Iaith ac arddull
Mesur
Mae’r gerdd hon ar fydr ac odl a phob pennill yn dilyn patrwm:
- wyth llinell ym mhob pennill
- wyth sill a saith sill bob yn ail
- odl bob yn ail llinell
Mae rhythmau’r llinellau’n ychwanegu at neges y gerdd sef fod y bardd yn gwrthryfela yn erbyn defodau a chyfyngiadau cymdeithas ac yn ymhyfryduMwynhau rhywbeth yn fawr, teimlo’n hapus neu’n falch. yn y ffaith fod rheolau’n cael eu torri weithiau. Mae’r bardd yn dewis glynu at reolau pendant y gerdd i ddangos ein bod ni i gyd yn gaeth i reolau amser yn y pendraw.
Rhestru
Mae’r bardd yn defnyddio’r dechneg o restru amseroedd penodol sy'n ein caethiwo. Maen nhw'n adleisio’r cyfyngiadau amser rydyn ni’n eu gweld o ddydd i ddydd, ar arwyddion ac ati.
rhwng wyth a deg y bore
wedi deg o’r gloch
erbyn un ar ddeg o’r gloch
o naw tan ddau
Mae’r llinell o restru ar stryd na pharc na heol
yn tynnu ein sylw at yr holl lefydd sy’n cael eu heffeithio gan gyfyngiadau a rheolau amser. Cawn ein hatgoffa mai dim ond yn ein dychymyg yr ydyn ni’n rhydd go iawn.
Berfau amhersonol
Drwy ddefnyddio berfau amhersonol, sef iaith ffurfiol fel a gyfyngir
a hebryngir
mae’r iaith yn un ddiwyneb, heb berson penodol yn annerch, yn union fel camerâu cudd.
Trosiad
Yn yr un modd â llawer o feirdd eraill, mae’r bardd yn defnyddio delweddau natur i wrthgyferbynnu â chyfyngiadau y mae dyn yn ei osod arno’i hun. Yn y trosiad y niwl a’r barrug/yn fwgwd am y camerâu
mae’n awgrymu eu bod yn dallu llygad y lens dros dro i roi cyfle i bobl dorri rheolau.
Caiff trosiad ei ddefnyddio i ddisgrifio’r swyddogion sy’n gosod y cyfyngiadau fel llewod sy’n rhy ddiog i fynd allan i hela eu prae, yn swatio’n gynnes yn eu ffau
. Ond am fod lens pob camera wedi’i orchuddio mae’r ysbrydion yn cael hwyl am eu pennau am i’r swyddogion aros yng nghlydwch eu swyddfeydd.
Ansoddeiriau
Mae’r ansoddair sarrug
yn cyfleu diflastod y bardd a’i deimladau negyddol tuag at warchodwyr blin
y rheolau.
Ailadrodd
Mae’n arwyddocaol fod dawnsio
yn cael ei ailadrodd gan mai dawnsio’n rhydd o afael y rheolau yw’r ddelwedd a geir yn y dilyniant mae’r gerdd hon yn perthyn iddo. Mae dawnsio’n gwrthgyferbynnu gyda’r holl reolau sy’n gwahardd y weithred.
Tafodiaith
Mae Caerdydd yn gymeriad blaenllaw yn y gerdd hon ac felly mae’n dilyn fod geiriau ac ymadroddion tafodieithol fel, edrych mas
a gore
yn cael eu defnyddio i ddathlu cysylltiad balch y bardd gyda’r lle.
More guides on this topic
- Etifeddiaeth gan Gerallt Lloyd Owen
- Ofn gan Hywel Griffiths
- Y Coed gan Gwenallt
- Walkers' Wood gan Myrddin ap Dafydd
- Tai Unnos gan Iwan Llwyd
- Y Ferch wrth y Bar yng Nghlwb Ifor gan Rhys Iorwerth
- Gweld y Gorwel gan Aneirin Karadog
- Eifionydd gan R Williams Parry
- Y Sbectol Hud gan Mererid Hopwood
- Cymharu dwy gerdd
- Nodweddion arddull
- Y mesurau caeth
- Y mesurau rhydd