Talybont v Glannau Teifi
Trydargerdd - Pennill ysgafn yn esbonio ystyr yr enw ‘Plwmp’
Glannau Teifi
Mewn pentre hir, tenau a llwm
Fe gafwyd fod 'lead' yn eu cwm,
Aeth pawb yn fras dew
Fel baryniaid o-lew
Ac yn Blwmp bu eu tynged o'r plwm!
Geraint Volk - 8
Talybont
Roedd Peter Lewis Williams yn byw fan hyn un tro, pan gafodd ef ei ethol yn A.S., do.
Enwyd y lle wedyn, wir i chi, er cof am Mr P.L.W.M.P.
Phil Davies – 8
Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘clwb’
Glannau Teifi
Y clwb nos rydd ddiddosrwydd,
A’i roi yn llawer rhy rwydd.
Terwyn Tomos - 8
Talybont
Rydym yng nghlwb y crwban
am fynd a mynd………yn y man.
Phil Thomas – 8.5
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Ar ddydd Santes Dwynwen eleni’
Glannau Teifi
Ar ddydd Santes Dwynwen eleni
Daeth dwsin neu fwy, pwy sy’n cyfri',
O gardiau llawn serch
Gan ambell i ferch….
Ac ugain yn addo fy nghrogi.
Elfed Evans - 8
Talybont
Ar ddydd santes Dwynwen eleni
ges lwc gyda phishyn go handi.
Pan chododd ei ffroc
ges dipyn o sioc …
Ma ’na sawl fath o Ceri, n’does, Ceri?
Phil Thomas – 8.5
Cerdd ar fesur yr englyn milwr (rhwng 9 a 15 llinell) - Ystafell
Glannau Teifi
Ar Noswyl Nadolig
Yn ddiofyn, derfyn dydd,
yn y murmuron llonydd
a gwyd o rhyw gornel gudd,
daw nôl, i fyd annelwig,
dawelwch y Nadolig,
ar y mat i chwarae mig.
Nos hir yng ngolau seren
heb na chysgod llygoden
mewn golwg, na gwg, na gwên
yno i droi llif y straeon,
i ddweud nad yw’r breuddwydion
clir yn wir, y noson hon.
Terwyn Tomos - 9
Talybont
Yn neuaddau’r gân eiddil
gwn yn iawn fod gan ein hil
acenion cerddi cynnil.
Heledd yn ymbil gweddi
digysur ei heryr hi
a haearnaidd gledd arni.
Yn wylofain dros glwyfau
anorfod gw欧r ag arfau
yno’n ceulo’r llygaid cau.
Cynddylan o wahaniaeth
yw’r gân hon a’r hyn a’n gwnaeth
yn glawdd i’r hen arglwyddiaeth.
Pa wers wyla’r Mers i mi?
Gwaraeiddiad gw欧r yw rhoddi
y gwaed hwn rhag ei gwawd hi.
Gwenallt Llwyd Ifan – 8.5
Pennill ymson wrth wisgo sgidiau
Glannau Teifi
Fe blygais i lawr pentigili
Y lasys bach lletchwith i’w clymu
Ond gwnes camgymeriad;
Wrth fynd mas am gerddad
Fe es ar fy mhen, i drybini.
Gwen Jones - 8
Talybont
O’r nefoedd, ble mae’r slip-ons neu’r bwtis velcro gwyn?
Shwt ddiawl fi fod i blygu rôl saco mola’n dynn.
Rhaid mynd i’r cwtsh i chwilio yr hen sandalau secsi,
Fel atgof am y dyddiau pell pan ro’n i’n gallu plygu.
Phil Davies – 8
Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned) - Dydd Gwener Gwallgof
Glannau Teifi
Hoffter hynod y cyfryngau ydy mynnu cyflythrennu.
Er mwyn nodi rhai diwrnodau dibwys iawn.
Trwy hyn, rhy rinwedd ryfedd i’r peth lleia’ yn ddiddiwedd -
Sdim ots os nad oes iddo synnwyr llawn.
Rhestraf wythnos yn fy mywyd, gan fanylu’n hollol ddiwyd,
Defod dyddiau y Nadolig roedd gerbron.
Anwybyddaf Wener Wallgo - dweud y gwir, smoi ishe cofio
Am y gwario dan y pwysau i fo’n llon....
Syth i Sadwrn Sylweddoli, ac i ddilyn, Sul y Sobri
Ar ôl darllen datganiadau nghardiau coel;
Wedyn , sylweddoli eto, bod Llun Lloerig llwyr o wario
Drennydd si诺r o adael cyfri pitw’n foel.
Dydd Mawrth Mentrus - rhaid oedd esgus bod 'na arian rhywle’n rhywfan
I fynychu mwyniant Mercher Melys mas.
Pleser perffaith oedd partio, byw heb ofid, neb yn ffraeo
Pawb yn hapus ac yn joio bywyd bras.
Cael Iau Iachus oedd y bwriad: ceisiais anwybyddu crafad
Bach euogrwydd oedd yn cosi bob rhyw awr.
Gwnes orfwyta, yfed, canu, dawnsio, rili mynd amdani -
Yn sydyn roedd hi’n ddydd Nadolig – nawr!!!! - ac yn Wener Wallgo wahanol.
Carol Byrne Jones – 8.5
Talybont
Rwy’n un o’r rhai hynny sy’n medru troi’n flin ac yn bur ddiamynedd wrth fyned yn h欧n.
Ac fel ’na yr oedd hi rai wythnosau yn ôl, a minnau, am unwaith, wedi ymddwyn yn ffôl.
Roedd pawb yn f’atgoffa fod y dydd yn nesáu ac anrhegion i’w prynu a’u pacio yn glau.
Ro’n i’n deffro bob nos yn chwys oer i gyd wrth gofio fy mod i heb brynu dim byd.
Bythefnos cyn Dolig cyrhaeddodd yr awr ac es i Gaerfyrddin ar doriad y wawr.
Roedd sibrydion ar led fod teledu i’w gael, un chwarter y pris i’ch denu’n ddi-ffael.
’Rôl parcio wrth Wilco, a’m sach yn fy llaw anelais yn syth am siop enfawr gerllaw.
Roedd y diawlied heb agor a ciw rownd y bloc, a minnau yn gafael yn dynn y fy nghloc.
(Gan i mi roi awr wrth brynu fy nhocyn, roedd cadw llygad ar yr amser o bwys anghyffredin.)
Bûm yn ciwio am hydoedd a’r natur yn codi wrth weld pawb yn bachu eu HD deledu,
O’r diwedd cyrhaeddais at ben blaen y ciw, a mewn â fi’n wyllt, ond myn diawl, ar fy myw,
Un set oedd ar ôl a honno’n un fach – yn rhy fach i’w gwylio ond yn rhy fawr i’r sach.
Ond beth, gyfeillion, wnaeth chwalu fy ffydd? Hen set ddu a gwyn oedd bargen y dydd.
’Rôl dod yr holl ffordd roedd rhaid mynd amdani, a thalu a wnes er llawer o regi.
I’r car yn syth a’m gwynt yn fy nwrn, a’r hen delefishon ar fy nghefen fel bwrn.
Rhoi ergyd dan 葒n y diawl warden blin oedd ar fin gosod tocyn dan weipar fy sgrin,
Cyn dreifo fel cythrel yn ôl i’r hen fro. Gwell trio’r teledu cyn ei bacio, sbo.
Os o’n i’n wyllt cynt wnes i rili gwylltio wrth weld bod y teledu ond yn hanner gweithio.
Ac wrth roi yr anrheg ar Ddiwrnod Nadolig bu’n rhaid esbonio wrth y teulu siomedig.
Roeddwn wedi pwrcasu TV du a gwyn, lle roedd y du’n gweithio, ond nid felly y gwyn.
Phil Davies - 8
Llinell ar y pryd – mae o hyd y TMO
Glannau Teifi
A’i hynt yn gwneud i’m ddanto,
Mae o hyd y TMO.
0.5
Talybont
Mae o hyd y TMO,
A’i antur yn fy nanto.
0.5
Telyneg (heb fod dros 18 llinell) - Nerth
Glannau Teifi
Nerth y môr sy’n naddu’r creigiau
Nerth y gwynt sy’n gyrru’r tonnau
Nerth yr haul sy’n twymo’r caeau
Lle dwi’n gorwedd ar fin angau..
Nerth yr haul wnaeth godi’r awydd
I gael teithio’ mhell o ddolydd
Cartref a chynefin cynnes -
Cofia fi, f’ annwyl lodes.
Nawr rhaid chwilio nerth o rywle
Er mwyn godde’r poen a’r clwyfe
Sydd yn rhwygo nghorff a’m calon-
Dyma frwydr sy’n rhy greulon.
Nerth y gwynt a sigla’r goeden
Gan ei matryd o bob deilen:
Cwymp y ffrwythau heb aeddfedu
Sychant ar y pridd wrth bydru.
Carol Byrne Jones -9
Talybont
Wrth ystyried y pobl sy’n dewis mynd i glinic Dignitas yn y Swisdir
Pa nerth sydd mewn paned?
Y ddefod o ddisgwyl i’r tegell ferwi
a’r ysu am ennyd o lonydd
a’i gofleidio yn ddwy law am gwpan,
a theimlo’r stêm yn chwys ar dalcen.
Pa gysur sydd ynddo
pan fo geiriau gwag yn llenwi’r lle?
Lloches o’r storm .
Beth sy’n corddi yn nhwll trobwll y llwy,
sy’n gwneud i mi synfyfyrio yn ei ddyfnder
am ateb yn y d诺r a’r dail?
Mi ddaw fel cusan boeth ar wefus
mor gynnes rhaid cau’r llygaid
i gadw’r gwres.
Ac efallai, ryw ddydd, pan na fydd bodlonrwydd yn y disgwyl,
gobeithiaf y bydd gennyf y nerth
i gymryd y llymed olaf
yn fy mhwyll.
Llaeth, dim siwgwr.
Merci.
Phil Jones – 9.5
Englyn - Dol
Glannau Teifi
'Baby tears'
Yn fydol ddyrchafedig - mae'n crio,
Mae'n creu ein Nadolig,
Ond heddiw, briw yw ei brig -
Un fodel anghofiedig.
Geraint Volk - 9
Talybont
Cafodd fy merch yr union ddol roedd hi wedi gofyn amdani gan Siôn Corn
Yr un rhodd fach, nid y sachaid – a ddaeth
â'r gwir ddawns i'w llygaid.
O'i chael yn llond ei chowlaid
daw'r wên sy'n credu o raid.
Anwen Pierce Jones – 9.5
Cyfanswm
Glannau Teifi – 68
Talybont - 69