Main content

Manion o'r Mynydd v Caernarfon

Trydargerdd - Pennill ysgafn yn esbonio cysyniad cymhleth i blentyn

Manion o’r Mynydd
Dwed y gwir bob amser
A chaiff neb yr un cam -
Ond er mwyn llonyddwch
Paid â’i ddweud wrth dy fam.

Cynan Jones – 8.5

Caernarfon
#einhunaniaeth Cicio pêl rhwng capeli a chanu trychineb a chyni a rhoi'n holl fryd ar weini yn nhai ein cymdogion ni.

Llion Jones – 8.5

Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘tri’ neu ‘tair’

Manion o’r Mynydd
Hysbyseb ar wefan ‘Match’

Ni’n tri enethod fodern
Ni am tair fachgen, ni yn.

Nia Powell – 8.5

Caernarfon
Caiff lens sy’n dri dimensiwn
Weld tu hwnt i’r cwpled hwn.

Llion Jones – 8.5

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Bu bron i ni golli ein fferi’

Manion o’r Mynydd
Pan welais ar Google fod Ceri
Wyn Jones ar ôl ennill y Loteri
Yn gwâdd ei gyfeillion
I’r parti’n Iwerddon
Bu bron i ni golli ein fferi.

Edgar Parry Williams - 8

Caernarfon
Roedd Wil yn boen dîn yn Dun Laoghaire -
Bu bron inni golli ein fferi -
’Nai o’m troi tua’r môr
Heb gael llaw Andrea Corr;
Ond doedd ganddo ddim gobaith caneri.

Emlyn Gomer – 8.5

Cerdd ar fesur yr englyn milwr (rhwng 9 a 15 llinell) - Marchnad

Manion o’r Mynydd
Heno, dadwisgai’I henaid -
Pa hawl iddi dd’wedyd ‘paid’
 llwgu’n llenwi’i llygaid?

Bargeinio, chwilio a chael
Dweud, ‘Gwnaf’, yw cost ymrafael
Ar stryd sydd o hyd yn hael.

Rhoi i mewn i’w horiau maith
Ei gwên sy’n newydd ganwaith;
Dyna’r grefft a dyna’r graith.

Daw dyn. Mae hi’n taflu’r dis
Yn dawel. Fo pia’r dewis.
Hi’r prae sydd yn talu’r pris.

Cynan Jones - 9

Caernarfon
Sgrech ryfedd, sgrech arafu
gwreichion dur, fel sgrechian du
dreigiau Emrys drwy Gymru.

Eleni clywn alanas
y ddwy ddraig dan y graig gras
a’u genau’n danllwyth gwynias

wrth deimlo gwres ffwrnes ffau
draig Xinjiang, a’i chrafangau
yn rhwygo’r harn o’r creigiau.

A nawr, mae’r tân yn oerach
ym Mhort Talbot, a thlotach
yw ogof hil ein draig fach.

Gymry, rhag dreigiau Emrys,
a alwn ar Lefelys?
A ddaw Lludd at fwrdd y llys?

Ifan Prys – 9.5

Pennill ymson wrth newid bylb

Manion o’r Mynydd
Problem enfawr dynol ryw
Wedi oesoedd maith o fyw
Mewn tywyllwch yw fod breichiau
Dyn rhy fyr i newid bylbiau.

Tudur Puw - 8

Caernarfon
Pan ffeiris i arlleg am diwlips yn 'siop
Mi allwn i fynd ar fy llw
Mai'r bylbs angenrheidiol oedd Bayonet Cap:
Ond ma'r tylla ma'n Edison Screw...

Emlyn Gomer – 8.5

Cân ysgafn - I’r Gofod

Manion o’r Mynydd
Un noson cyn mynd i noswylio, wrth gael smôc wrth dalcen y ty,
Rhyw olau mawr gwyrdd a ddaeth heibio cyn gafael yn dynn ynof fi!
Mi dynnodd fi fyny at soser. Oedd rhywbeth amheus yn y mwg?
Agorodd rhyw gylch mawr arian, ces weld cyn bo hir beth yw’r drwg.

Daeth Ceri Crachvinshkach i’r golwg a dweud wrthyf i mod i’n hwyr
‘Mae Talwrn Bydysawd ar gychwyn’, ’Ro’n i wedi hen ddrysu yn llwyr!
Mi deithiais am oriau, am ddyddiau, cyn cyrraedd y man yn y gofod
Roedd planed y beirdd yn lle difyr, os oedd hi ychydig yn od.

Y cyntaf im weld, ar ôl glanio, oedd Cynan yn oren ei wrîd
Ar weddi mewn llond cae o fadarch, a’r rheini yn tyfu ffwl sbîd
’Roedd Edgar yn llunio limrigau, wyth llinell, tri sill ym mhob un
A’u cerfio yn dwt ar goed moron, yn ddiwyd ’fo’i forthwyl a’i g欧n

Smarties ddisgynnai ar y blaned, ’roedd hi’n bwrw hen wragedd a ffyn
A Tudur yng nghanol llifogydd, yn hel marciau nid defaid tro hyn
A draw ym Mhrifysgol y dalaith yr oedd Nia yn sefyll yn stowt
Yn dysgu’r gynghanedd i sdiwdants a phob un yn debyg i sbrowt!

Dim ond ddoe ces ddod adref o’r gofod, mi fum yno ers misoedd maith
Ond mae bod yma heno’n fy atgoffa i lot o’r lle y bum ar fy nhaith
Wrth edrych ar feirdd Caernarfon yn syllu yn syn arnom ni.
Diolchaf o galon yn ddyddiol mai mân un o’r mynydd wyf i.

Ioan Gwilym – 8.5

Caenarfon
Ar ôl gweld hysbyseb y Mudiad Meithrin am 'ddirprwy ofodwr

Rywle yn Aberystwyth, yn y Boulevard de Saint Brieuc,
mae swyddfa’r Mudiad Meithrin, a’u pennaeth, Captain Kirk.
Rhoes y gorau i deithio’r gofod am swydd tu ôl i ddesg,
a phlac bach ar y drws sy’n dwyn y geiriau “James Kirk Esq.”

Mae eisiau gwella’r mudiad, ac i’r cylchoedd Ti a Fi
mae’n chwilio am arweinwyr efo gradd a PhD,
nid genod syth o’r ysgol sy ddim cweit yn dallt math’mateg,
ond pobl fedr sychu trwyn a thrafod astroffiseg.

Mi lwyddodd yn ei ymgyrch; bellach cafwyd cadarnhad
mai gofodwyr sydd yn rhedeg pob meithrinfa yn ein gwlad.
Does ryfedd na all Ground Control gysylltu â Major Tom,
mae hwnnw erbyn hyn ar staff cylch meithrin Hafod Lom.

Mae’r astronotiaid dyfal yng Nghaernarfon a Llanrwst yn
anfon adroddiadau cyson ’nôl i’w meistri draw yn Houston.
Ac mae’r camau bach a gymer plantos Bagillt a Llanasa
yn gamau mawr i’r ddynol ryw dan oruchwyliaeth NASA.

Ond dewch gyda mi i orsaf ofod ym mhellafion sbês;
mae anghydfod yn y gweithle, di’r gofodwyr ddim yn blês:
“Houston, mae gennym broblem efo aelod fenga’r criw –
be nawn ni â geneth ddeunaw oed sy’n gwneud ei NVQ?”

Geraint Lovgreen – 9.5

Llinell ar y pryd - Nid ffilm yw Star Wars ond ffydd

Manion o’r Mynydd
Nid ffilm yw Star Wars ond ffydd,
Ond gwewyr byw’n dragywydd.

Caernarfon
I’r hobbit dyma rybudd,
Nid ffilm yw Star Wars ond ffydd.

0.5

Telyneg (heb fod dros 18 llinell) - M诺g

Manion o’r Mynydd
Maes carafannau yr Eisteddfod

Tawelu mae’r Maes
a’r awel gynnes
yn cyhwfan
peth
ar faneri
Llywodraeth Cymru.

Mae’r machlud
fel pob machlud
yn ogoneddus drist,
gan ddynwared y wawr.

Uwch y gwersyll
chwerthin Cymraeg
yn chwyrlio gyda m诺g y barbaciws
o’r tipis,trefnus,taclus

A phawb yn brysur, brysur
ar eu beics
yn creu llwybrau newydd
o adlen i adlen

ond heb fentro
trwy’r ffens

tros y ffin.

O’r llwydwyll
daw rhythmau’r drwmiau
i gynhyrfu’r hen bridd
tra diflanai’r m诺g ar awel
gynnes
o’r dwyrain.

Cynan Jones – 9.5

Caernarfon
Ac wele’r mwg main a weindiodd nôl i’r corn
a ninnau’r dorf yn cilio wysg ein cefnau
o gynteddau’r Angau.
Ac adre aethom i gadw’r cotiau du,
i dynnu’r cardiau o’u hamlenni
a’u rhoi yn ôl yn ’drôr.

Daeth car i’th hebrwng nôl i’r t欧,
i wella’n ara’ deg.
Cafodd y genod fendith dy gwmni
a chlapio pan dynnwyd y tiwbiau.
Cefaist ha’ bach Mihangel
a’r afalau’n neidio’n ôl i gangau’r coed.

A rhyw ddiwrnod, rhwng dau olau,
pan oedd anadl y plant yn gwmwl ar ffenest,
cest di ddysgu iddynt wneud tân oer;
a’r dwylo bach yn plethu’r papur newydd,
yn pentyrru cariad i’r grât,
i’w cadw’n gynnes, gydol y gaea’ hir.

Ifor ap Glyn – 10

Englyn - Marchog

Manion o’r Mynydd
Drwy’i einioes o drywanu – yn rhu’r cyrn
A’r carnau’n pystylu,
Ennyd fer o orchest fu.
Ar asyn daeth yr Iesu.

Tudur Puw - 10

Caernarfon
i David Bowie

Daliaist hyd ben y dalar i dorri
trwy diroedd yn flaengar
a herio'r diawl ar dy war
ar geffyl gwelw'r giaffar.

Llion Jones – 9.5

Cyfanswm
Manion o’r Mynydd – 70
Caernarfon - 73