大象传媒

Sbectra llinellau allyrru ac amsugno

Drwy astudio'r sbectra llinellau sy'n cael eu cynhyrchu gan nwyon poeth a'u hamsugno gan nwyon oerach, gallwn ni ganfod pa elfennau sydd mewn s锚r.

Sbectrwm allyru di-dor

Pan mae mater yn boeth iawn, mae'n allyrru golau. Mae'r golau hwn, wrth edrych arno drwy brism neu , yn dangos holl donfeddi golau gweladwy. Rydyn ni鈥檔 galw hwn yn . Mae ffynhonnell golau fel seren neu fwlb ffilament yn rhoi sbectrwm allyrru di-dor.

Pan mae nwy yn boeth iawn, dydy e ddim yn allyrru golau ar bob tonfedd. Dydy nwyon poeth ddim yn cynhyrchu sbectrwm allyrru di-dor.

Sbectrwm llinellau allyrru

Dim ond rhai tonfeddi golau penodol mae nwy poeth yn eu hallyrru, i gynhyrchu llinellau golau ar gefndir tywyll. Rydyn ni鈥檔 galw hwn yn . Mae cwmwl o nwy ar ei ben ei hun, heb ffynhonnell golau y tu 么l iddo, yn cynhyrchu sbectrwm llinellau allyrru.

Sbectrwm llinellau amsugno

Pan mae nwy yn oer, mae'n amsugno yr un tonfeddi golau y byddai'n eu hallyrru pan mae'n boeth. Felly, os yw sbectrwm di-dor yn mynd drwy nwy oerach, bydd yn 'tynnu allan' neu'n amsugno rhai tonfeddi golau i gynhyrchu cyfres o linellau tywyll ar sbectrwm golau di-dor. Rydyn ni鈥檔 galw hwn yn . Felly, pan mae'r golau hwn yn mynd drwy nwy, gall yr atomau nwy amsugno rhai tonfeddi i gynhyrchu sbectrwm llinellau amsugno.

Mae llinellau amsugno du hydrogen ar yr un donfedd 芒 llinellau allyrru llachar hydrogen.

Question

Sbectra llinell allyru chwe elfen. Maen nhw wedi鈥檜 labelu ag Anhysbys, Beryliwm, Copr, Mangan卯s, Strontiwm a Titaniwm.

Defnyddia'r sbectra atomig i adnabod yr elfen anhysbys.