Digwyddiadau allweddol
Enlistio
Yn yr ail bennod mae Ellis yn dweud ei fod ef am ymuno 芒鈥檙 fyddin. Cyn hyn mae Gwen Jones 鈥 gwraig o鈥檙 pentref 鈥 wedi bod yn beirniadu bechgyn ifanc, iach
sydd heb wneud hyd yma. Y weithred hon sy鈥檔 selio tyngedFfawd; grym sy鈥檔 penderfynu beth sy鈥檔 digwydd i berson. Ellis.
Hywel a Lora yn cyfarfod
Stori Hywel a Lora yw鈥檙 brif stori garu yn y nofel. Mae鈥檙 ddau yn gorfod wynebu sawl rhwystr, fel gwrthwynebiad Dodo Citi i鈥檞 perthynas, cyn priodi ar ddiwedd y nofel.
Gadael Trawsfynydd
Ar 么l hyfforddi yn Lerpwl am rai wythnosau mae Ellis yn dychwelyd adref. Yn ystod yr adeg hon rydyn ni鈥檔 cael blas ar y cyfnod ac ar fywyd cefn gwlad yn ystod y rhyfel. Mae Ellis a Jini Owen yn sefydlu carwriaeth ac mae Ellis yn barddoni tra mae ef adref. Ym mhennod 14 mae Anni鈥檔 darganfod pennill o waith Ellis o dan y bwrdd. Dyma ddyfyniad o鈥檙 gerdd Gwenfron a Mi.
Mae Anni yn credu mai s么n am freuddwyd Ellis i fyw a magu teulu gyda Jini mae鈥檙 gerdd.
Dysgu mai Gruff yw tad Hywel
Daw mam Hywel, y wraig ddieithr
, i Drawsfynydd i chwilio am Ifor (tad Lora) am mai ef oedd un o鈥檙 bobl olaf i i weld Gruff Wmffra, ei g诺r, ym mrwydr Mametz. Mae hi鈥檔 dychryn wrth weld clwyfau wyneb Ifor ac yn gadael yn sydyn. Ymhen hir a hwyr, mae Ifor yn sylweddoli mai mab Gruff yw Hywel. Mae鈥檙 digwyddiad hwn yn drobwynt ym mherthynas Hywel 芒 theulu Lora. Cyn hyn nid yw Citi ac Ifor wedi bod yn groesawus i garwriaeth Hywel a Lora, ond yn dilyn darganfod pwy yw tad Hywel maen nhw鈥檔 llawer iawn mwy croesawus.
Marwolaeth Ellis
Nes ymlaen mae teulu Ellis yn darllen y papur newydd ac yn deall bod brwydr fawr wedi digwydd ar 30 Gprffennaf lle cafodd llawer iawn o filwyr eu lladd. Mewn llythyr roedd Ellis wedi disgrifio'r frwydr roedd e ynddi, ond heb ddweud yn lle'r oedd ef, a dywedodd hefyd ei fod wedi gorffen ei awdl a鈥檌 hanfon i鈥檙 Eisteddfod. Dyma鈥檙 tro olaf i鈥檙 teulu glywed ganddo ac roedd hynny cyn 30 Gorffennaf. Mae鈥檙 teulu yn cael cadarnhadY weithred o brofi rhywbeth i fod yn wir neu鈥檔 ffaith. o farwolaeth Ellis pan ddaw negesydd at y t欧 gydag amlen yn cynnwys newyddion drwg.
Ennill y gadair
Daw鈥檙 cyhoeddiad ei fod ef wedi ennill y gadair ar 么l i Ellis farw. Mae hyn yn gwneud y stori yn fwy trist gan mai ennill y gadair oedd un o freuddwydion Ellis a ni chafodd fyw i weld gwireddu'r freuddwyd honno.
Priodas Hywel a Lora
Mae鈥檙 nofel yn gorffen ar nodyn hapus ym mhriodas Hywel a Lora. Yn anrheg i鈥檙 cwpwl mae Anni鈥檔 rhoi un o gerddi Ellis, Gwenfron a Mi.
More guides on this topic
- Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros
- O Ran gan Mererid Hopwood
- Dim gan Dafydd Chilton
- Ac Yna Clywodd S诺n y M么r gan Alun Jones
- Bachgen yn y M么r gan Morris Gleitzman
- I Ble'r Aeth Haul y Bore? gan Eirug Wyn
- Llinyn Tr么ns gan Bethan Gwanas
- Y Stafell Ddirgel gan Marion Eames
- Yn y Gwaed gan Geraint V Jones