Main content

Criw'r Ship v Ysgol Y Berwyn

Trydargerdd - Pennill ysgafn yn esbonio’r ymadrodd ‘Blwyddyn Naid’

Criw’r Ship
Y mae diwrnod ychwanegol
Ymhob blwyddyn naid arferol.
Famma, mae hi’n flwyddyn lai.
Tynnir diwrnod o fis Mai,
Dyna pam mae hi yn Llan
Yn dal yn 1951.

Arwel Roberts - 8

Ysgol Y Berwyn
Ar ôl tair blynedd hir
o Jill yn dwedyd paid
roedd Jac yn falch o glywed
ei bod hi’n flwyddyn naid.

Delyth Humphreys – 8.5

Cwpled caeth yn cynnwys yr ymadrodd ‘rhyw ddydd’

Criw’r Ship
Er dioddef ar ben tennyn
Dôf yn rhydd, rhyw ddydd o hyn.

Nici Beech – 8.5

Ysgol Y Berwyn
Gwnaf gyfamod gwrth-dlodi
rhyw ddydd a fydd rhoddaf i.

Huw Dylan - 9

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mi glywais fod lle yn Llandderfel’

Criw’r Ship
Mi glywais fod lle yn Llandderfel,
Be mae’r Sais yn ei alw yn frothel.
Deuthum yma i fyw,
Ac, er syrffed o ryw,
Myn Duw, mae hi’n anodd ymadel.

Arwel Roberts - 9

Ysgol Y Berwyn
Mi glywais fod lle yn Llandderfel
I eliffant mawr a saith dresel,
ac mae’n neuadd ocê
am baned o de
ond does na ddim lle i Bryn Terfel.

Erin Prysor – 8.5

Cerdd ar fesur yr englyn milwr - Ogof

Criw’r Ship
Hen stori bod tylwyth teg yn byw yn un o’r ogofau ar ochr orllewinol yr Arenig Fawr a bod bugeiliaid wedi eu clywed yn canu

Yn llawn gofal, a’n dal dig
trois fy mhen at Arenig
am lonydd, am le unig

a’i riniog yn y bryniau,
Lle du i lyfu ‘nghlwyfau.
Es yn swrth, nes wrth nesau

mi glywais hyfrydlais fry
a swn telyn yn tynnu
f’enaid yn ôl i fyny.

Un o lwyth y Tylwyth Teg
â’i chân fu’n dweud bod ‘chwaneg
i dirwedd na daeareg.

Nici Beech - 9

Ysgol Y Berwyn
Af i fyd fy ogof i
dyfod a’r grym ar godi
i fyw doe y DVD.

Af i fyd ogof Yoda
ac ar dir y drwg a’r da
rwyf saffach ar fy sofa.

Eto ar ras rownd pob tro
swyn Vader sy’n fy hudo,
o’i weld rwyf weithiau’n ildio.

Er,os hirnos yw’r siwrnai,
cyd-gerdded gyda’r Jedai
yr wyf,mi wn, erf y mai;

A nerth goleuni wrthyf
heddwch yw yw golau’r gleddyf;
boed un grym drwy’r byd yn gryf.

Arwel Emlyn Jones – 9

Pennill ymson wrth gloi neu agor drws

Criw’r Ship
"Dwi'm angen eich gwasanaeth!" datganaf yn ei wep
Cyn cau y drws â nerth bôn braich er mwyn rhoi clamp o glep.
Ond syndod y syndodau, mae'r drws yn bownsio'n ôl
A'r gwerthwr dal i sefyll yno'n syllu arna i'n ffôl.
Dwi'n rhoi hwth iawn drachefn i'r drws, un gletach y tro hyn
Ond eto, bownsio'n ôl a wna, a'r dyn yn syllu'n syn.
Gan ama bod y cenna yn bod yn hy â'i droed
Dwi'n tynnu'r drws yn ôl er mwyn rhoi'r glep ffyrnica 'rioed
I ddysgu gwers i'r coblyn na chafodd rioed mo'i bath...
Ond meddai "cyn chi neud 'na 'to, falle dylech chi symud eich cath."

Gwyneth Glyn – 8.5

Ysgol Y Berwyn
Rol curo a churo yn awchus
Mewn ysbaid fe ddaeth geneth dlws,
Ac agor y drws yn ei choban,
Lle rhyfadd yn wir i gael drws!!

Erin Prysor – 8.5

Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned) - Bach a Mawr

Criw’r Ship
Ar ddechrau blwyddyn newydd a’’r gyfres newydd hon,
Dwi wedi gwneud adduned – adduned newydd sbon.

Nid stwffio y gair “newydd” sawl gwaith i mewn i gân;
Yn hytrach, canolbwyntio ar sgwennu pethau glân.

Troi cefn ar fas fudreddi ac odlau sy’n creu sioc,
Cofleidio cerddi dychan, cyfnewid gordd am broc.

Cynhyrchu stwff o safon, barddoniaeth fytholwyrdd
Sy’n addas iawn i gwrs TGAU neu ddarnau prawf yr Urdd.

Stwff am hanes neu fyd natur, heb ddefnyddio geiriau mwys
Na dim math o innuendo – roedd o’n ddigon da i Crwys.

Ond och, pan ddaeth y tasgau, daeth machlud yn lle gwawr.
Oes modd osgoi temtasiwn efo’r testun “Bach a Mawr”?

Do, daeth yr awen heibio pan oedd ganddi eiliad sbâr
Mi darodd mewn i ddeud helo cyn mynd, fel shooting star.

Does dim byd ar fy meddwl ond Miranda Nymbar Ten,
Efo’i phâr o felons enfawr a Chihuahua del dros ben.

Ni sgwennaf eto ’leni farddoniaeth fytholwyrdd
I’w astudio ar r’un cwrs TGAU na’i lefaru yn yr Urdd.

Ond daw blwyddyn newydd arall i oleuo’r twyllwch blin –
A Thalwrn newydd arall – a thestun slei dan-dîn...

Arwel Roberts - 9

Ysgol Y Berwyn
Bu farw dau grefyddwr yn gynnar fore Llun
Ac o fewn dim yn sefyll o flaen St Pedr ei hun.

Roedd un yn bresbyteriad ers gorwedd yn ei grud
A’r llall yn Annibynnwr gwylaidd iawn ei fryd.

Wel croeso meddai Pedr fe af a chi ar daith
I’r lle y byddwch ynddo am dragwyddoldeb maith.

I ffwrdd a hwy ar unwaith hyd lonydd aur y ne
Nes cyrraedd mewn rhyw chydig rhyw blasdy mawr o le.

Ei furiau yn wyngalchog a lawntiau gwyrdd o’I flaen
A wnai I blasdai’r ddaear I edrych yn reit blaen.

A choesa’r Presbyteriad yn sydyn aeth yn wan
Pan ddwedodd Pedr wrtho mai gartref oedd y fan.

I ffwrdd a’r cerbyd wedyn nes cyrraedd cyn bo hir
Rhyw gaban bychan ydoedd, ddim mwy na sied yn wir.

Edrychai’r Annibynnwr di siomi ac yn syn
Pan ddwedodd Pedr wrtho, y ti sy’n byw fan hyn.

Ac meddai’r Annibynnwr wrth Pedr, dwed yn awr
Pam bod y Presbyteriad yn cael y plasdy mawr?

Mae miloedd o Annibynwyr medd Pedr yn y ne
Ond fo di’r Presbyteriad cynta’i ddod i’r lle.

Huw Dylan – 8.5

Llinell ar y pryd – Oer yn wir yw’r un na wel / Oer yw’r un a wel

Criw’r Ship
Oer yn wir yw’r un na wel,
Ei gariad ar y gorwel

0.5

Ysgol Y Berwyn
Oer yn wir yw’r un na wel
Y mawredd yma, Arwel.

Telyneg (heb fod dros 18 llinell) - Neges

Criw’r Ship
Trwy ei dagrau
daw’r ddaear
i’n herydu’n ôl
i’r pridd.

Ein stori’n byllau baw
a’n tai’n gychod
sy’n suddo’n ddiseremoni.

Y llif sy’n hawlio’n ôl
hen lwybrau,
yn donnau didorr
i’n dymchwel,
a’n gadael
yn y silt,
yn waddol,
a’r glaw’n ein
chwipio.

Nia Môn – 9.5

Ysgol Y Berwyn
#Porteouvert : dyma oedd pobl paris yn roi ar Trydar ayyb ar ol y terfysg ym Mharis, gan agor eu drysau i bawb oedd angen llety.

Porte: porth,drws cynhaliaeth
Ouvert: agored
Oes mae drws agored
I’r rhai sy’n dal yn fyw
A swn yr erchyllterau
Yn atsain yn eu clyw.
#Porteouvert

Oes mae drws agored
I’r rhai all grwydro’r byd
O’r caffi bach delfrydol
A oedd ar gornel stryd
#Portouvert

Oes mae drws agored
I blentyn heb ei fam
Sy’n wylo gweddi uchel
Wrth ymyl Notre Dame
#Porteouvert

Oes mae drws agored
I rai yng nghlybiau’r hwyr
Sy’n dal i warando’r miwsig
Heb eu byddaru’n llwyr.
#Porteouvert

Oes mae drws agored
A’r ofnau yn ddi-ri
Drwy’r Stade de France
#Portouvert, Je suis Paris.

Arwel Emlyn Jones - 9

Englyn - Tanc

Criw’r Ship
 nhraed yn glai ar siwrnai serth, - heb dân
mae pob dim mor anferth
neu yn wastraff o drafferth.
Er yn wag, mi ga'i rhyw nerth.

Nici Beech – 9.5

Ysgol Y Berwyn
O’r pared gan gofio’r prae – dyma weld
llygod mawr yn chwarae
wrth fetel arch darn warchae;
El Alamein, wylo mae.

Arwel Emlyn Jones – 9.5

Cyfanswm
Criw’r Ship – 71.5
Ysgol y Berwyn – 70.5