Main content

Cerddi Rownd 1 2025

1 Pennill bachog: Gwirio Ffeithiau

Beca
Holwch yn America
Ydi trump yn garden dda?
Ife enwau ar ddwy storm
Ydy Brexit a Reform?
A oes pwrpas cael A.I.
Os yw’r tarw yn y cae?

Eifion Daniels 9

Tafarn y Vale

Wrth syllu draw at Aberdyfi, teimlodd Trympyn braidd yn sili,
Yn trampio’n lletwith gerllaw’r d诺r, fe gododd natur wyllt y g诺r,
Pan sylweddolodd nad oedd yntau wedi boddran gwirio ffeithiau,
A’i fod ef, wladychwr pybyr, yn hawlio’r Ynys Las anghywir!

Dwynwen Llywelyn 8.5

2 Cwpled caeth yn cynnwys enw unrhyw derm yn ymwneud â chyllid

Beca
Am hir bu’n glir bod cefn gwlad
Yn suddo heb fuddsoddiad.

Rachel James 8

Tafarn y Vale
Y Banc Bwyd
Mae un banc yn mynnu bod
a hwnnw yw’r peth hynod.

Ianto Jones 8

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Un bore wrth ffonio’r feddygfa'

Beca
Un bore, wrth ffonio’r feddygfa
Ac aros deg munud, o leia,
Medde fi, “Sai’n mo’yn cyngor,
Dwy isie gweld doctor,
A heddi, dim wthnos ‘rôl nesa”

Eifion Daniels 8.5

Tafarn y Vale

Yn wir, ges i'r cyngor rhyfedda
Un bore wrth ffonio’r feddygfa; “Chi’n dioddef o’r ffliw?
Safwch adre myn Duw -
A dewch mewn ar ôl i chi wella!”

Iwan Thomas 9

4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Chwilio

Beca

Yn sydyn daeth deryn du
O’i goeden i lygadu,
Yno ‘mysg y gwrysg a’r gwraidd,
Ei nef o faeth gaeafaidd;
Â’i archwaeth ysglyfaethus
Bu’n twrio o’i fro ar frys
Un carped o bryfed brau
Yn gwingo ym mhig angau.
Ym mhen sbel ffy’r bigfelen
Â’i sain glir yn hollti’r nen.

Daeth robin i gribino
Am ei bryd o hirlwm bro.

Rachel James 9

Tafarn y Vale
Ysgariad

Oriel heb liw Aneurin,
a phrinhau y gwydrau gwin.
Hynny oedd yr arwyddion
i ni bawb, ac yn y bôn
fe wydden fod dolen dau
yn wan. Torrwyd calonnau.

Wedi’r dial a’r dal dig,
di-helynt yw’r Nadolig
erbyn hyn. Ond gofynnwn
o hyd, pam aeth o’r t欧 hwn
hen w欧r o baent Aneurin
a’r gorau o’r gwydrau gwin?

Ianto Jones 9

5 Triban yn cynnwys y llinell ‘Rwy wedi penderfynu’

Beca
Rwy wedi penderfynu
Rhoi’r gorau i farddoni,
A’r Meuryn, ddwedodd yntau’n syth
“Wel diolch byth am hynny”

Eifion Daniels 9

Tafarn y Vale
Rwy wedi penderfynu -
Rhaid gwario’r cwbl s’gen i,
Ar ferched, ac ar feddwi’n chwil;
Gwell fil nag ei wastraffu!

Iwan Thomas 8.5

6 Cân ysgafn: Fandaliaid

Beca

Neu, mewn ugain llinell mydryddol, yn gryno a chaffaeladwy, hanes cwymp yr Ymerodraeth Rufeinig Orllewinol yn ddiwylliannol ac yn filwrol, a gweithredoedd Cwicsotaidd y barabariaid a’i gwrthwynebai

Roedd Oik yn Fandal clodwiw crand, a’i fryd ar lenwi’i gist
Ac felly, yn y flwyddyn pedwar cant a deg ôl Crist,
Fe gasglodd lu barbaraidd; recriwtiodd Sacson (bach o stranc),
A Gothiaid lu mewn colur du, a Fandals, a dau Ffranc.

Ond gwae! Wrth ddrysau Rhufain fe’u hataliwyd hwy gan gladius
Y conswl unbeniaethol, Jwliws Tatws Ceri-Wynws!
Medd Oik yn reit grynedig: “Hybarch Gonswl! Hoffem sgwrs!”
‘Matebodd Ceri-Wynws, hunllef penceirdd: “Shwdi pwrs?
‘Wy wedi synnu braidd o weld Barbaried mewn fath siape -
We’ bolie llai da pawb ‘ny tim nôl pan wen i yn chware.”
“Rhaid cosbi ei sarhâd!” medd Oik. “Mae hyn yn casus belli!”,
A thröwyd pob Rhufeiniwr hy mewn i tagliatelle.

Y Fandals aeth amdani i ysbeilio’r ddinas wen,
A’r Ffrancs a ffeindiodd “chuffing loads” o “chuffing llwyau pren”.
Ond wrth lenwi eu pocedi â gwin coch a magnets rhad,
Y Sacson a ddaeth atynt gyda mintai anferth – brâd!
“O diar.” medd y Fandals, “Nid yw hyn yn dra amserol”.
Ond ar y bryn, mewn cwmwl gwyn, yr oedd - help llaw derwyddol!
Dathlodd y Fandaliaid, achos sneb yn ennill sgrap
Yn erbyn ein Mererid, Gruff Sol a Myrddin ap.

Rhiannon Iwerydd yn darllen gwaith Lefi Dafydd 9

Tafarn y Vale

Yn hofran yn llechwraidd, euogrwydd yn ei gam. “Sain bwbo’ pwy na’ff ‘neu e, dim fi, fi’n afo Mam!” cyhoedda mor ddiniwed, â sialc ar hyd ei swch, ac ar y carped, olion powdwr lliw sydd yno’n drwch.

Dwi’n byw ‘da fandal bychan, dim un, ond dau mor slei, (Ga’i alw ‘mhlant yn ‘fandals?’ R’ôl antics rhain, caf glei...) Siamp诺 ar hyd ffenestri – a’i rwbio mewn yn dda, a’r ffroth yng ngwallt bob tedi bêr – ‘sdim curo’r salon ‘ma!

A moel yw Sali Mali – ei bynen off yn ‘ bôn, a’r trawsnewidiad goth i’w steil sy’n plesio n’ôl y sôn! Mae Jac y Jwc yn hongian wrth ddarten uwch y tân, a Sam dan haen ffelt-tip lliw du – bedyddiwyd e’n Sam Brân!

Fe blastrodd Banksy bychan, y welydd gydag “W,” “ma Miss yn rhoi llythrennau, fi fod ymarfer nhw!” Fy llyfrau oll ar wasgar, ynysoedd ar y llawr. “Y floor is lava," bloeddiodd, tra’n hyrddio Bruce i lawr.

Yn briwo, rhacso, dwyno, â’u t诺ls - yn swagro’n hy. Crayola, siswrn yn eu belt, a sudocrem... am sbri. Ond gyda’u creadigrwydd, eu dawn, eu fflach a’u fflêr, Efallai byddan nhw, rhyw ddydd, yn peintio gyda’r sêr!

Enfys Hatcher Davies 9

7 Ateb llinell ar y pryd – Mi wn i fod storm yn hel

Beca

Mi wn i fod storm yn hel
Mae rhyw ofid am ryfel

Eifion Daniels 0.5

Tafarn y Vale

Pa rawd a ddaw o’r cawdel
Mi wn i fod storm yn hel

Iwan Thomas

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Rhew

Beca

Ddoe, roedd sgerbydau’r ardd yn crynu a sigo ym mhoer y glaw.
Ond heddiw, yn haul y bore mae mantell ddisgleirwen i’w swyno.
Safant yn golofnau urddasol, eu breichiau’n moli’r nen
A’u hwynebau ‘n goronau o berlau mân.
Cynigiwyd lloches dan glogyn hael y gaeaf yng ngolau’r lloer.

Ond brathodd yr oerni. Twyll bu’r estyn llaw.
Sgrechodd mwyalchen ei larwm cyn ffoi o’i chuddfan
Gan saethu nodwyddau gwydr glaer ar lawr.

Gwelais yng nghaledi’r pridd helmedau arian,
A’r dail yn dafodau o grisialau miniog
Yn denu ‘r clustiau parod.
Sleifiodd y fintai o’r nos i recriwtio
a thaenu eu celwydd iasoer.

Yn y meirioli,
treiddia eu malais i’r strydoedd llwm
i chwyddo’u rhengoedd
a chadw purdeb eu hîl.

Rhiannon Iwerydd 9

Tafarn y Vale

Dere mewn. Paned? Llenwi’r tegell. Cwpan glân.
Mae’n oer. Troi’r gwres yn uwch. Falle gynna i dân.
Paid edrych ar y cawdel, tu fas y ffenest gefn.
Angen amser. A chymhennu. Angen sgip, a threfn.
Mae wedi rhewi’n gorn. Gobeithio am y gore
na wnaiff d诺r peiriannau’r gegin, rewi yn y pibe’.
Rhain? O, ydyn – newydd. Diolch. Angen newid steil.
Rhaid cymhennu’r wardrob. Creu mwy o le ar y reil.
Mae’n dywyll. Cynnau gole. Cadw gwres mlan tan y bore.
Cau’r llenni. Yn dynn, dynn, dynn. Rhag goleuo’r cracie.

Dwynwen Llywelyn 9

9 Englyn: Gwersyll

Beca

I orsaf unffordd y gwersyll – daw’r hâd
I’r oed heb eu pebyll,
Cyn myned i’w tynged hyll
Yng ngharchar angau erchyll.

Eifion Daniels 8.5

Tafarn y Vale

Awn ni’n dau, gyda’n bagiau’n dynn, - â gwên
gynnes fel pob plentyn.
Ond i un, rhyddhad yw hyn,
ac eiliad rhag ei elyn.

Ianto Jones 9