大象传媒

Diffodd y S锚r gan Haf LlewelynCrefydd yn y nofel

Hanes teulu y bardd Hedd Wyn yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yw Diffodd y S锚r. Mae ei deulu a鈥檌 ffrindiau yn gymeriadau gwahanol iawn sy鈥檔 delio ag effaith y rhyfel mewn ffyrdd gwahanol iawn.

Part of Llenyddiaeth GymraegNofelau

Crefydd yn y nofel

Mae crefydd yn rhywbeth pwysig yn y nofel ac roedd Cristnogaeth yn rhan fawr o fywyd pobl Trawsfynydd (a Chymru yn gyffredinol) yn y cyfnod hwn. Nid dim ond ar ddydd Sul yr oedd crefydd yn bwysig, roedd yn rhan gymdeithasol o鈥檜 bywydau yn ystod yr wythnos hefyd.

Band of Hope

Roedd y Band of Hope yn digwydd yn ystod yr wythnos. Yn y cyfarfod, roedd plant a phobl ifanc yn cael cyfle i ddysgu mwy am straeon y Beibl, am ddrygioni ac am sut i ymddwyn yn dda. Roedd hefyd yn lle da i gyfarfod pobl eraill. Yn y stori mae Ifan, brawd Anni, yn cael cariad yno ac mae鈥檔 un o鈥檙 lleoedd mae Lora a Hywel yn dod i adnabod ei gilydd yn well.

骋飞别诲诲茂辞

Bydd Anni yn troi at Dduw ac yn gwedd茂o pan fydd rhyw broblem yn ei phoeni hi.

Y Beibl

Mae鈥檙 Beibl yn rhan ganolog o鈥檙 cartref. Yn y stori mae llawer o bethau yn cael eu cadw yn y Beibl, er enghraifft llythyrau, papurau pwysig sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 teulu a cherddi.

Cadw鈥檙 Sul

Roedd 鈥榗adw鈥檙 Sul鈥 yn bwysig iawn ers talwm. Roedd yn golygu nad oedd neb yn gweithio ar ddydd Sul.

Dyfyniadau am grefydd

Mae siarad efo Duw ychydig 鈥檙un fath 芒 siarad efo chwaer fach ... Gei di鈥檙 farblen yna gen i os ei di i 鈥檔么l d诺r yn fy lle i. Ffeirio 鈥 dyna sut mae siarad efo Duw yn gweithio.

Mae pawb yn rhy brysur yn gwedd茂o, yn gwedd茂o am eu pryderon bach cyfrin ac yn trio gwneud bargeinion efo Duw. Lle felly ydi Trawsfynydd ar ddydd Sul.

Os ydi Duw mor ffeind, pam ei fod o鈥檔 gadael i Ellis ni fynd i ryfel? A pham ei fod o wedi gorfodi Dewyrth Ifor i ddod adra heb hanner ei wyneb?