Cerddi Rownd 1 2025
1 Pennill bachog: Dyn Cyfoethoca’r Byd
Glannau Teifi
Mae ganddo lot o arian,/a lot o gwmnïe,
Rocedi, ceir trydan .../ a rhyw fath o ffrindie.
Mae sôn ar ‘X’/ fod e’n werth triliwn neu ddwy;
Mae ei ffortiwn e’n anferth/ – ond mae’i geg e’n fwy.
Nerys Llewelyn Davies yn darllen gwaith Terwyn Tomos 8.5
Beirdd Myrddin
Er iddo’i holl driliynau
a’i res o balasau heirdd
'sdim lle i’w drydargerdd bellach
ar raglen Talwrn y Beirdd.
Eleri Powell 8
2 Cwpled caeth yn cynnwys enw unrhyw derm yn ymwneud â mecaneg car
Glannau Teifi
Elon nhw’n llon tua’r lli.
Yn betrus mewn car batri.
Geraint Volk yn darllen gwaith Elfed Evans 8
Beirdd Myrddin
Ein harbed wna gwynt airbag;
a ddaw gwyrth gan wleidydd gwag?
John Gwilym Jones 8.5
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Er gwaethaf yr holl ragolygon
Glannau Teifi
‘Er gwaethaf yr holl ragolygon,’
Medd Donald, ‘gen i mae’r atebion-
Fe lanwaf pob til
‘da’m Drill, Baby, Drill,
A phasiaf y bil mlaen i’m hwyrion’.
Mary Jones yn darllen gwaith Nia Llewelyn 8.5
Beirdd Myrddin
Er gwaethaf yr holl ragolygon
daw’r twrw a’r gwynt heibio’n gyson,
ceir rhybudd trwy lwc,
lliw porffor, s诺n clwc,
cyn chwythu ei blwc draw yn Clacton.
John Gwilym Jones 8.5
4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Tacluso
Glannau Teifi
Un, ddoe, a fu mor ddiwyd
yn hel teganau ynghyd,
hel jogyrs, trainyrs a’r trôns,
ôl crio ac ôl creons,
a’u hwpio i gyd i gwpwrdd,
hwylio’r bwyd a chlirio’r bwrdd.
Ar wib, ymysg y rwbel
a’r distriw, heddiw mae’n hel
drwy’r celfi, llestri a’r llwch
am arlliw, yn y mwrllwch,
o fywyd, o’r byd lle bu
am einioes yn cymhennu.
Nia Llewelyn 9.5
Beirdd Myrddin
Ar y ward mae’i byd mewn rhes,
encil i’w chrib a’i hances;
rhoi’i chwbl mewn trefn cefn y co’
wna’n selog wrth noswylio.
Mae’n ail-osod y blodau,
rhoi’i chred yn y freichled frau,
ac eto heno’n gynnar
yn dodi’r watsh nôl i’r drâr.
葌 sigl bys rhwng bocsys bach
hen gwdyn gaiff dan gadach,
ac estyn munudyn wna
â cholur ei baich ola’.
Geraint Roberts 9.5
5 Triban yn cynnwys y llinell ‘Mae pwysau’r gwaed yn codi’
Glannau Teifi
“Ble roddaist y tabledi?
Nid rheina’r dwlyn benci,
Rhai crwn a gwyn mewn blwch bach aur…..”
…..Mae pwysau’r gwaed yn codi.
Elfed Evans 8.5
Beirdd Myrddin
Rôl potel win a chyri
mae pwysau’r gwaed yn codi,
ond ers im gyrraedd hanner cant
mae byw fel sant yn ffwlbri.
Lowri Lloyd 8
6 Cân ysgafn: Y ‘Tractor Run’
Glannau Teifi
Mewn ysgol farddol enwog adnoddau oedd yn brin
Er ennill ar sawl Talwrn a siglo llawer tun.
Ac felly bu cyfarfod dros baned a sawl byn
A gwnaethpwyd penderfyniad i gynnal Tractor Run.
I’r beirdd a’r gwybodusion ‘roedd hyn yn wir yn gwest
Ond yna daeth achubiaeth - roedd contacts ‘da Parc Nest,
A ffwrdd â nhw i ddewis eu tractor yn eu tro,
Pob llenor, bardd ac athro yn ysu am gael tro.
I’r blaen roedd yr Archdderwydd, mewn John Deere newydd sbon
I’r gwt roedd Tudur Dylan mewn ‘Ffyrgi’ gyda John.
Roedd Geraint mewn McCormick ac Al ‘Fford Jiwbili’
A Lowri ac Eleri mewn bobo JCB.
Achoswyd lot o road rage a llawer traffic jam
Wrth deithio’r lonydd prysur rhwng Trap a’r Abadam
Ond refio yn eu helfen wnâi’r beirdd â’i s诺n a’i mwg
Gan chwythu’u cyrn yn bwysig a gwneud amneidiau drwg.
Rôl gorffen, yn y dafarn, ynghyd dros beint neu dri
Fe ddaethant i’r canlyniad ‘Wel dyma’r leiff i ni’
( Roedd hon yn ‘leit bylb moment’- waeth dyna ydyw’r term)
‘Naw wfft i gyfansoddi, yn lle ’ny prynwn fferm’.
Nia Llewelyn 8.5
Beirdd Myrddin
Mae rhai yn casglu stampie i’w rhoi mewn albwm swanc,
gan gadw’r rhai ail ddosbarth mewn sêffbocs yn y banc.
Mae rhai yn sbotio trene a phennaf gamp ar hyn
yw sbotio trên sy’n stopio yng ngorsaf Hendy-gwyn.
Mae rhai’n hel dillad isa’ fu am Diana Dors
ac eraill gynganedda – ma’ rheini yn rîl bôrs.
Ond ma ‘na odiach gwmni na’r rheini yn y wlad
sef rhai ac iddynt dractor yn destun eu mwynhad.
Fe ddônt o gylch Bryngwenith, o Synod ac o Blwmp,
glafoerant dros y gasget a mwythant ffurf y swmp.
Mae gyrru’r ecsjefforti neu’r ffortije-effecs
yn ôl yr hyn wi’n ddeall yn brofiad gwell na secs.
Y tractor run amdani os rwber yw eich thing,
cael Ffyrgi rhwng eich coese sy’n brofiad digon pring.
Ond mae ‘na bleser mwyach na hynny nôl pob sôn
- y pleser anghyffredin o flocio’r blincin lôn.
Daw miloedd mas i’w gwylio gan godi llaw yn syn
a meddwl gwnant i’w hunen, pwy ddiawl yw’r idiots hyn.
Ond cellwair wyf wrth reswm a gwamal yw fy nghân
o weld bod yma ffarmwr ger pob allanfa dân.
Eleri Powell yn darllen gwaith Aled Evans 9
7 Ateb llinell ar y pryd – Treth am dreth sy’n fusnes drud
Glannau Teifi
I unben mewn byd enbyd
Treth am dreth sy’n fusnes drud
Geraint Volk 0.5
Beirdd Myrddin
Gwelaf dros ffin ein golud
Treth am dreth sy’n fusnes drud
Geraint Roberts 0.5
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Chwefror
Glannau Teifi
2021
Braf fu’r diwrnod Gaeaf hwnnw ar draeth ac Ynys Llanddwyn;
yr haul yn filiynau sêr annisgwyl yn y môr o’n cwmpas,
gwylan yn troelli’n ddryslyd yn y tes,
a chestyll tywod yn blaguro’n gynnar ar y glannau.
Oedi sbel dros bicnic a hufen ia,
a rhedeg rasys-chwys-domen gyda’r tonnau,
gan osod ein holion troednoeth fel llwybrau haf
ar hyd y traeth.
Ar yr ynys, cawsom gysgod gan groesau Dwynwen,
a gorffwys ar ei thwyni cynnes.
Ond –
nid oedd dail ar lwyni, na blodau chwaith,
dim ond ambell Genhinen Bedr a Lili Wen Fach
ar gyrion llwybrau.
A gwyddem bod y twyllwr ar waith,
nad yw cynhesrwydd Gaeaf
yn dwyn yr Haf yn nes,
bod llwybrau llawer hwy na hyn i’w cerdded.
Terwyn Tomos 9.5
Beirdd Myrddin
Chwefror 29ain
Mae’r ffrogiau, un ar ôl y llall,
yn glymblaid llipa ar wely,
a’r sgidiau’n sgrym o sodlau
aflafar yn chwilio cymar.
Oriawr fflat, hen frws
llawn blewiach cnotiog, da i ddim,
a thusw blin o hancesi hallt.
Dyma hi’n ailfyw noson
ei ddweud ‘Na’, fel y gwna,
pan ddaw’r diwrnod digroeso
yn ei ôl, o dro i dro,
a’r geiryn unsill fu’n ellyll oes
yn ei ’nafu o’r newydd.
Ac wedi’u tywallt,
wele hi’n cywain y cyfan eto
gan deimlo llawenydd
eu llanast yn llithro
trwy’i bysedd gwag.
Lowri Lloyd 9.5
9 Englyn: T欧 Gwyn
Glannau Teifi
Llawn hyder ydyw’r Deryn; - yn ei ddweud,
A’i ddwyn, mae'n ddihiryn;
Yntau sydd eto'n blentyn -
To gwellt sydd ar y T欧 Gwyn.
Elfed Evans 9
Beirdd Myrddin
lle lluniwyd cyfreithiau Hywel Dda yn 940
Ein hiaith, ein cyfraith a’n co’ – a meini
cymwynas oedd drwyddo,
hen waliau trefn fu’n malio,
chwarae teg dan lechi’r to.
Geraint Roberts 9.5