Main content

Cerddi Rownd 1 2025

1 Pennill bachog: Cais am Iawndal

Dros yr Aber
Mae angen iawndal arnaf
am godi ’mhwysedd gwaed,
fy ngwneud yn ddiabetig
a rhoi gowt ar fodiau ’nhraed.
Ni allwn wir â gwrthod
y cynnig wnaethoch chi.
Pa rifo deg am ddime
ond un ar ddeg i mi?!

Iwan Rhys 9

Gwylliaid Cochion

Mr Iorwerth r'ym ar ddeall
i chi fod mewn damwain fawr,
drylliwyd eich hen dîm yn shitrwns
a rhoed eich cerddi i fopio'r llawr.
Fel eich hen Ganeri annwyl
nid oes gobaith gennych chi,
i gael iawndal am eich methiant
gan ein cwmni swiriant ni.

Ifan Bryn Du 8.5

2 Cwpled caeth yn cynnwys unrhyw derm yn ymwneud â ralio

Dros yr Aber
Rhaid derbyn, pan ar dyrbo,
taw ar wib y daw y tro.

Rhys Iorwerth 9.5

Gwylliaid Cochion
O’r bar daw geiriau Sbardun
a’i gitâr eto’n gytûn.

Gwion Aeron 9

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Pe bawn i â phrifardd yn briod’

Dros yr Aber
Pe bawn i â phrifardd yn briod,
un tebyg i fi, wel dwi’n gwybod
y byddwn yn laru
ar hwn a’i holl falu
ac wedi ysgaru mewn diwrnod.

Rhys Iorwerth 8

Gwylliaid Cochion

Pe bawn i â phrifardd yn briod
mi gadwn hi adref o’r steddfod,
bydd ciw y bar syched
ddim hanner cyn hired,
mae’r beirdd ma’n ddiawledig am ddiod.

Ifan Bryn Du yn darllen gwaith Aeron Pughe 8.5

4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Ailagor

Dros yr Aber (CE)
Mae adroddiadau o gasineb ar X wedi dyblu ers i Elon Musk brynu’r platfform

Rwy’n agor X, a’r hen gri
hiliol, wen, sydd o ’mlaen i.
Finnau’n driw i wefan drodd
yn uffern. Amser diffodd.
Dyma’r cawdel lle gwelir
wisgo gau ym masg y gwir,
y dweud gwâr yn “ddweud o’i go”
a geiriau’n arf i guro.
Ond bydd straeon yn cronni
yma mewn awr, mi wn i,
o floedd i floedd yn ffrwd flêr.
Ac eto, af i’w gwter

Marged Tudur yn darllen gwaith Carwyn Eckley 9

Gwylliaid Cochion

Yn ludiog â'i siocledi
mae ei dwrn am fy mawd i
yn dynn, mor dynn amdanaf.
Ei ffon wyf i Ffion Haf;
gan fynd at ei chegin fach
caf rannu sawl cyfrinach -
mae am agor pob droryn,
agor, cau, agor, cau, cyn
rhoi i Taid ei llestri te;
i hen 诺r ddysgu chware
o dasg i dasg mae dysgu,
a 'neud i Taid gadw t欧.

Tegwyn Pughe Jones 9.5

5 Triban yn cynnwys y llinell ‘O hyd mae rhai’n proffwydo’

Dros yr Aber
O hyd mae rhai’n proffwydo
mai’r Gwylliaid fydd yn curo.
Mae’n fil-i-un os rhowch chi fet
ar hyn yn Corbett heno.

Iwan Rhys 8.5

Gwylliaid Cochion
O hyd, mae rhai'n proffwydo
y daw 'na ddydd y Chwyldro,
ond erbyn dydd y Gymru Rydd
bydd Dydd y Farn 'di pasio.

Rhiain Bebb 8.5

6 Cân ysgafn: Pencampwriaeth

Dros yr Aber (IRh)

Roedd gwylio Littler ar y sgrin yn curo’r bencampwriaeth
i mi, fel llystad hoff o ddarts, yn glamp o ysbrydoliaeth.
Y fenga sydd yn un ar ddeg ac ychydig yn insên.
A’r hyna’n un ar bymtheg, ac felly’n lot rhy hen.
Fe es i am y fenga, gan haneru hyd yr oci.
“Sa’ di fanna,” medde fi. Atebodd, “Oci doci.”
Bydd gwneud y syms, meddyliais, yn ei hybu yn sgolastig
ac er iechyd a diogelwch, cafodd fwrdd a dartiau plastig.
Ond buan y diflasodd. “Dwi isho rhai go iawn!”
A dyna wnaed, heb ’styried y goblygiadau’n llawn.
I gael yr uchder cywir, rhoddais Macsen ar ben stôl,
ond er i’w fraich fynd syth ymlaen, y dartiau aeth am ’nôl!
Aeth un i’r gornel bellaf, gan hollti fy nghiw p诺l.
Aeth yr ail drwy glust yr hynaf. Mae’n edrych yn reit c诺l.
A’r trydydd fwriodd dwll drwy’r wal i mewn i’r t欧 drws nesa.
(O leia nawr caf wylio Sky heb orfod talu’r bilia.)
Ond pylu mae ei ddiddordeb ar ôl rhyw fis o ymarfer.
Mae’n amlwg bod ei feddwl ar hobi mwy ysgeler.
Achos neithiwr, ar ôl swper, dyma ei ddal e yn y gwely
o dan y dwfe, gyda thortsh, yn dysgu cynganeddu!

Iwan Rhys 9

Gwylliaid Cochion

Athletwr proffesiynol sy’n gwneud ei ore glas
i gadw’i hun yn iach a phur er mwyn cael ennill râs
yn sdicio at ei rwtîns llym ac anwybyddu chwant
gan fod y marjins ar y brig yn llai nag un y cant.

I’r gym yr aeth ar doriad gwawr i weithio ar ei ffitrwydd
A sesiwn therapi am awr i hybu positifrwydd!
Cyw iâr pob pryd a deuddeg 诺y, jest cracior plisg a’u llyncu.
Dim cysgu efo’r wraig ddim mwy, mae ban ar hanci panci!

Y corff a’r brên sydd erbyn hyn, ‘di tiwnio megis peiriant
yn dilyn trefn am fisoedd maith mewn gobaith o gael llwyddiant.
Ac ar ôl trênio trwy yr ha’ a gwneud y camau i gyd
efallai bod ’na siawns go dda bod yn bencampwr byd!

Rwyf i ar y llaw arall yn rhagori ar neud dim
yn ffafrio eistedd yn y pýb sydd dros y ffordd o’r gym.
Mi sdicia i at fy rwtîn sy’n llawn arferion gwael,
dw’i ddim rhy ffysd ar ennill dim, dwi’n hapus dod yn ail!

’Swn i ’di gallu mynd i’r brig ond dw’i ddim yn licio uchder,
mi allwn fod yn Premier League ond mae peidio’n haws o lawer,
i be’ ai’i newid sut dwi’n byw, dwi’n eitha ffond o ’niod
ac efo bendith Duw ga’i lot o ryw yn hapus ar y gwaelod!

Aeron Pughe 8.5

7 Ateb llinell ar y pryd – Dod i rym am yr ail dro neu Daw i rym am yr ail dro

Dros yr Aber

Daw i rym am yr ail dro
A lot lot yn saliwtio

Iwan Rhys 0.5

Gwylliaid Cochion

Dod i rym am yr ail dro
Dod i waith a melltithio

Tegwyn Pughe Jones 0.5

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Cnewyllyn

Dros yr Aber (MT)

Dan ên y mynydd, camaf i olion traed
y rhai a aeth o’m blaen yn yr eira
gan diwnio i grensian eu gwadnau,
i adlais lleisiau’n esgyn hyd y clogwyni.
Drwy hafnau cul y niwl, caf gip
ar y grib mewn golau arian,
ar fflach o rew yng nghilfachau tywyllaf y graig
a mymryn o fôr swil rhwng ysgwyddau’r dyffryn.
Mewn eiliadau, mae’r cyfan yn diflannu eto.
Daw bollt cigfran o’r gwactod uwch fy mhen
ac wrth ddilyn s诺n ei hadain,
gwyliaf fy anadl yn creu copaon
a’r plu ysgafna’n bod yn glynu ar fy esgidiau.
Rywle ar hyd y daith, mi wnes i anghofio
bod hyn yn ddigon.

Marged Tudur 9.5

Gwylliaid Cochion


Lluniadu Biolegol

Mae’r lab yn eglwysig dawel, a ninnau’n plygu pennau
uwch feicrosgopau oer, pob un
a thalp o fod o’i flaen, yn saff rhwng sleidiau gwydr.

Un llygad ar y byd trwy’r lens a’r llall ar waith ein llaw,
yn cofnodi â’n pensiliau mecanyddol, main.

Llinellau llyfn, gofalus, yn llunio muriau,
brychni a chysgodion pell. Tirwedd diarth o
wagolion a chellbilenni, fel boliau ac fel ffiniau,
fel canol wy, fel d诺r mewn ffynnon, fel llygad sant.

Ond nid gwers gelf yw hon.
Y dasg yw bod yn driw i’r hyn sydd dan y lens,
creu darlun clir. Cofnodi’r ffeithiau’n unig,
Deud dim
byd ond y gwir.

Grug Muse 9.5

9 Englyn: Toriad Trydan

Dros yr Aber (RhI)

Yn ara’ iawn, heb daranau, fe aeth
stafell fyw’r min nosau’n
wyll graddol, cyn i’r golau
rywfodd ddiffodd rhwng y ddau.

Rhys Iorwerth 9.5

Gwylliaid Cochion

 channwyll wedi ei chynnau, y tân
sy’n taenu ei oglau
yn hwyr dan gêm o gardiau
tra bo’r byd i gyd a’r gau.

Gwion Aeron 9