Main content

Cerddi Rownd 1 2025

1. Pennill bachog: Proffwydoliaeth ar gyfer 2025

Y Glêr (HG)

Ionawr: eira. Chwefror: glaw.
Gwanwyn gwyntog ar y naw.
Mai yn weddol hyd nes bod
Mis Mehefin yntau’n dod.
Stormydd wedyn a llosg haul
Tan fis Tachwedd am yn ail.
Rhagfyr yn ddim byd ond iâ.
Felly … blwyddyn newydd dda!

Hywel Griffiths 8

Y Diwc (JL)

Fe gofiwn am helynt yn Steddfod yr haf
a’r ddrama a fu ar lannau Taf.
Eleni mae’n si诺r cawn ragor o st诺r
A ninnau am fentro i gwmwd Glynd诺r.

John Lloyd 8

2. Cwpled caeth i’w osod ar gerdyn Santes Dwynwen

Y Glêr (HG)

Aros wna persawr rhosyn
O dan eira’r gaea’ gwyn.

Hywel Griffiths 8.5

Y Diwc (JL)

Yma wyf, yn ddiddim heb
y wên sydd ar dy wyneb.

John Lloyd 8.5

3. Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae rhaid dangos parch at oedolion’

Y Glêr (ES)

‘Mae rhaid dangos parch at oedolion,’
Pregethais, ‘ond i dy gyfoedion,
Cei wneud fel ti moyn;
Os bydd un yn boen,
Rho glatsh nes bo’i drwyn e fel afon.’

Eurig Salisbury 8.5

Y Diwc (GW)

Oes raid dangos parch at oedolion?
“Na, paid, dos i’r gwely ar d’union.”
Ond Sion Corn ryw nos
Ddaw draw dros y rhos!
Mae’n rhaid dangos parch at oedolion.

Gwilym Williams 8

4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Hwyluso

Y Glêr (ES)

Dim ond banter dros gyri.
Tynnu’n draws dros beint neu dri.
Gollwng stêm. Gêm, dyna i gyd.
Herian. Hefru anhyfryd
Ciwed yn yfed. Nefoedd!
Dim ond rhyw lol.

Hiliol? Oedd,
Ond di-niw.

Pwy, dwed, o’n i,
O bawb, i chware’r babi,
A lladd yr hwyl a’i sbwylio?
A wnes i ond chwerthin, so …
Dim ond banter. Dim serious.
Wir, eff all. Am be ma’r fuss?

Eurig Salisbury 10

Y Diwc (DRh)

(Marw)

Ai byw yntau peidio bod?
Ai erfyn am gael darfod
Neu ddal nôl yn ffôl, mewn ffydd
Y daw ateb diwetydd.

Llais o bell - “Does dim gwella ...”
Ysu, dyheu, i ddweud nos da
Ac er dianc i’r düwch
Yn dal llaw ... bydd cryd y llwch.

Daliwn ni ein dwylo’n wyn
Ar orchudd gwelw’r erchwyn,
Gan harthio am gynhorthwy
I’n poen. Er hwyluso pwy?

Dewi Rhisiart 9.5

5. Triban yn cynnwys y llinell ‘Pe byddai’r dewis gen-i’

Y Glêr (ES)

Pe byddai’r dewis gen-i,
Gadawn fy ngwlad fach sogi
Am Roeg bob dydd o dan y rhod
’Blaw’r ’Steddfod a’r Cyhoeddi.

Eurig Salisbury 8

Y Diwc (DRh)

Pe byddai’r dewis gen i,
Arlunio neu farddoni,
I roi i ‘nghariad y dydd hwn
Fe beintiwn englyn iddi.

Dewi Rhisiart 8.5

6. Cân ysgafn: Diffyg Hyder

Y Glêr (ORhJ)

Amgaeaf fy nghais am y swydd, edrychaf ymlaen am sgwrs
i drafod yn fanylach fy addasrwydd – llwyr, wrth gwrs.

Darllenais y swydd ddisgrifiad ac, yn wir, mae’n deg dweud
na feddaf bob un o’r sgiliau, ond does dim na fentra’ i wneud.

Dwi ddim yn dda am eistedd na chynnal syrjerî,
na mynd â chnocio drysau, nes bod yn rhaid i mi.

Dwi ddim yn un am wrando, nac arwain, o’r blaen nac o’r cefn.
Dwi ddim am newid llawer na chwaith am gynnal y drefn.

Mae polisïau’n boring, mae deddfwriaeth jyst rhy drwm.
Dwi’n bleidiol i’r bidiwr uchaf, ’waeth beth yw gwerth y swm.

Who cares am potholes, gwaith ffordd a traffig côns?
Neu ddeilo hefo’r wasg, heb sôn am Dylan Jones?

Nid wyf am gynrychioli nac aberthu bywyd braf.
Gwell gwagio’r pwrs cyhoeddus; cael gwyliau hir bob haf.

Hepgorwch bwyntiau pwysig o’r swydd ddisgrifiad hir,
A dyma gyfro’r rheini, er mwyn rhoi’r darlun clir.

Mae gen i gysylltiadau – trwy ’nhad, sydd yn y clwb –
a hyder anghymharus, fydd dim angen arna’ i hwb.

Penodwch fi. Neb arall. Gwnewch y peth iawn i chi.
Gwnewch fi’r ymgeisydd nesaf i swydd eich un MP.

Hywel Griffiths yn darllen gwaith Osian Rhys Jones 8.5

Y Diwc (MH)

Cyn teithio i’r gynhadledd
fe alwes i yn y Mans.
‘Bydd yn naturiol,’ meddai,
‘a chofia newid dy bants.’

Pan gyrhaeddes i’r llwyfan
diflannodd y sbort a’r sbri.
Ro’dd tri chant yn y neuadd,
pawb yn rhythu arna i.

Y meicroffôn newidiodd,
ro’dd s诺n fel cnocell y co’d.
‘Y mhen-glin i o’dd yn rhwyfus,
y profiad gwaetha erio’d.

‘Rôl traethu fy holl eirie
fe deimlwn braidd yn brudd.
Yr areth am garthffosieth –
Wel, ro’dd bron fel dolur rhydd.

Fe ffones i’r cadeirydd
(wy’n parchu ei hadborth hi).
Fydden i’n ca’l mynd eto?
Meddai: ‘Ti ddim iws i ni.’

Martin Huws 8

7. Ateb llinell ar y pryd – Un Ionawr sych ordrais i

Y Glêr

Hanner o stowt i Ceri
Un Ionawr sych ordrais i

Hywel Griffiths

Y Diwc

Un Ionawr sych ordrais i
Yffach o beint o goffi

Dewi Rhisiart 0.5

8. Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Cymorth

Y Glêr (MEL)

Daeth y storm fel dydd o haf
rywdro ddechrau Rhagfyr;
daeth â’i thwrw, do,
ond daeth ag egni hefyd
mewn batris bach triple A
a gladdwyd dan sinc drws rhif tri;
daeth mewn sgwrs sil ffenest wedyn
wrth i ni grafu sgraps 4G i’n pocedi.

Daeth yng ngwynt y barbeciw o dop y stryd
ac yn stêm y baned glaear o stof y Sgowt;
daeth yn s诺n y rhannu straeon
ac mewn gêm wirion o dipit

tan i’r golau lifo’n ôl
un dydd o haf
rywdro ddechrau Rhagfyr.

Megan Elenid Lewis 9.5

Y Diwc (MH).

Dwy weddi Wyddelig sy’n ysbrydoli hon, yr un gynta yw ‘Bydded i Dduw eich dala yn Ei law … heb gau Ei ddwrn yn rhy dynn.’ A’r ail yw ‘Bydded i’ch gofidiau fod yn brin ac ymhell o’i gilydd fel dannedd eich mam-gu’

Pan fo’r llais yn dy ben
yn farnwr ceryddgar,
tro ei wig fel ei fod
yn nyth anniben.

Yn y gwaith,
pan fo deunydd y meddwl yn rhaflo,
amheuon yn inc papur sugno,
agor y ffenest
a gwasgaru’r dogfenne deddfol.

Pan fo’r awyr yn drwch o gymylau,
fe dry’r ddaear ychydig
a thasga pelydryn
yn llygedyn o obaith.

Fe ddaw yn y man,
si ym mrig y morwydd
cyn ymchwydd cytgan,
awel o rywle, yn ras, yn bersawr lelog.

Martin Huws 9

9 Englyn: unrhyw chwaraewr neu chwaraewraig snwcer

Y Glêr

Os pylodd ias y peli – ar y bwrdd
A’r ‘baize’ yn oer, Ronnie,
Mi glywaf gyffro’r torri
Yn dy one-four-seven di.

Hywel Griffiths 9.5

Y Diwc (DRh)

Alex Higgins

Ein harwr oedd ‘Y Corwynt’ - a’i arddwrn
Wrth hyrddio’n creu trowynt,
A’r Gwyddel oedd yr helynt
Gyda’i giw’n hergwd y gwynt.

Dewi Rhisiart 9.5