Gwaith, EPD ac EC
Ceir
Mae gan injans ceir wahanol feintiau (cynhwysedd) a sgorau p诺er. Er enghraifft, efallai y bydd gan gar teulu bach injan 1.2 litr ond bydd gan sbortscar injan 3 litr. Yn gyffredinol, mae injans 芒 chynhwysedd mwy yn fwy pwerus.
Mae injans mwy pwerus mewn ceir yn gallu gwneud gwaith yn gyflymach na rhai llai pwerus. O ganlyniad, mae'r rhain fel arfer yn teithio'n gyflymach ac yn teithio'r un pellter mewn llai o amser, ond mae angen mwy o danwydd arnynt hefyd. Mae defnyddio mwy o danwydd yn costio mwy ac yn cael mwy o effaith ar yr amgylchedd.
Mae鈥檙 tanwydd sy'n cael ei ddefnyddio gan wahanol gerbydau a pha mor bell maen nhw'n gallu teithio yn dibynnu ar ffactorau fel:
- gyrru i fyny llawer o riwiau
- cludo llwythi mawr
- gyrru'n gyflym
- gyrru ar ffyrdd ag arwynebau garw
- gyrru heb ddigon o aer yn y teiars
Colledion aerodynamig
Mae si芒p cerbyd yn bwysig iawn. Gallwn ni lliflinioDylunio neu addasu gwrthrych fel ei fod yn cynhyrchu ychydig iawn o wrthiant. Fel arfer mae'n cael ei wneud i gynyddu buanedd neu hwyluso symudiad y gwrthrych. cerbydau i gynhyrchu llai o wrthiant aer wrth iddynt symud, sy'n golygu y byddan nhw'n defnyddio llai o danwydd ac yn gallu mynd yn bellach.
- Mae sbortsceir yn si芒p lletemSi芒p sydd ag un ochr drwchus iddo ac ochr arall sy'n denau. . Mae siapiau cerbydau mwy llyfn eisoes wedi gwneud llawer i leihau llusgiad, ond mae gostyngiadau pellach o 20-30% yn bosibl.
- Gallwn ni osod taflwyr gwynt ar flaen lor茂au a charafannau.
- Ar y llaw arall, mae rhoi blychau to ar geir neu gyrru 芒'r ffenestri ar agor yn cynyddu gwrthiant aer. Mae cynyddu gwrthiant aer yn golygu defnyddio mwy o danwydd, ac felly ni fydd y cerbyd yn gallu teithio mor bell.
Colledion oherwydd ffrithiant
Yn ogystal 芒 ffrithiant 芒'r aer oherwydd si芒p a maint y cerbyd, mae'r ffrithiant rhwng teiars y car ac arwyneb y ffordd, a'r ffrithiant rhwng olwynion ac echelau'r car, hefyd yn effeithio ar faint o danwydd mae'r car yn ei ddefnyddio. Yn aml, rydyn ni'n galw hyn yn wrthiant rholio'r car.
Mewn cerbydau sy'n rhedeg ar betrol, mae dros 62% o egni'r tanwydd yn cael ei golli yn y peiriant tanio mewnol oherwydd mae'n aneffeithlon iawn o ran trawsnewid egni cemegol y tanwydd yn egni mecanyddol.
Mae egni'n cael ei golli i:
- ffrithiant yn yr injan
- pwmpio aer i mewn ac allan o'r injan
- colledion gwres
Wrth yrru mewn mannau trefol, mae llawer o egni - tuag 17% yn cael ei golli wrth segura wrth oleuadau neu mewn traffig. Mae technolegau fel systemau tanio/generadu integredig yn helpu i leihau'r colledion hyn drwy ddiffodd yr injan yn awtomatig pan fydd y cerbyd yn stopio, a'i hailddechrau ar unwaith pan fydd y gyrrwr yn pwyso'r cyflymydd.
Gwrthiant rholio
Mae gwrthiant rholio yn mesur y grym sydd ei angen i symud y teiar ymlaen, ac mae mewn cyfrannedd union 芒 phwysau'r llwyth mae'r teiar yn ei gynnal. Gallwn ni ddefnyddio amrywiaeth o dechnolegau newydd i leihau'r gwrthiant rholio. Mae hyn yn cynnwys gwell dyluniadau ar wadnau ac ysgwyddau'r teiars a defnyddio deunyddiau gwell yn y belt a'r arwynebau tyniant yn y teiars.
Ar gyfer ceir teithwyr, mae gostyngiad 5-7% yn y gwrthiant rholio yn cynyddu effeithlonrwydd tanwydd 1%. Fodd bynnag, rhaid cydbwyso'r gwelliannau hyn yn erbyn tyniant, gwydnwch a s诺n.