Criw'r Llew Coch v Tegeingl
Trydargerdd - Newyddion Drwg
Criw'r Llew Coch
@ymr_twrci eich gwraig oedd yn dda iawn
mi sdwffiais yn y bore
a’i bwyta yn y pnawn
Ifan Bryn Du – 8.5
Tegeingl
Ers tro, mae'r wraig â'i chalon wan yn sbyty 'mhen draw'r Sir
Ond clywais neithiwr yn y Swan y bydd hi'n ôl cyn hir
Moi Parri – 8.5
Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘croen’
Criw'r Llew Coch
Oes llawn effeithiau’r grawnwin
A dry’r croen yn ledr crin.”
Alun Cefne - 8
Tegeingl
Mi all croen yr oen nad yw
adfer yr oenig lledfyw.
Dafydd Evan Morris – 8.5
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae’n siwr bod esboniad rhesymol’
Criw'r Llew Coch
Mae’n siwr fod esboniad rhesymol,
Un Freudaidd o dras seicolegol:
Er fy mhecs,Lynx a’r “gell”
Daeth yn amlwg ers spel
Nad wyf bellach i’m gwraig ddel yn rhywiol!
Alun Cefne - 8
Tegeingl
Mae’n siwr bod esboniad rhesymol
Pam nad yw ei swydd yn y fantol.
Mae’i wyneb yn siwtio
I’r dim ar y radio,
Ond ei farcio sy’n llwyr annerbyniol.
Marc Lloyd Williams - 8.5
Cerdd ar fesur yr englyn milwr - Gaeaf Caled
Criw’r Llew Coch
Eira’n hel ar ein heilau,
Gwynt a rhew’n gwynnnu’n trwynau
di-waed, a dim ond ni’n dau
i dorri ar weundiroedd
gwyn ar wyn. Dan gynfas ‘roedd
na gyntun rhag y gwyntoedd;
yno’n gynnes bu hesbin
yn gorwedd dan rhew gerwin;
o ddydd i ddydd ‘roedd hi’n
newynu, porri’i hunan
a chael awch ar grych o wlan.
Dod a chanfod ei chwynfan
Croth o fedd; uwch llechwedd llwyd
eleni fe’i hailanwyd,
ei geni’r man lle’i ganwyd.
Tegwyn Pughe Jones – 9.5
Tegeingl
Eira a rhew ar eu hynt
A rhyw wae yn y rhewynt.
Diwrnodau oerion ydynt.
Oer ydwyf, a dim trydan,
A 'nyddiau mor anniddan
Yn y t欧 heb lo i'r tân.
Yn unig yma heno
Dan sawl gorchudd yn cuddio.
Gwelw wyf a'r drws ar glo.
Hyd y nos dyheu a wnaf
Am ryw wres ac am yr haf
A dydd gwiw diwedd gaeaf.
Moi Parri - 9
Pennill ymson offerynwr neu offerynwraig pres
Criw’r Llew Coch
Gan na ches i wahoddiad i'r seindorf
Dwi rwan yn fand un dyn,
O leia does dim cystadleuaeth
Pan chwytha'i fy nhrwmped fy hun.
Rhiain Bebb – 8.5
Tegeingl
Last Post
Mae nodau clir fy utgorn i
yn erchi’r byw o rywla;
ond galwad sy’n brawychu dyn
yw erchi un aeth o’ma.
Dafydd Evan Morris – 8.5
Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned) - Y Gwrandawiadau
Criw’r Llew Coch
Gwrandawiadau
Dydd Llun, bum yn darllen rhan Jini,
Hen wraig, di cal stroc yn 'Y Gwyll';
Dydd Mawrth r'on i'n trio am Helga-
Sef yr ail o'r tair chwaer hyll....
Dydd Mercher, fe ganais i aria, a'r gobaith, cael rhan yn 'Les Mis...'
Ond ar ganol y cytgan,
Dechreuais i disian,
A'r nodyn ddoth allan, mor fflat a siampen heb y fizz...
Dydd Iau, ges i 'recall' o'r diwedd
Sioe dolig oedd 'O, mor gynhyrfus....'
Cyn i mi sylweddoli, mai 'tin' oedd fy rhan i,
Pen ol carw Santa'n John Lewis!!
Dydd Gwener, o'n i nol yn fy 'day job',
Yn cyfarch cwsmeriaid bob un,
Yn gwenu'n llawn drama,
Yn for o charisma,
Yn haeddu chwech Bafta
Am ran anodd iawn, sef fi'n hun......
Nia Medi - 8
Tegeingl
Mi benderfynais yn gynnar iawn 'leni
Yr awn am y ddeuawd yn y Steddfod yn 'Fenni.
Rhois hysbyseb gwerth canpunt yn fawr yn Y Cymro
Bod Parri am faswr yn bartner iddo.
A fel ro'n i'n disgwyl daeth ceisiadau yn rhesi
Yn amrywiaeth rhyfeddol - gwrandawiadau amdani!
Er nad yn faswr mi ges wen gan Shan Cothi
Ei gwrthod fu rhaid - er y breuddwydio amdani.
Dweud 'Na' wnes i wedyn wrth yr annwyl Rhys Meirion,
Mi ges nodyn Twm Morys a roedd hynny yn ddigon!
Pan ganodd Wynne Evans doedd dim i'w gymharu
A phan ddaeth Katherine Jenkins roedd hi yn serennu.
Eu gwrthod a wnes ac yntau Bryn Terfel
Er cystal ei lais aeth adre'n benisel.
Ond roedd un ar ôl a chan Max Boyce ar ei dafod
A fo oedd fy newis - doedd hynny ddim syndod.
Os am faswr go iawn - Barry John ydy hwnnw
Bydd pawb yn cytuno - dim ond dweud ei enw.
Dim ond Barry yn wir oedd 'run tiwn â finna.
Os dewch chi i'r Steddfod mi welwch ni yna.
Moi Parri – 8
Llinell ar y pryd – yn y dilyw rhaid dilyn
Criw’r Llew Coch
Yn y dilyw rhaid dilyn
Ar daith dy lwybr dy hun.
Tegeingl
Yn y dilyw rhaid dilyn
Arwydd o help, ewch ffordd hyn.
0.5
Telyneg - Sisiwrn
Criw’r Llew Coch
Roedd ei gwely dal yn gynnes
ac 葟l ei phen ar ei chlustog;
dau lun ohoni’n ciledrych arnaf o bobtu’r gwely
葍’r llewys plaen yn cuddio’r breichiau patrymog.
A phob bore, pan aiff i ddal ei bws,
agoraf innai’r dror, (er na ddylwn chwaith).
Mae’n rhaid i mam gael gwybod, ‘does,
ai rhwd ‘te gwaed sy’n cochi’r min?
Tegwyn Pughe Jones - 10
Tegeingl
Torrodd ei brethyn yn gynnil,
Wrth i oriau ei dyddiau fyrhau,
Roedd hiraeth ym mhlyg y canfasau
Lle bu cariad yn cydio'r ddau.
A ddoe ac ofn gaeaf arall
Yn iasoer rhwng hen ffriddoedd bach Ll 欧n,
Fe dynnodd y llenni yn araf
Cyn torri y pwyth olaf un.
John Griffith Jones – 10
Englyn yn cynnwys enw unrhyw erfyn
Criw’r Llew Coch
Dai’r Aber (potsiwr)
Dai a fagwyd 葍’i fagal yn ei law,
Uwchlaw’r pysgod grisial;
A’r hen Dai? Daliai i’w dal
Drwy awdurdod ei ardal.
Tegwyn Pughe Jones - 10
Tegeingl
Offeryn tsimpansi i ddal morgrug
Yn ara’ bach gan wyro’i ben – anela’n
Ofalus wialen,
A hudo o fonyn coeden,
Hyfryd bryd ar ddarn o bren.
Marc Lloyd Jones -8.5
Cyfanswm
Criw’r Llew Coch – 70.5
Tegeingl - 70