大象传媒

Datblygu cymeriadauDadansoddi pwysau a gofod

Wrth ddatblygu cymeriad, meddylia am y llais, symudiadau, iaith y corff ac ystumiau. Dere o hyd i'w hamcanion a'u cymhellion, ac ymchwilia i gyd-destunau cymdeithasol, diwyllianol a hanesyddol.

Part of DramaGwaith sgript

Dadansoddi pwysau a gofod

Dadansodda dy arferion dy hun a dy ffyrdd dy hun o symud. Gwna鈥檙 ymarferion canlynol i dy helpu.

Pwysau

Darluniad o ddyn cyhyrog gyda choesau tenau yn gwisgo esgidiau bale yn siglo morthwyl at beiriant ffair profi cryfder

Cerdda o gwmpas yr ystafell i bob cyfeiriad. Cyflyma ac arafa. Meddylia am dy bwysau ar y llawr. Dydy hyn yn ddim byd i鈥檞 wneud 芒 faint rwyt 迟颈鈥档 ei bwyso, ond yn hytrach pa mor drwm neu benderfynol ydy dy gamau. Mae rhai pobl fawr yn gallu bod yn ysgafn iawn ar eu traed, ac i鈥檙 gwrthwyneb. Faint o egni a phwysau wyt 迟颈鈥档 eu rhoi yn dy gamau?

Gofod

Darluniad o ferch yn cymryd llawer o le ar lwyfan drwy ledaenu ei breichiau a chuddio merch llai o ran maint ac ofnus yr olwg

Meddylia am y gofod rwyt 迟颈鈥档 ei ddefnyddio. Does gan hyn ddim i鈥檞 wneud 芒 dy faint corfforol ond yn hytrach 芒 faint o le sydd ei angen arnat ti a faint o reolaeth sydd gen ti dros dy gorff. Mae rhai pobl yn cadw eu breichiau鈥檔 dynn wrth eu corff, ond mae eraill yn eu symud llawer ac efallai eu bod yn symud o ochr i ochr wrth gerdded. Gall pobl allblyg fod angen mwy o le na鈥檜 ffrindiau menblyg. Beth wyt 迟颈鈥档 ei wneud?

Related links