Ymholltiad niwclear
Enw'r broses o hollti niwclewsY niwclews yw rhan ganolog atom. Mae'n cynnwys protonau a niwtronau, a'r rhan fwyaf o f脿s yr atom. yw ymholltiadY broses o dorri neu hollti niwclysau. niwclear, ac rydyn ni'n defnyddio'r broses hon mewn adweithyddion p诺er niwclear.
Mae amsugno niwtronGronyn isatomig heb ei wefru, gyda m脿s o 1 o鈥檌 gymharu 芒鈥檙 proton. araf yn gallu anwytho ymholltiad mewn rhai niwclysau - rydyn ni'n galw'r rhain yn niwclysau ymholltog. Mae'r niwtronau sy'n cael eu hallyrru o'r ymholltiad hwn yn gallu arwain at adwaith cadwynolMae adwaith cadwynol niwclear yn digwydd pan mae niwtron yn hollti niwclews, gan ryddhau mwy o niwtronau, sydd yn eu tro yn mynd ymlaen i hollti mwy fyth o niwclysau. cynaliadwy. Os yw'r niwtronau'n symud yn rhy gyflym, fydd ymholltiad ddim yn digwydd.
Fel arfer, rydyn ni'n defnyddio isotopIsotop yw atom elfen sydd 芒'r un nifer o brotonau ac electronau ond gwahanol niferoedd o niwtronau. wraniwm neu blwtoniwm fel tanwydd mewn adweithyddion niwclear. Mae gan eu hatomau niwclysau cymharol fawr sy'n hawdd eu hollti, yn enwedig os yw niwtronau'n eu taro nhw. Symbol niwclear niwtron yw \(_{0}^{1}\textrm{n}\).
Pan mae niwtron, \(_{0}^{1}\textrm{n}\) yn taro niwclews wraniwm-235 neu blwtoniwm-239, mae'r canlynol yn digwydd:
- mae鈥檙 niwclews yn hollti'n ddau niwclews llai, sef yr epilniwclysau, sy'n ymbelydrolPan mae atomau ansefydlog yn rhyddhau gronynnau sy鈥檔 gallu bod yn niweidiol i bobl.
- mae dau neu dri o niwtronau eraill yn cael eu rhyddhau
- mae rhywfaint o egni'n cael ei ryddhau ar ffurf egni cinetig y gronynnau sy'n cael eu cynhyrchu
Gallwn ni ysgrifennu'r hafaliad fel hyn.
\(_{92}^{235}\textrm{U}+_{0}^{1}\textrm{n}\rightarrow_{56}^{144}\textrm{Ba}+_{36}^{89}\textrm{Kr}+{3}_{0}^{1}\textrm{n}+ {\text{egni}}\)
Adwaith cadwynol
Mae'r niwtronau ychwanegol sy'n cael eu rhyddhau hefyd yn gallu taro niwclysau wraniwm neu blwtoniwm eraill ac achosi iddynt hollti. Mae hyn yn rhyddhau mwy fyth o niwtronau, sydd yn eu tro yn gallu hollti mwy o niwclysau.
Rydyn ni鈥檔 galw hyn yn adwaith cadwynol.
Rydyn ni'n rheoli'r adwaith cadwynol mewn adweithyddion niwclear i'w atal rhag symud yn rhy gyflym.
Mae llawer o'r cynhyrchion ymholltiad hefyd yn ymbelydrol ac mae eu hanner oesYr amser mae'n ei gymryd i nifer y niwclysau ymbelydrol mewn sampl haneru. Mae鈥檔 cael ei ddiffinio hefyd fel yr amser mae鈥檔 ei gymryd i gyfradd cyfrif sampl sy鈥檔 cynnwys isotop ymbelydrol ostwng i hanner ei lefel gychwynnol, neu鈥檙 amser mae鈥檔 ei gymryd i f脿s sylwedd ymbelydrol ostwng i hanner ei werth cychwynnol.'n amrywio'n fawr. Mae hanner oes tecnetiwm-99 yn 211,100 mlynedd, ond mae hanner oes cynhyrchion eraill ymholltiad yn gallu bod tua phum mlynedd.