Cerddi Rownd 1 2025
1 Pennill bachog: Cais Yswiriant
Twtil
Dwi ar Compare the Meuryn
yn chwilio am ddîl da
rhag ofn na chaf farddoni
os daliaf fi y pla.
Ond am mai braidd yn Simples
yw fy ngherddi sâl,
ar Compare the Meuryn
does na’m dîl i’w ga’l.
Iestyn Tyne 8
Penllyn
Fe sylwais i yn eich dogfennau
Eich bod chi, dan rai amgylchiadau
Yn rhoi newydd am hen,
Plîs byddwch yn glên,
Mae’r g诺r, er ei wên, heibio’i orau.
Beryl Griffiths 8
2 Cwpled caeth yn cynnwys unrhyw derm yn ymwneud â mynydda
Twtil
Yn ddi-grampon aeth Gronw
am lawr … a lawr … tw da lw …
Steffan Phillips 8.5
Penllyn
Bydd dydd pob mynyddwr da
Ar ben heb garibina.
Beryl Griffiths 8.5
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mi es i nos Wener i Baris’/Mi es i i Baris nos Wener’
Twtil
Mi es i i Baris nos Wener
o’r airport agosa’ ar fyrder,
dwi’n cyrraedd ar ras
heb nics na fy mras;
mae ’nghas i dal ym Manchester!
Tegwen Bruce-Deans 8
Penllyn
I mi mae’r amgylchedd yn bryder
Rwy’n gwneud newidiadau ar fyrder
Ond er plannu coed
A mesur ôl troed,
Mi es i i Baris nos Wener.
Aled Jones 8
4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Diogelu
Twtil
O wynfyd ei meithrinfa
a hynt a st诺r plantos da,
fy merch, un noson erchyll,
a hi’n dair oed, ddaw â dryll
yn rhodd ddi-ddallt o’i rhyddid;
rhodd hael piw-piw rhy ddi-hid.
Wedyn, taw sydd lond ein t欧
a rhaid, rhaid imi gredu
nad yw’r rhyfel a’r helynt
fwy na gêm fel f’un i gynt
yn y ffrind bychan ddeffrôdd
yr arf hwn a’m terfynodd.
Iestyn Tyne 9.5
Penllyn
(Enwau lleoedd)
Nid hen pob un; nid hynod
ychwaith. Ar bob cilfach od,
ddi-raen fe roddir enw;
coleddir, cofnodir nhw
bob un fel pe baent o bwys:
hen gae na chadd ei gynnwys
ar fap, a Duw a 诺yr faint
o gymoedd blêr heb gymaint
ag un ddafad, neu adyn
yn ogofâu'i gof ei hun,
y boi cyffredina'n bod
a'i enwau bychain hynod.
Gruffudd Antur 9
5 Triban yn cynnwys y llinell ‘Mae’n anodd iawn esbonio’
Twtil
Mae’n anodd iawn esbonio
i’r rhai sy’n mynnu brolio’n
eu wetsuits tynn am deimlo ing
wild swimming – nofio ydio!
Manon Awst 8.5
Penllyn
Mae’n anodd iawn esbonio
Wrth blentyn sydd yn wylo
Paham bod rhai yn lladd o hyd
A gwledydd byd yn gwylio.
Beryl Griffiths 8.5
6 Cân ysgafn: Croeso Nôl
Twtil
Dwi’n gwrcyn sydd yn crwydro bob diwrnod fel y bos,
yn stwffio ’nhîn drwy catfflaps y dre i gael y goss,
boed dywydd factor fifty, yn storm neu’n fore rhew,
mi fydda’i mas yn gynnar (ar ôl rhoi gel i’r blew).
Newyddion: y cynghorydd sy’n gweithio yn y banc
yw’r deliwr marijuana sy’n dwyn yr enw ‘cranc’,
a fe a’i bartner hefyd nath blygu ein si-so,
anfonaf yn ddi-enw gomplaint i’r papur bro.
Caf gynnig brynsh di-waelod os ydw i’n galw draw
i swyno Mrs Wilias â’m llais melfedaidd, ‘miaaaw’.
Mae gen i wejen hefyd – un fflwffi, clyfar-ish,
ond “ffrindiau gyda buddion” yr ydym yn ôl Trish.
Fy ngelyn pennaf innau oedd pwsi number three
nes iddi fwyta gwenwyn (oedd dim i’w wneud â fi).
Nawr fi sy’n llwyr reoli bob pafin a phob gardd
a’n creu penillion telyn am y profiad, ew, dwi’n fardd!
A geiriau Mr Blofeld, “F’anwylyd! Croeso nôl!
Dwi wedi bod yn disgwyl amdanat. Tyrd i ‘nghôl”
bob diwrnod yw’r uchafbwynt, a rhoddaf innau wên
gan wybod caf i wedyn lond powlen o siampên.
Steffan Phillips 8
Penllyn
Cysylltu wnaeth William a “Gwesty Aduniad”
gan obeithio cyfarfod ag ambell hen gariad.
Rhyw fywyd reit unig oedd Wil wedi’ brofi,
roedd mam Wil di gadael cyn i Wil gael ei eni.
Allai Nanw ddim dod a’i physgodyn ‘di trengi,
a chalon William oedd yn gwaedu drosti;
Aeth i brynu un arall, run fath i’r hen Nanw,
- a bellach mae ganddi hi ddau ‘sgodyn marw!
Failet (Violet) oedd y nesa i wrthod y cynnig,
er i William ei thrin yn ddigon caredig.....
Gwnaeth i ffwrdd a’i le chwech er mwyn helpu ei Failet,
byddai’r rhent iddi’n rhatach mewn t欧 heb ddim toilet. AR EI L糯!
Gwrthododd Rhiannedd, gan atal ei gwên;
er i William ei thrin yn serchus a chlên,
Cynigiodd Wil d’wyllu gwefusau Rhiannedd,
byddai hynny yn rhatach na gwynnu ei dannedd!
A gwrthod wnaeth Doris, merch i flaenor o’r de;
“Mae rh’eini” medd Wil “yn iawn yn eu lle”!
Roedd am ddyfrio ei llysiau, - drwy’r dydd; “As you do”,
ac am dreulio’i min nos yn carthu mewn s诺! GLÂN EI RIWBOB A’I JIRAFFIAID.
Ond ar hynny rhyw ddyn ddaeth i mewn i’r hotel,
roedd yn fawr ac yn flewog a wir ddim yn ddel.
Daeth yr hyn a ddywedodd a William i stop,
“Y fi yw dy fam, ‘dw i wedi cael op!”
Aled Jones 8.5
7 Ateb llinell ar y pryd – O’r tap ni ddaw d诺r i’r t欧
Twtil
O’r tap ni ddaw d诺r i’r t欧
Af allan i’r nant felly
Iestyn Tyne 0.5
Penllyn
Drylliaist y bibell felly
O’r tap ni ddaw d诺r i’r t欧
Gruffudd Antur 0.5
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Parch
Twtil
Mae hi’n taenu haenen dew o fenyn dros ddarn o dôst,
yn troi am y tegell cyn gwthio’r ddeuawd i’m cyfeiriad
a’r mwg oddi arnynt yn dal i frysio’n un ras tua’r to;
tonnau’n suddo i ddyfnderoedd y dorth
gan greu pwll o felyn tywyll oddi tano.
Y cyfan yn un ddawns esmwyth ganddi,
fel tylwythen deg ein stori dyddiol
wrth frwsio briwsion ei geiriau ei hun i’r gornel.
Wrth gwrs ei bod hi’n gweini arna i wrth ddweud.
Dyna mae Mam yn ei wneud. Wedi ei dysgu i wneud;
hi sy’n rhoi, yn rhannu, yn taenu
ac yn mynnu ail-greu fy haul o fenyn ddoe.
Wrth gasglu, mân-dwtio a gwirio, mae hi’n gwenu
gan fy atgoffa – ‘Mae dy goffi di’n oeri!’
Buddug Watcyn Roberts 9
Penllyn
(Chwilio'r Ddeiseb Heddwch efo Mam sy'n 91)
Trwy'r ffenestr gwyliaf fy 诺yr yn chwarae;
ninnau wrth fwrdd y gegin
yn sgrolio'r degawdau, rhidyllu plwyfi,
ond, does dim mewn difrif o bwys yma -
dim ond llofnodion llonydd.
Rhai'n gymen, barchus mewn inc, chwarae teg,
a hon wedyn a'i chrydcymalau, efallai yn stori ar bapur.
Daliaf i chwilio am sbel.
Mae gen i bethau eraill i'w gwneud, a'r haul yn gwenu.
Ac yna, wrth graffu'n nes, rwyt ti'n eu gweld eto -
nain a hen nain
ar riniog drws, yn taenu dillad,
bwydo lloi, cau ieir,
nôl d诺r, hwylio bwrdd,
canu hwiangerdd. Dwy law yn erfyn.
Dyna'r oll, am mai hyn ydy byw.
Ac yn yr ardd mae'r bychan yn gwrcwd
a'r awyrennau uwch ei ben yn dal i ruo.
Haf Llewelyn 10
9 Englyn: Cadoediad
Twtil
Ym mylchau’r papurau pa newyddion
sy’n cuddio? Atgoffa
di dy hun, am fod yna
daw’n y dweud – ac nid un da.
Tegwen Bruce – Deans 9
Penllyn
(ymson gwraig)
Mae’n ddiwedd nos. Mae drosodd, fel neithiwr...
Fel neithiwr, pan gododd
Yn yr un man, yr un modd,
Ei hen arfau o’i wirfodd.
Gruffudd Antur 9.5