大象传媒

Hanner oes ymbelydrol

Pan mae niwclews ansefydlog yn rhyddhau gronyn alffa neu beta, mae'r niwclews yn troi'n niwclews elfen newydd. Enw'r broses hon yw dadfeiliad ymbelydrol. Er bod dadfeiliad ymbelydrol yn digwydd ar hap, yn ystadegol, dros amser o'r enw hanner oes , bydd hanner y niwclysau ymbelydrol gwreiddiol wedi dadfeilio.

Sgwariau gwyrdd sy'n cynrychioli niwclysau ansefydlog perthnasol yn dadfeilio i epil-niwclysau a gynrychiolir gan sgwariau coch. Maen nhw鈥檔 dadfeilio o 16 atom ymbelydrol i 1 mewn 4 hanner oes.

Drwy ganfod yr hanner oes, gallwn ni gyfrifo pryd bydd elfen yn sefydlogi.

Edrych ar y diagram.

Yn y model dadfeiliad hwn, mae'r sgwariau gwyrdd yn cynrychioli'r niwclysau gwreiddiol ansefydlog. Maen nhw'n dadfeilio ac yn troi'n sgwariau coch 鈥 yr .

Mae'r broses yn digwydd ar hap. Alli di ddim dweud pryd bydd sgw芒r gwyrdd yn troi'n goch, ond ar 么l pob hanner oes, bydd hanner y niwclysau gwreiddiol gwyrdd wedi dadfeilio i droi'n epilniwclysau coch.

Diagram yn dangos yr atomau rhiant yn unig. Yn y dechrau mae 16 ac maen nhw鈥檔 hanneru ar 么l pob hanner oes hyd nes bod 1 ar 么l.  Mae pob dadfeiliad yn cael ei ddangos gan saeth a鈥檙 label T陆.

Dim ond yr atomau gwreiddiol sydd yn y diagram hwn. Sylwa eu bod nhw'n haneru ar 么l pob hanner oes. Mae鈥檙 diagram yn dechrau ag 16 o atomau. Mae'n dangos bod nifer y yn haneru bob hanner oes.

Graff yn plotio Cyfrifon y funud yn erbyn Amser (dyddiau). Mae鈥檙 cyfrifon y funud yn mynd o 0 i 80. Mae鈥檙 amser yn mynd o 0 i 10 diwrnod. Mae cylch o amgylch 80 cyfrif y funud ar yr echelin-y.

Mae'r graff hwn yn dangos patrwm dadfeiliad.

Mae gan bob isotop ymbelydrol gromlin dadfeiliad sy'n edrych fel hon, ond mae amseroedd yr hanner oesau'n gallu amrywio o eiliadau i filiynau o flynyddoedd.

Hanner oes isotop ymbelydrol yw'r amser mae'n ei gymryd i:

  • yr haneru
  • nifer y niwclysau gwreiddiol haneru
  • m脿s y niwclysau gwreiddiol haneru