neges 2006," meddai.
Yr wythnos cyn yr Eisteddfod bu disgyblion o Faes Garmon yn cyflwyno'r neges mewn perfformiad arbennig yn y Senedd yng Nghaerdydd.
Dywedodd fod y daith i Romania yn creu cysylltiadau rhwng yr Urdd a'r Romanian Foundation for Children and Families.
"Hawliau plant yw sylfaen gwaith y Romanian Foundation for Children and Families ac mae'r gwaith pellgyrhaeddol hwn yng nghefn gwlad Romania yn waith blaenllaw iawn. Bydd y criw yn dysgu am eu gwaith ac yn cael cyfle i ymweld â phentref Popesti sy'n lle tlawd iawn gyda diweithdra uchel yn dilyn cau mwynfeydd copr yno," meddai.
"Bwriad y daith yw rhannu diwylliant, dysgu am ei gilydd a chael hwyl drwy ddawnsio, canu, celf a chrefft, chwaraeon a gemau."
Yn ystod yr ymweliad gobeithir trefnu perfformiad cyhoeddus a fydd yn gymysgedd o ddiwylliant lleol a Chymreig.
|
|
|
|
|
|