Main content

Talwrn Ysgolion G诺yl Gerallt

1 Pennill Bachog: Cyhoeddiad Annisgwyl

Ysgol Godre’r Berwyn

Rhwydwaith menywod sy'n ffromi
dim crepes, paela na chyri
dim canu cerdd dant,
neb dros hanner cant
i geisio'm y gadair eleni.
Yn hytrach na 'mess' o soprano -
hip hop ar y llwyfan a rapio,
rhoi pawb sy rhy hen
dan glo'n babell lên.
Bydd hon yn steddfod i'w chofio.

Erin 8

Ysgol Dyffryn Conwy

Y frenhiniaeth ddaeth bellach i ben,
Dim rhagor o wario, Amen;
Carlo, Camila
Yn Post, Abergela
A Will ar ffarm ffa’n Afon-wen.

Erin Medi 8


2 Cwpled caeth yn cynnwys enw unrhyw derm gwyddonol

Ysgol Godre’r Berwyn

Mae gan ardal y Bala
DNA da iawn, iawn, WA!

Nel 9

Ysgol Dyffryn Conwy

Y glaw asid sy’n stido:
Hyn yw’r braw yn naear bro.

Erin Grace 9

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Pan oeddwn i ffwrdd ar fy ngwyliau’

Ysgol Godre’r Berwyn
Pan oeddwn i ffwrdd ar fy ngwyliau
fe losgais o mhen i fy sodlau
'di hyn ddim yn ffyn,
a rwan dwi'm yn
dallt pam wnês i ddewis y Blaenau.

Lleucu 8.5

Ysgol Dyffryn Conwy
Pan oeddwn i ffwrdd ar fy ngwyliau
Newidiodd fy mochau eu lliwiau
Nid gan liw’r heulwen
Na rhedeg di-angen
Ond fod coctels mor isel eu prisiau

Erin Medi 8.5

4. Pennill ymson (rhwng 4 ac 8 llinell) un o staff y gegin

Ysgol Godre’r Berwyn

Darnau o bys ar hyd y llawr
Mae'r plant ma'n mynnu gwthio
Neb yn dweud plis, na diolch yn fawr
A'r dyddiau'n hir yn mynd heibio
Chwynnu llwyau o’r bin bwyd
Rargian! Dwi ‘di blino!
Mae'r chips yn galed ac yn llwyd,
O Dduw, plis ga'i riteirio!

Nel 8.5

Ysgol Dyffryn Conwy
Wrth ffonio'r siop, nid cinio
I gadw'r plant yn iach
Yw fy mlaenoriaeth eto
Gan roi rhyw ordor bach
Am nionyn a bresychen
Er mwyn ein bwydlen ni –
Y llanc sy'n danfon llysiau
Sydd ar fy meddwl i.

Nel 9


5 Triban beddargraff bwli

Ysgol Godre’r Berwyn
Er bod dy eiriau'n brifo
A'th luniau'n dal i snapio,
Yn fuan byddi'n silent môd
a'th gôd wedi 'i anghofio.

Erin 8.5

Ysgol Dyffryn Conwy
Mi boeraist eiriau arnaf
A rhaffu clecs amdanaf
Ond mae’r llaw oedd ar fy ngwar
Mewn daear oddi tanaf.

Nanw 8.5

6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod dros funud a hanner o berfformiad) : Rheolau

Ysgol Godre’r Berwyn

Yn t欧 ni, mae Mam wedi banio
dim ffôn na x-box ar ôl cinio,
dwi reit falch o fynd i'r ysgol
dim rheolau rhy ddifrifol...
Wel, wedi meddwl ac ystyried
mae na reol sut i gerdded
ar y chwith ar hyd y cyntedd
chei di'm rhedeg - mae 'sho mynedd.
Dim ysmygu na chwaith fêpio
Dim têc awe, dim fandaleiddio
Dim swingio ar gadeiriau simsan-
yn ôl Miss Jôns, mi farwodd hogan...
Chaf fi chwaith ddim bwyta rwbiwrs,
sugno beiros, recio miniwrs.
Hyd yn oed, cha' 'im sgwennu f'enw
ar y wal, na bod yn feddw,
torri gwynt yn y gwasanaeth
sgeifio P.E. heb dystiolaeth.
Ond go iawn dwi ddim yn malio...
Achos fi ydy'r prifathro.

Nel 9

Ysgol Dyffryn Conwy

Mae hyn i'w glywed yn gyffredin:
"Byt dy frocoli neu dim pwdin!"
Sut yn y byd mai gwell na siocled
Yw blewiach gwyrdd ar goesyn caled?

Wrth greu bocs bwyd, mae rhyw syniadau
Od am lenwad y brechdanau:
Maen nhw'n hwrjo caws a ham!
Pam na chaf i marmeit a jam?

Na, ni chei di bryd ar hambwrdd;
Rhaid rhoi dy ffôn o’r ffordd mewn cwpwrdd;
Dim Maccies ar ôl gêm yfory
Ocê ‘’ta a’ i am y gwely .

"Paid pigo'r ceirios o'r bara brith!"
"Dal dy fforcen yn dy law chwith
Ond nid i ddal llwy i droi dy de!"
Gai fod yn fi fy hun, Ocê?

Rownd y bwrdd, mae hen gyfreithiau
Ddaeth i lawr drwy'r cenedlaethau,
Ylwch, mae hi'n oes y leim a'r cyri
Ac mae angen newid, sori!

Nel 8.5

7 Gorffen limrig ar y pryd (h.y. creu llinell glo yn unig)

Ysgol Godre’r Berwyn

Pe bawn i yn olffiwr reit handi
A’m hannel yn gywir eleni,
Ar frys, doed a ddêl,
Fe hitiwn y bêl
I’r awyr, watch out! Ceri! Ceri!

Nel 0.5

Ysgol Dyffryn Conwy

Pe bawn i yn olffiwr reit handi
A’m hannel yn gywir eleni,
Ar frys, doed a ddêl,
Fe hitiwn y bêl
I daflu y meic o law Ceri

Erin Grace 0.5

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Drws

Ysgol Godre’r Berwyn

Agor, Clepian, Cau.
Yr un hen ddelweddau,
Ar waliau mud y coridor,
Yn gwgu wrth glywed
Drws arall yn cloi, am y tro.
Pob drws yn gymesur,
A’u gwydrau yn llygaid holl wybodus,
Yn adlewyrchu pob fersiwn
Ohonof fy hun –
Sgerbydau fy ngorffennol.

Lleucu 9

Ysgol Dyffryn Conwy

Agored i’r holl bentref,
Aelwyd yn rhan o’r stryd,
Pan oedd yma blant yn chwarae
Drwy’r flwyddyn ar ei hyd;
Y mynd a’r dod yn dweud ar goedd
Mai perthyn wnâi, mai cartref oedd.

Bollt newydd arno heddiw,
Cist goriad, rhif dan glo,
Y gwydr ynddo’n dywyll
Dan enw nad yw o’r fro;
Bydd rhai’n ymweld bob hyn a hyn
Gan gadw hwn ar gau yn dynn.

Nanw 9.5

9 Englyn: Amserlen

Ysgol Godre’r Berwyn

Emyr 'rôl dwbwl Cemeg - ac wedyn
Gwydion jest cyn Saesneg,
Elis rhwng Maths a Ffiseg:
Awr rydd, Wil am un-ar-ddeg!

Gruffudd Antur 9.5

Ysgol Dyffryn Conwy

Hyn eisoes lyncodd wythnosau; – aeth sbel
I hel y meddyliau;
Aeth drennydd yn ddydd neu ddau –
Yna’i wneud mewn munudau.

Myrddin ap Dafydd 9.5